Community Hubs Map - Welsh

Mae’r Cyngor yn gweithio mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro (BIPCaF) i ddarparu cyfleusterau integredig newydd a fydd yn gwella’r ddarpariaeth iechyd a lles cymunedol mewn lleoliadau allweddol ledled y ddinas.

Mae’r cynlluniau partneriaeth hyn â’r canlynol wrth eu gwraidd:

  • Yn unol â’r strategaeth ‘Llunio Dyfodol Ein Lles’  Trawsnewid a Gwella – Llunio Dyfodol Ein Lles – Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro
  • Mae BIPCaF a’r Cyngor wedi ymrwymo i integreiddio a moderneiddio gwasanaethau iechyd a chymunedol a rhannu’r defnydd o asedau’r sector cyhoeddus, fel y nodir yng Nghynllun Llesiant Caerdydd.
  • Mae egwyddorion y Canolfannau Llesiant yn cyd-fynd yn gryf ag ethos rhaglen Hybiau Cymunedol y Cyngor, sydd wedi sefydlu darpariaeth gwasanaeth cydgysylltiedig a gweithio mewn partneriaeth mewn cymdogaethau â blaenoriaeth.
  • Bydd y Canolfannau Llesiant yn cefnogi grwpiau iechyd, awdurdodau lleol a’r trydydd sector i ddarparu cyngor ar lesiant, addysg, cymorth a chyfeirio.

Yn y ddau gynllun, mae’r tîm adfywio yn gweithredu fel prif gyswllt y Cyngor ac yn dwyn ynghyd ystod eang o egwyddorion prosiect a rolau’r cyngor yn ymwneud â materion Hybiau, Cynllunio, Parciau ac Ystadau. Rydym hefyd yn gweithio’n agos gyda’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Hafan – Partneriaeth Gofal Cymdeithasol Integredig Caerdydd a’r Fro (cvihsc.co.uk/cy/) ar gynllunio cyfalaf a gwaith partneriaeth sy’n cynnwys Cyngor Caerdydd, Cyngor y Fro, BIPCaF, Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig a’r trydydd sector.

Mae ein prosiect partneriaeth gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro nawr ar agor – bydd yn darparu canolfan iechyd a lles gymunedol integredig gyntaf Caerdydd yn y Maelfa. Bydd yn cefnogi’r gwaith o ddarparu gwasanaethau cydgysylltiedig mewn partneriaeth a bydd yn gaffaeliad mawr i’r gymuned.