Cartrefi Cyntaf Caerdydd

Penderfynwch faint allwch chi fforddio ei wario.

Y prif beth y mae pawb am ei wybod pan fyddant yn dechrau chwilio am gartref yw faint y gallant ei fenthyca.

Trwy siarad â benthyciwr morgais, byddwch yn gallu cyfrifo’r hyn y gallwch fforddio ei dalu’n gyfforddus bob mis. Bydd hynny’n rhoi syniad i chi o’r ystod brisiau y dylech fod yn edrych arni pan fyddwch yn dechrau chwilio am eich cartref.

I gyfrifo faint y gallwch fforddio ei dalu bob mis, mae angen i chi ystyried eich holl wariant, gan gynnwys unrhyw wariant ychwanegol a allai fod gennych yn eich cartref newydd, fel yswiriant cartref, biliau trydan/nwy/dŵr, y dreth gyngor, teledu a band eang ac ati.

Bydd angen i chi amcangyfrif costau a ffioedd ychwanegol wrth brynu cartref.

Bydd angen i chi sicrhau eich bod yn gallu fforddio talu’r holl gostau arferol sy’n gysylltiedig â phrynu tŷ.

Ymhlith y rhain mae’r canlynol:

  • Ffioedd prisio / tirfesur
  • Costau cyfreithwyr a’r gofrestrfa tir
  • Ffioedd chwilio
  • Blaendal Morgais (bydd y swm/canran blaendal byddwch yn ei dalu yn dibynnu ar eich benthyciwr morgais a’r morgais rydych yn gwneud cais amdano)
  • Treth Trafodiadau Tir (treth stamp fel arfer). Bydd hyn yn dibynnu ar arwynebedd a gwerth yr eiddo. Gallwch gyfrifo’r dreth ar wefan Llywodraeth Cymru
  • Ffioedd Cadw Plotiau (yn dibynnu ar bolisi’r datblygwr tai)

Yn ogystal â’r taliadau untro hyn sy’n gysylltiedig â phrynu tŷ, bydd hefyd angen i chi sicrhau eich bod yn gallu fforddio’r costau parhaus megis:

  • Taliadau morgais misol;
  • Y Dreth Gyngor
  • Biliau cyfleustodau;
  • Costau cynnal a chadw ac atgyweirio eiddo;
  • Yswiriant adeiladau a chynnwys;
  • Yswiriant bywyd neu yswiriant bywyd ar forgais;
  • Tâl gwasanaeth a rhent tir (ar gyfer eiddo lesddaliad).

Mathau o Berchnogaeth

Rhydd-ddeiliadaeth

Mae rhydd-ddeiliad eiddo yn berchen arno’n llwyr, gan gynnwys y tir y mae wedi’i adeiladu arno.  Fel rhydd-ddeiliad, mae gennych gyfrifoldeb llawn am gynnal a chadw ac atgyweirio eiddo a’i dir.

Prydles

Os ydych yn prynu eiddo lesddaliad, byddwch yn berchen ar eich cartref eich hun am hyd eich cytundeb prydles gyda’r rhydd-ddeiliad, perchennog yr eiddo.  Bydd y brydles yn nodi pwy sy’n gyfrifol am gynnal ac atgyweirio gwahanol rannau o’r eiddo ac unrhyw amodau y mae’n rhaid i chi eu bodloni.  Mae’n rhaid i chi hefyd dalu rhent tir ac unrhyw gostau gwasanaeth neu reoli sy’n gysylltiedig â’r eiddo.  Mae’r rhan fwyaf o fflatiau yn eiddo lesddaliadol.

Pan fyddwch wedi penderfynu ar y cartref rydych am ei gael

Os penderfynwch yr hoffech brynu eiddo ecwiti a rennir, bydd angen i chi gofrestru ar gyfer ein cynllun yn gyntaf fel y gellir gwirio eich cymhwysedd.   Os ydych yn gymwys ar gyfer ein cynllun, byddwch yn derbyn manylion yr eiddo ecwiti a rennir wrth iddynt ddod ar gael.

