Hoffai Cyngor Caerdydd adleoli Parc Chwarae Sblot i ymyl y caeau pêl-droed ger Hyb STAR ar Heol Muirton.
Mae’r prosiect hwn yn rhan o Raglen Cynlluniau Adnewyddu Cymdogaethau’r Cyngor, sy’n bwrw ymlaen â chynlluniau gwella a awgrymir gan gynghorwyr lleol. Dyma gam cyntaf y broses ymgysylltu a bydd eich ymatebion yn ein helpu i baratoi cynlluniau ar gyfer y parc newydd.
Dweud Eich Dweud!
Diolch am siarad â ni yn ein digwyddiadau ymgysylltu ym mis Rhagfyr a chyflwyno eich sylwadau. Bydd y sylwadau a dderbyniwyd yn cael eu defnyddio i helpu i ddylunio’r parc. Unwaith y bydd gennym ddyluniad cysyniad, byddwn yn diweddaru trigolion.
Cysylltwch â ni
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon am y prosiect hwn, cysylltwch â ni.
Lleoliad
Postiwyd ar Rhagfyr 1, 2023