Computer generated image of Houses - Exterior

Cefndir

Cafodd hen safle Ysgol Uwchradd Tredelerch ei adfeddu ar gyfer rhaglen datblygu Tai’r Cyngor i alluogi datblygiad tai deiliadaeth gymysg i gael ei gwblhau drwy raglen Cartrefi Caerdydd – ein partneriaeth datblygu arloesol gyda Wates Residential.

Mae’r safle’n cynnig cyfle gwych i godi’r safonau ar gyfer datblygu tai deiliadaeth gymysg ar raddfa fawr iawn gan wir ganolbwyntio ar seilwaith gwyrdd, creu lleoedd, dull enghreifftiol o ymdrin â Systemau Draenio Dinesig Cynaliadwy ac, am y tro cyntaf ar raddfa fawr, adeiladu cartrefi newydd i safon carbon isel hynod gynaliadwy.

Mae Wates a Chyngor Caerdydd hefyd wedi partneru â Sero Homes ar y safle hwn er mwyn sicrhau bod 214 o gartrefi newydd yn cael eu datblygu’n wirioneddol gynaliadwy, gan harneisio technoleg adnewyddadwy ar y safle, deunyddiau uchel eu perfformiad ar gyfer yr adeiladau, a sicrhau’r ynni solar mwyaf posibl, ynghyd â rheoli ynni parhaus gan Sero er mwyn sicrhau bod y dechnoleg yn cael ei defnyddio i leihau carbon gweithredol a sicrhau bod biliau ynni’n cael eu cadw’n isel i drigolion.

Mae 60% o’r cartrefi ar y safle wedi cael eu gwerthu. Disgwylir i’r gwaith adeiladu ddod i ben yn haf 2024. Mae disgwyl i ail gam gael ei gyflwyno ar y tir cyfagos sy’n wynebu Heol Casnewydd, a bydd fflatiau yn cael eu dwyn ymlaen i fod ar werth, er nad oes disgwyl i hyn ddechrau am 2 flynedd arall.

Bydd y safle’n darparu cyfuniad o gartrefi newydd a chynllun fflatiau  ‘Byw yn y Gymuned’ i bobl hŷn. Mae pob eiddo wedi’i adeiladu i gyrraedd safon carbon isel sy’n ein helpu i symud yn gyflym tuag at ddarparu rhaglen adeiladu carbon sero-net. Nod y cynllun yw:

  • Ymgorffori technolegau carbon isel mewn tai traddodiadol eu natur
  • Datblygu cartrefi carbon isel ar raddfa fawr
  • Profi a ellir adennill gwerth cartrefi carbon isel mewn gwerthoedd gwerthu uwch
  • Bod yn brosiect enghreifftiol ar gyfer Morgais Gwyrdd Cymdeithas Adeiladu Monmouthsire

I wneud hynny penodwyd Cartrefi Sero fel partner i helpu i ddylunio a darparu’r cartrefi newydd gan gynnwys gwell Ffabrig a Thechnolegau carbon isel fel a ganlyn:

  • Gwelliant o 17% o ran ffabrig yn uwch na’r rheoliadau adeiladu presennol
  • Pympiau gwres o’r ddaear ar gyfer pob eiddo
  • Gwres dan y lloriau
  • Silindrau dŵr poeth/storfeydd ynni clyfar
  • Paneli ffotofoltäig
  • Storfa batris
  • Gwefru Cerbydau Trydan ar gyfer pob cartref
  • System Rheoli Ynni Deallus (Sero BEE)

Oherwydd ein partneriaeth arloesol gyda Wates Residential, bu modd i ni ddechrau’r pecyn sylfeini cyn i’r contract JCT gael ei gwblhau gan ganiatáu i ni wneud cynnydd cynnar ar y safle a dad-risgio’r prosiect.

Bydd y Cynllun yn darparu Datblygiad Preswyl Di-garbon Parod ar raddfa. Bydd pob cartref yn gynaliadwy iawn ac yn effeithlon o ran ynni i sicrhau bod biliau cyfleustodau’n cael eu cadw’n isel i breswylwyr.

214 o Gartrefi, yn cynnwys:

  • 149 o Gartrefi ar werth
  • 15 o Gartrefi ar rent fforddiadwy
  • 6 o Gartrefi ar gyfer perchentyaeth cost isel
  • 44 o fflatiau rhent fforddiadwy i bobl oedrannus mewn Bloc Byw yn y Gymuned

Bu ffocws gwirioneddol ar greu lleoedd, gan greu’r hyn a fydd, yn ein barn ni, yn lle dymunol iawn i fyw ynddo. Rydym hefyd yn darparu strategaeth SDCau enghreifftiol sy’n ymgorffori’r seilwaith gwyrdd. Mae’r diddordeb yn y safle hwn wedi bod yn drawiadol ac rydym yn falch iawn o allu cynnig nifer o gartrefi newydd i brynwyr tro cyntaf drwy ein cynllun Perchentyaeth â Chymorth – Cartrefi Cyntaf Caerdydd

Mae’r cynllun yn brosiect enghreifftiol allweddol o fewn strategaeth Un Blaned Cyngor Caerdydd i fod yn ddinas carbon niwtral erbyn 2030. Dyfarnwyd grant RhTA Llywodraeth Cymru i’r cynllun a bydd yn dangos sut y gellir darparu cartrefi carbon isel ar raddfa.

Rheoli Grid gan Sero Homes – Mae’r ffabrig a’r dechnoleg carbon isel yn caniatáu i’r cartrefi weithredu drwy ddefnyddio llawer llai o ynni a charbon. Mae’r systemau rheoli yn caniatáu i’r cartref gael ei reoli gan un app a sicrhau bod y cartrefi’n hawdd eu gweithredu ac mor gyffyrddus â phosibl i’r meddianwyr.

Mae’r meddalwedd rheoli grid a reolir gan Sero Homes yn galluogi’r cartref i weithredu fel “gorsaf bŵer” sy’n storio pŵer ac yn allforio i’r grid ar yr adegau gorau posibl ac yn prynu pŵer i mewn ar yr adegau gorau posibl i’r meddianwyr. Gall hyn fod yn seiliedig ar naill ai sicrhau’r mwyaf mewn costau gorau neu’r lleihau mwyaf ar ddefnydd carbon. Mae’r llety i bobl oedrannus yn gweithredu ar yr un egwyddorion ond yn defnyddio offer canolog yn hytrach na systemau cartref unigol.

Gall y capasiti storio a’r dechnoleg hon, os cânt eu defnyddio ar raddfa genedlaethol, gynorthwyo’r Grid Cenedlaethol i gydbwyso’r galw rhwng y cyfnodau prysuraf a lleiaf prysur sy’n fwy amlwg pan  yn dibynnu ar dechnolegau adnewyddadwy.

Mae’r Grid Cenedlaethol yn dweud y gall pob MW DSR wrthbwyso’r hyn sy’n cyfateb i 600 Tunnell fetrig o CO2.

Y sgôr SAP cyfartalog a ragwelir ar gyfer cartrefi ar hyn o bryd ar gyfer y safle yw 95% gyda’r cartrefi sy’n perfformio orau yn cyflawni gwelliant o 126% o’i gymharu â’r waelodlin gydnabyddedig. Bydd gan 96% o’r tai radd TPY A.

Cysylltwch â ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon am y prosiect hwn, cysylltwch â ni.





    Lleoliad