Os oes gennych ddiddordeb mewn eiddo penodol rydym wedi’i hysbysebu, bydd angen i chi lenwi ffurflen gais ar wahân.  Cofiwch gynnwys yr holl dystiolaeth ofynnol y gofynnir amdani.   Ein nod yw asesu’r holl geisiadau sydd wedi’u cwblhau’n llawn cyn gynted â phosibl a byddwn yn cysylltu â chi i roi gwybod i chi os ydych wedi bod yn llwyddiannus.

Sut mae cynllun Ecwiti a Rennir yn gweithio?

Mae Ecwiti a Rennir yn caniatáu i chi brynu 100% o eiddo am ganran o’i werth marchnad agored, fel arfer mae hyn yn 70%.  Yn wahanol i gydberchnogaeth, nid oes rhent i’w dalu ar y gost 30% sy’n weddill o’r eiddo.  Mae’r gyfran ecwiti sy’n weddill (30%) yn dâl yn erbyn yr eiddo, y gallwch ei brynu’n ddiweddarach yn aml. Darllenwch fwy o wybodaeth am Cynlluniau Rhannu Ecwiti a sut maen nhw’n gweithio.

Gwneud cais am eich morgais

Os ydych wedi clywed gennym fod eich cais wedi bod yn llwyddiannus, bydd gennych dystysgrif morgais mewn egwyddor eisoes, felly dylai gwneud cais am forgais fod yn syml.

Byddwn yn anfon llythyr cynnig dros dro atoch ar gyfer yr eiddo, a fydd yn darparu’r holl fanylion eiddo y bydd eu hangen i chi wneud cais am eich morgais.   Bydd angen i chi ddarparu copi o’r llythyr hwn i’ch cynghorydd morgais neu’ch banc os ydych yn gwneud cais am eich morgais yn uniongyrchol.

Os ydych yn gwneud cais am eiddo sydd newydd ei adeiladu, mae gan y datblygwr Gynghorydd Morgais yn aml, ac efallai yr hoffech ei ddefnyddio i’ch helpu i gael eich morgais.

Os ydych yn prynu eiddo ailwerthu, gallwn ddarparu rhestr i chi o ddarparwyr morgeisi sy’n cefnogi tai ecwiti a rennir, ond ni allwn wneud argymhellion.

Bydd angen cynnig morgais arnoch gan eich benthyciwr dewisol cyn i ni allu gwneud cynnig ffurfiol o’r eiddo a’r contractau cyfnewid i chi.   Felly cyn gynted ag y byddwch yn derbyn eich cynnig morgais, anfonwch gopi atom, fel y gallwn sicrhau ei fod yn addas ar gyfer ein cynllun.  Pan fyddwn wedi’i dderbyn, byddwn yn anfon cynnig ffurfiol atoch ar gyfer eich llain dewisol ac yn anfon papurau’r contract at eich cyfreithiwr penodedig.

Prynu eiddo newydd ei adeiladu

Os ydych yn prynu eiddo newydd ei adeiladu, bydd angen i chi ei gadw gyda’r datblygwr a thalu ffi cadw lleiniau. I gadw eich cartref newydd, bydd angen i chi wneud apwyntiad i lofnodi ffurflen cadw a thalu’r ffi, na ellir ei had-dalu fel arfer os byddwch yn penderfynu peidio â phrynu.  Bydd tîm gwerthu’r datblygwr yn siarad â chi am yr hyn sy’n dod yn safonol yn eich cartref newydd ac os gallwch wneud unrhyw uwchraddio i’r fanyleb safonol. Yn amodol ar y datblygwr a’r cam adeiladu, efallai y gallwch ddewis eich ffitiadau cegin ac ystafell ymolchi.

Penodi cyfreithiwr

Bydd eich cyfreithiwr yn gofalu am ochr gyfreithiol y pryniant i chi.  Rhowch wybod i’ch cyfreithiwr ar unwaith eich bod yn prynu eiddo ecwiti a rennir a rhoi copi iddynt o’ch llythyr cynnig dros dro i sicrhau bod yr holl ddogfennau cywir ar waith.  Rhowch wybod i’ch cyfreithiwr na fydd y cyngor yn anfon unrhyw bapurau contract tan i ni dderbyn copi o’ch cynnig morgais.

