Mae Cyngor Caerdydd yn bwriadu gwneud gwelliannau i Stryd Maria fel rhan o raglen y Cynllun Adfywio Cymdogaethau (CAC).
Bydd y gwelliannau’n cynnwys:
- Rhoi wyneb newydd ar y ffordd
- Rhoi wyneb newydd ar y llwybr troed
- Uwchraddio ardaloedd palmantog
- Storfa finiau i Islamic Court er mwyn tynnu biniau o’r llwybr troed
- Gosod gatiau ar lonydd cefn cul.
- Palmentydd ataliol
Dweud Eich Dweud!
Hoffem glywed eich barn ar ein cynigion a bydd unrhyw sylwadau a wnewch yn cael eu defnyddio i lywio’r dyluniadau terfynol.
Byddwn yn prosesu’ch data personol yn unol â’n tasg gyhoeddus dan GPDR y DU ac yn unol â deddfwriaeth diogelu data gyfredol. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio a phrosesu’ch data personol, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd.
https://privacy.cardiffcouncilwebteam.co.uk/Preifatrwydd.php?site=devregen&lang=cymraeg
Cysylltwch â ni
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon am y prosiect hwn, cysylltwch â ni.
Lleoliad
Postiwyd ar Tachwedd 23, 2023