Mae’r prosiect wedi ei gwblhau.


Fel rhan o’r Rhaglen Cynllun Adnewyddu Cymdogaethau, mae gwelliannau amgylcheddol wedi’u cwblhau yn ddiweddar yn eich ardal chi. Cafodd y gwaith hwn ei lywio gan syniadau a awgrymwyd gan y cynghorwyr lleol, gyda’r nod o greu lle mwy diogel a mwy deniadol i fyw.
Nod y gwelliannau hyn yw creu mannau cyhoeddus mwy diogel, mwy deniadol a hygyrch i drigolion ac ymwelwyr.
Ymhlith yr uchafbwyntiau mae:
- Gosod wyneb newydd o balmant addurnol a tharmac yn yr ardal gyhoeddus ac ar y llwybr troed.
- Bolardiau newydd.
- Gosod croesfan i gerddwyr
- Stondinau beiciau newydd a bin gwastraff.
- Gosod blychau plannu
- Arwyddion traffig newydd
Mae’r gwelliannau hyn yn adlewyrchu ymrwymiad y Cyngor i wella amgylcheddau cymdogaeth, hyrwyddo balchder cymunedol, ac annog defnydd gweithredol o fannau cyhoeddus a rennir.
Gwybodaeth Prosiect
Dweud eich dweud
Hoffen ni gael eich barn. Llenwch y ffurflen adborth erbyn dydd Mawrth 15 Medi 2026. Mae eich adborth yn ein helpu i wneud gwelliannau.
Byddwn yn prosesu’ch data personol yn unol â’n tasg gyhoeddus dan GPDR y DU ac yn unol â deddfwriaeth diogelu data gyfredol.
I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio a phrosesu’ch data personol, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd.
Cysylltwch â ni
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon am y prosiect hwn, cysylltwch â ni.





