Lonydd Cefn a Gatiau

Mae llawer o lonydd cefn a gylïau ledled dinas Caerdydd. Gallant roi mynediad defnyddiol a llwybrau cyflym i gerddwyr a cherbydau. Fodd bynnag, gallant fod yn fannau poblogaidd ar gyfer troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, sy’n golygu bod preswylwyr cyfagos neu’r rhai sy’n defnyddio’r llwybr yn teimlo’n anniogel.  Rydym yn awyddus i fynd i’r afael â’r problemau hyn er mwyn gwella safon bywyd preswylwyr Caerdydd.

Mae Lonydd cefn fel arfer yn lonydd sy’n hygyrch i gerbydau gyda chyrbau isel sy’n cysylltu â’r brif briffordd. Mae’r rhan fwyaf yn briffyrdd mabwysiedig a gellir eu defnyddio fel llwybrau defnyddiol gan gerddwyr a beicwyr i ffwrdd o ffyrdd prysur, yn ogystal â darparu mynediad i barcio oddi ar y ffordd i breswylwyr cyfagos.

Lle ceir lefelau parhaus a chyson o droseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn lôn gefn sy’n effeithio ar y gymuned leol, efallai y bydd modd ystyried cynllun gatiau lonydd cefn, yn amodol ar fodloni gofynion technegol, cyfreithiol ac ymgynghori.

Cynlluniau Gatiau Lonydd Cefn

Mae gosod gatiau lôn gefn yn ffordd effeithiol o atal neu leihau troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, sy’n cynnwys gosod gatiau y gellir eu cloi ar ben draw’r lonydd, sy’n cyfyngu ar fynediad i’r cyhoedd yn ehangach.

Mae dros 200 o lonydd ar draws y ddinas wedi cael gatiau  ers 2007, ac ar hyn o bryd rydym wedi ymrwymo’n llawn i Raglen gatiau 2 flynedd. Mae dros 180 o lonydd cefn yn weddill ar ein rhestr o geisiadau gosod gatiau sy’n aros am asesiad a blaenoriaethu.

Sylwer nad yw pob lôn yn addas ar gyfer gât; efallai na fydd yn bosibl gosod gât ar lôn gefn sy’n cael ei defnyddio’n aml, lôn nad oes ffiniau naturiol iddi neu sy’n darparu’r unig fodd o gael mynediad i eiddo preswyl neu fusnes.  Rhaid i gynlluniau wedi’u blaenoriaethu hefyd gael eu cefnogi’n dda gan berchnogion / meddianwyr eiddo cyfagos y bydd y gosodiad yn effeithio’n uniongyrchol arnynt.

Os hoffech wirio a yw eich lôn ar ein rhestr o geisiadau ar hyn o bryd, cysylltwch â ni yn adfywio@caerdydd.gov.uk

Ymgynghoriadau’r Cynllun Gatiau

Os ydych wedi derbyn llythyr gennym yn ddiweddar am giât yn cael ei gosod yn eich ardal leol neu os bydd giât arfaethedig yn effeithio ar eich eiddo neu fusnes, hoffem glywed gennych.

Adborth ar gynllun gatiau wedi’i gwblhau

Os ydych wedi derbyn llythyr gennym yn ddiweddar yn gofyn am adborth ar gynllun wedi’i gwblhau yn eich ardal, byddem wrth ein bodd yn clywed eich barn.

Gwneud cais am allweddi gatiau lôn gefn

Ceir manylion am sut a ble i gael allwedd gât yr ale ar wefan Cyngor Caerdydd.

Gellir hefyd weld manylion cynlluniau arfaethedig a gorchmynion gatiau (Gorchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus) cyfredol yma.