Mae’r prosiect wedi ei gwblhau.

Funded by UK government bilingual logo
Golygfa stryd o Bentref Rhiwbeina. Rhes o siopau gyda cheir wedi'u parcio o'u blaenau. Mae'r adeiladau'n ddau lawr gyda ffenestri lluosog ar y lloriau uchaf.

Yn ddiweddar, cwblhaodd Cyngor Caerdydd welliannau amgylcheddol i Siopau Pentref Rhiwbeina fel rhan o Raglen y Cynllun Adnewyddu Cymdogaethau.

Roedd y gwelliannau’n cynnwys:

  • Ailwynebu’r mannau parcio ar y lôn gerbydau ddwyreiniol
  • Ailosod y palmant dwyreiniol
  • Ailwynebu palmentydd gorllewinol gyda gorffeniad resin
  • Ailwynebu’r fynedfa i’r lôn gefn ger Coop, gan gynnwys darparu palmant botymog
  • Standiau beiciau, biniau a blychau plannu ychwanegol
  • Adnewyddu marciau safle bws
  • Hysbysfwrdd cymunedol newydd ym mhentref Rhiwbeina a Heol Llanisien Fach a Heol Pant-mawr
  • Meinciau, blychau plannu a hysbysfwrdd newydd ger y siopau ar Heol Llanisien Fach
  • Bolardiau newydd yn Y Groes, gan gynnwys bolardiau ychwanegol ar hyd y ffin ogledd-ddwyreiniol

Lleoliad