Mae’r prosiect wedi ei gwblhau.

Louisa Place Cardiff, before improvements

Roedd y prosiect hwn, sydd bellach wedi’i gwblhau, yn rhan o raglen Cynllun Adnewyddu Cymdogaethau’r Cyngor, sy’n bwrw ymlaen â chynlluniau gwella a awgrymir gan gynghorwyr lleol.

Nod y prosiect oedd sicrhau gwelliannau amgylcheddol i ardal gyhoeddus Plas Louisa, Butetown.

Fe wnaethon ni ymgynghori â phreswylwyr a chodwyd nifer o faterion, gan gynnwys:

  • Problemau Parcio
  • Ymddygiad Gwrthgymdeithasol
  • Problemau yn ymwneud â Storio Biniau
  • Palmentydd/ ffyrdd o ansawdd gwael
  • Goleuadau mewn rhai ardaloedd
  • Cynnal a chadw coed
  • Sbwriel

Paratowyd cynlluniau ar gyfer gwelliannau amgylcheddol yn seiliedig ar y materion uchod.   Mae’r gwelliannau’n cynnwys y canlynol:

  • Tynnu’r wal frics a’r rheiliau du i lawr i’r dwyrain o Blas Louisa a gosod pafin/ wyneb newydd
  • Darparu coeden a blychau plannu newydd
  • Cau’r llwybr cerdded o Blas Louisa i Stryd James
  • Cau’r llwybr cerdded o Blas Louisa i Stryd Adelaide
  • Cau’r cwrt yng nghanol Plas Louisa ac ymestyn y gerddi yr effeithir arnynt i greu lôn gefn
  • Disodli’r palmant sydd wedi cracio a chodi corunau coed sy’n peri problemau
  • Cloi’r storfeydd biniau at ddefnydd trigolion y fflatiau yn unig
  • Atal ceir rhag parcio ar y glaswellt ger y storfeydd biniau
  • Gwella’r lle parcio i’r anabl a gosod wyneb newydd ar fannau parcio ceir
  • Peintio rheiliau a disodli brics/ cerrig sydd wedi cracio neu sydd ar goll o waliau ffin
  • Tynnu nifer o goed ar draws yr ystâd

Gwybodaeth Prosiect

Statws presennol

Wedi paratoi cynlluniau drafft ar gyfer gwelliannau amgylcheddol, cynhaliodd Cyngor Caerdydd gyfres o ddigwyddiadau ymgynghori gyda thrigolion Plas Louisa ym mis Chwefror a mis Mawrth 2022. Daeth cyfanswm o 43 o bobl i’r digwyddiadau ymgynghori a dychwelwyd 22 o holiaduron wedi’u cwblhau – naill ai ar y diwrnod neu wedi’u dychwelyd drwy’r post. Mae’r graffiau canlynol yn dangos atebion i’r 4 cwestiwn a ofynnwyd i drigolion – a gafodd gyfle hefyd ar y ffurflen i wneud sylwadau ar faterion eraill:

Mae’r tabl canlynol yn dangos sut mae sylwadau’r ymgynghoriad wedi llywio’r cynlluniau dylunio terfynol:

Dywedoch chi

  • Roedd nifer o bryderon yn nodi bod yr ystâd yn dioddef o ymddygiad gwrthgymdeithasol – ac roedd y broblem wedi bod yn gwaethygu

Gwnaethon ni

  • Paratowyd cynlluniau drafft yn dangos agor yr ardal i’r dwyrain o Blas Louisa, cau’r lôn gefn rhwng Stryd James a Phlas Louisa a chau ardal y cwrt yng nghanol Plas Louisa
  • Cynlluniau drafft wedi’u paratoi sy’n dangos cau’r rhodfa yng Ngogledd-ddwyrain Plas Louisa gan fod nifer o lwybrau yn bodoli ym Mhlas Louisa ac mae’n ymddangos mai’r ardal hon sy’n dioddef waethaf o Ymddygiad Gwrthgymdeithasol.

Crynodeb o’r Ymgynghoriad

  • Roedd cefnogaeth i’r cynigion gwella amgylcheddol i ddwyrain Plas Louisa (gan gynnwys tynnu’r wal frics a’r rheiliau du y tu ôl i dafarn y Packet) yn gorbwyso’r gwrthwynebiadau, yn enwedig gan drigolion sy ger y man gwaethaf o ran ymddygiad gwrthgymdeithasol. Bydd y gwelliannau amgylcheddol hyn yn cael eu cynnwys yn y cynlluniau.
  • Roedd pryderon gan drigolion sy’n ffinio ag ardal y cwrt yng nghanol Plas Louisa – yn ymwneud â cholli mynediad i gefn eu heiddo. Felly, gwnaethon ni ddiwygio’r cynlluniau i ddangos wedi’i gadw ar gyfer preswylwyr a darparu stribed cul y gall preswylwyr yn unig ei gyrraedd – byddai hyn yn arwain at ymestyn gerddi rhai preswylwyr. Ymchwilir i’r posibilrwydd o gwympo coed sy’n bodoli eisoes yn y lleoliad hwn.
  • Fe’n hysbyswyd hefyd am Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yn y lôn yn ne-orllewin Plas Louisa. Rydym wedi diwygio’r cynlluniau i gau’r ardal hon gydag estyniadau i ffiniau (y cytunwyd arnynt) y ddau eiddo yr effeithir arnynt.
  • Roedd y gefnogaeth i gau’r rhodfa rhwng Plas Louisa a Stryd James yn gorbwyso gwrthwynebiadau. Nodir y bydd hyn yn golygu y bydd y pellter i rai amwynderau lleol ychydig ymhellach i ffwrdd o ganlyniad i gau’r rhodfa. Fodd bynnag, nid yw’r llwybrau gwahanol presennol i amwynderau yn llawer hirach. O’i ystyried yn erbyn y posibilrwydd o wella lles y gallai cau’r rhodfa ei greu, ystyrir bod y manteision yn drech na’r negyddol a bydd y rhan hon o’r cynnig yn parhau yn y cynlluniau dylunio.