Dywedwch wrthym ac wrth unrhyw ddatblygwr tai pwy yw eich cyfreithiwr cyn gynted ag y byddwch wedi penodi un.

Prisio

Bydd eich benthyciwr yn gwneud prisiad o’r eiddo er mwyn sicrhau eu bod yn hapus â’r pris prynu.  Pan fydd y benthyciwr wedi’i fodloni, byddant yn rhoi cynnig morgais i chi.

Cofiwch anfon eich cynnig morgais atom ni a’ch cyfreithiwr ar ôl i chi dderbyn telerau’r cynnig.

Trefnu Yswiriant

Yswiriant adeiladau

Pan fyddwch yn prynu eiddo rhydd-ddaliad, mae’n ofynnol i chi gymryd yswiriant adeilad gan eich darparwr morgais rhag ofn i’ch cartref gael ei ddifrodi ac mae angen ei atgyweirio.

Os ydych yn lesddeiliad, bydd yswiriant adeilad fel arfer yn cael ei gynnwys yn y taliadau a wnewch i’r rhydd-ddeiliad fel rhan o’ch gwasanaeth a’ch tâl rheoli.  Dylech ofyn i’ch cyfreithiwr wirio bod hyn wedi’i gynnwys yn y brydles.

Yswiriant cynnwys

Mae hyn yn yswirio eich cartref rhag colled, difrod neu ladrad.  Boed yn rhydd-ddeiliad neu’n lesddeiliad, bydd angen i chi drefnu yswiriant cynnwys os ydych yn dymuno diogelu eich eiddo.

Cyfnewid contractau

Pan fyddwch chi a’ch cyfreithiwr yn fodlon bod popeth mewn trefn, gellir cyfnewid contractau. Bydd contractau’n cael eu cyfnewid rhwng eich cyfreithiwr, cyfreithiwr y cyngor a chyfreithiwr y datblygwr neu gyfreithiwr perchennog yr eiddo rydych yn ei brynu.

Bydd yn rhaid i chi dalu eich blaendal wrth gyfnewid contractau.  Dyma’r swm canran y cytunwyd arno fel rhan o’ch cais am forgais.   Dyma’r pwynt lle mae’r prynwr a’r gwerthwr wedi’u rhwymo’n gyfreithiol gan delerau’r contract. Os byddwch yn tynnu allan ar yr adeg hon, byddwch yn colli eich blaendal a bydd yn cael ei ystyried yn torri’r contract.

Cwblhau

Dylech drafod gyda’ch cyfreithiwr y dyddiad cwblhau disgwyliedig.  Dylech sicrhau eich bod wedi cytuno ar ddyddiad terfynol sy’n gadael digon o amser i chi drefnu popeth ar gyfer pan fyddwch yn symud.

Pan fydd eich dyddiad cwblhau terfynol wedi’i gadarnhau, gallwch drefnu a chadarnhau ymarferoldeb eich symud. Archebu cwmni symud, trefnu unrhyw gysylltiadau newydd, ffôn, band eang, gwasanaethau teledu ac ati.

Sicrhewch eich bod yn cysylltu â chyfleustodau cartref megis gwasanaethau nwy, trydan a dŵr.  Peidiwch ag anghofio eich banc, yswiriant, meddyg, DVLA a darparwyr trwydded teledu. Mae’n siŵr y bydd eraill y bydd angen i chi eu diweddaru.

Diwrnod Symud

Bydd eich cyfreithiwr yn rhoi gwybod i chi cyn gynted ag y bydd eich cartref wedi cwblhau’n gyfreithiol, a gallwch gasglu eich allweddi.

Cofiwch nodi darlleniadau’r mesurydd ar eich cyfleustodau nwy, trydan a dŵr, a pheidiwch ag anghofio cymryd y darlleniadau o’r cartref rydych yn symud ohono a dweud wrth eich darparwyr eich bod wedi symud.