Cartrefi Cyntaf Caerdydd

Cynllun Perchentyaeth Rhannu Ecwiti a gynigir gan Gyngor Caerdydd yw Cartrefi Cyntaf Caerdydd. Os ydych am brynu eich cartref cyntaf, gallwn helpu i wneud y broses yn haws i chi.

Cynllun Rhannu Ecwiti yw lle rydych yn prynu cyfran ganrannol o eiddo, ond chi fydd perchennog cyfreithiol yr eiddo ar ôl cwblhau’r gwerthiant. 70% yw’r ganran hon fel arfer. Mae’r gyfran ecwiti sy’n weddill (30%) yn dâl yn erbyn yr eiddo, y gallwch ei brynu’n ddiweddarach. Ni fyddwch yn talu rhent ar y 30% ac nid oes rhaid i chi ei ad-dalu i’r Cyngor tra byddwch yn berchen ar yr eiddo.

Mae gennym eiddo modern ar gael ledled Caerdydd, yn amrywio o fflatiau un ystafell wely i dai tair ystafell wely. Mae’r rhan fwyaf o’r eiddo ar safleoedd adeiladu newydd gydag adeiladwyr tai preifat neu gyda’r Cyngor ei hun.

Gallwch hefyd brynu eiddo yr oedd rhywun arall yn berchen arno yn y gorffennol. Rydym yn ailwerthu cartrefi sydd wedi’u prynu drwy ein cynllun os yw’r perchennog yn penderfynu gwerthu ei gartref.

Os oes gennych ddiddordeb mewn prynu eiddo drwy’r cynllun hwn, bydd angen i chi gofrestru yn gyntaf.

Cyn i chi gofrestru, gwiriwch a ydych yn gymwys. Mae’n rhaid i chi fod yn:

  • Dros 18 oed;
  • Yn ddeiliad pasbort cyfredol neu fod ganddynt ‘ganiatâd amhenodol i aros’ wedi’i stampio yn eu pasbort. Rhaid i ymgeiswyr heb ganiatâd amhenodol i aros sydd â diddordeb mewn prynu cartref, allu dangos y gallu i sicrhau morgais gyda benthyciwr ag enw da
  • Yn brynwr tro cyntaf
  • Yn brynwr tro cyntaf ‘ yn eich hawl eich hun’. (Byddai’r bobl sy’n perthyn i’r categori hwn yn ymgeiswyr sydd wedi bod yn berchen ar eiddo ar y cyd ac o ganlyniad i berthynas yn chwalu, nid ydynt yn berchen ar eiddo mwyach)
  • Yn gallu bodloni ymrwymiad ariannol hirdymor perchentyaeth

Yn ogystal â’r uchod, i fod yn gwbl gymwys, rhaid i ymgeiswyr naill ai fod yn –

  • Byw a / neu yn gweithio yng Nghaerdydd ers y 6 mis diwethaf
  • Gweithiwr allweddol yn symud i Gaerdydd am swydd *
  • Gadael y Lluoedd Arfog (*rhaid i ymgeiswyr fod wedi byw yng Nghaerdydd am o leiaf chwe mis yn syth cyn ymuno â’r Lluoedd Arfog)
  • Symud i Gaerdydd am resymau personol neu broffesiynol ac â chysylltiad lleol sefydledig â Chaerdydd.

* ystyrir mai gweithwyr allweddol yw’r rhai sy’n gweithio ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Addysg a Gofal Plant, Diogelwch y Cyhoedd a Diogelwch Cenedlaethol a Bwyd a nwyddau hanfodol angenrheidiol eraill. Gall y gweithwyr allweddol a ystyrir newid yn unol â chanllawiau’r llywodraeth

I gael mwy o wybodaeth am ein meini prawf cymhwysedd, gallwch ddarllen ein Polisi enwebu.

Os ydych chi’n gymwys, gallwch gofrestru ar gyfer cynllun Cartrefi Cyntaf Caerdydd ar-lein

Os nad ydych yn siŵr a ydych yn gymwys, gallwch hefyd gysylltu â’r tîm.

Ar ôl cofrestru, gallwch chwilio am gartrefi sydd ar werth.

Eiddo ar werth

Pethau i’w hystyried wrth brynu eiddo Cartrefi Cyntaf Caerdydd