Bydd Cyngor Caerdydd yn creu parc chwarae newydd i blant, ger Neuadd Llanrhymni.
Mae’r prosiect hwn yn rhan o Raglen Cynllun Adnewyddu Cymdogaethau’r Cyngor, sy’n cyflawni cynlluniau gwella a awgrymir gan gynghorwyr lleol. Dyma’r cam cyntaf yn y broses ymgysylltu a bydd eich mewnbwn yn ein helpu ni i baratoi cynlluniau ar gyfer y parc newydd. Bydd y parc newydd yn disodli cynigion ar gyfer AChA yn yr ardal hon na ellir ei darparu mwyach.
Dweud Eich Dweud!
Diolch am gyflwyno eich sylwadau ynghylch y parc chwarae arfaethedig newydd. Bydd y sylwadau a dderbyniwyd yn cael eu defnyddio i helpu i ddylunio’r parc ac unwaith y bydd gennym ddyluniad, byddwn yn rhannu diweddariad â thrigolion.
Cysylltwch â ni
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon am y prosiect hwn, cysylltwch â ni.