Dywedoch chi

  • Gwella mannau gwyrdd.

Gwnaethon ni

  • Cynnig i blannu coeden yn ne-orllewin Plas Louisa.

Crynodeb o’r Ymgynghoriad

  • Bydd y goeden arfaethedig yng nghornel de-orllewinol Plas Louisa yn cael ei thynnu o’r cynlluniau gan fod diffyg cefnogaeth – yn enwedig gan fod plant yn hoffi chwarae yn yr ardal hon. Gellid darparu potyn planhigion yn y lleoliad hwn gan fod hwn yn awgrymiadau a gyflwynwyd gan y preswylwyr.

Dywedoch chi

  • Goleuo gwael.

Gwnaethon ni

  • Cynnig i gael gwared ar goed lle bo hynny’n bosibl a thorri canghennau isaf i ddarparu golau mwy naturiol i’r ystâd. Ymchwiliwyd i’r cyfle i ddarparu mwy o oleuadau stryd – mae’r tîm goleuadau’n dweud bod digon o oleuadau yn yr ystâd.

Crynodeb o’r Ymgynghoriad

  • Cefnogaeth gyffredinol i dorri canghennau isaf coed a chwympo eraill lle bo hynny’n bosibl.

Dywedoch chi

  • Sbwriel a thipio anghyfreithlon.

Gwnaethon ni

  • Dangoswyd cau ardal y cwrt yng nghanol Plas Louisa ac ymestyniad gardd yr eiddo yng nghornel ogledd-ddwyreiniol Plas Louisa. Cau dwy lwybr cerdded a chysylltu â’r tîm gwastraff i drefnu casglu sbwriel a chael gwared ar sbwriel o dipio anghyfreithlon.

Crynodeb o’r Ymgynghoriad

  • Un mater a godwyd yw bod sbwriel yn cronni yn y ‘gofod marw’ i’r gogledd o ardd flaen rhif 33 Plas Louisa Er nad yw wedi’i gynnwys yn y cynlluniau ymgynghori, bwriedir ymestyn gardd flaen yr eiddo hwn. Bydd y wal estynedig, ynghyd â chau’r rhodfa yn y lleoliad hwn, yn atal sbwriel rhag cronni yn yr ardal hon. Caiff hyn ei gynnwys yn y cynlluniau dylunio. Byddwn yn bwrw ymlaen â’r cynlluniau i gau ardal y cwrt, gyda thrigolion yn cadw mynediad i’w gerddi cefn. Cefnogaeth gyffredinol i’r cynigion a chânt eu symud ymlaen i’r cynllun terfynol

Dywedoch chi

  • Mynediad i gerddwyr.

Gwnaethon ni

  • Bydd y prosiect gwella’r amgylchedd y tu ôl i dafarn y Packet yn gwella mynediad i gerddwyr.

Crynodeb o’r Ymgynghoriad

  • Cefnogaeth Gyffredinol i’r prosiect gwella hwn. Bydd cyrbau isel hefyd yn cael eu cynnwys y tu allan i rifau 31 a 32 Plas Louisa i wella mynediad.

Dywedoch chi

  • Parcio.

Gwnaethon ni

  • Cynigir i’r ardal ddod yn barth trwyddedau parcio.

Crynodeb o’r Ymgynghoriad

  • Roedd cryn dipyn o gefnogaeth i ardal trwyddedau parcio. Caiff hyn ei fwydo’n ôl i’r tîm Priffyrdd perthnasol.

Dywedoch chi

  • Problemau yn ymwneud â Storio Biniau.

Gwnaethon ni

  • Cloi’r storfeydd biniau at ddefnydd trigolion y fflatiau yn unig.

Crynodeb o’r Ymgynghoriad

  • Bydd y gefnogaeth i’r eitem hon yn cael ei symud ymlaen i’r dyluniad terfynol.

Dywedoch chi

  • Palmentydd/ffyrdd o ansawdd gwael.

Gwnaethon ni

  • Gosod tarmac yn lle’r palmentydd sydd wedi cracio, ail-lenwi tyllau coed, cau lonydd ac ardal y cwrt i bawb heblaw am breswylwyr, gwella’r palmentydd wrth fynedfa’r ystâd (Stryd George Newydd).

Crynodeb o’r Ymgynghoriad

  • Bydd y gefnogaeth i’r eitemau hyn yn cael ei symud ymlaen i’r dyluniad terfynol.

Dywedoch chi

  • Cynnal a chadw coed.

Gwnaethon ni

  • Torri canghennau isaf coed lle bo angen a chwympo coed eraill yn ôl yr angen.

Crynodeb o’r Ymgynghoriad

  • Bydd yr arolygydd coed yn mynd allan ac yn gwneud asesiad ar y coed i’w cwympo ar coed y bydd eu canghennau isaf yn cael eu torri.

Cysylltwch â ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon am ddiweddariadau Pennsylvania, Llanedern, cysylltwch â ni.





    Lleoliad