Consultation event for Cowbridge Road East. Staff member speaking to member of public.

Rydym yn creu Cynllun Creu Lleoedd ar gyfer wardiau Adamsdown a’r Sblot – ac rydyn ni eisiau clywed oddi wrthych.

Bydd y cynllun hwn yn cael ei ddatblygu gyda’r gymuned i helpu i nodi:

  • blaenoriaethau lleol
  • materion neu broblemau allweddol
  • cyfleoedd ar gyfer y dyfodol

Bydd y cynllun hwn yn canolbwyntio ar wella’r lleoedd lle mae pobl yn byw, yn gweithio ac yn treulio amser. Er mwyn gwneud hyn yn iawn, mae angen i ni ddeall eich profiad o fyw  yn yr ardal.

 

Yr holiadur hwn yw cam cyntaf y broses. Mae’n gofyn am:

  • brofiadau bob dydd o ganolfannau lleol, strydoedd a mannau cyhoeddus
  • symud a theithio o amgylch yr ardal
  • mynediad i fannau gwyrdd a chwarae
  • bywyd cymunedol
  • cyfleoedd tymor hwy i’r gymdogaeth

 

Dros yr haf, byddwn hefyd:

  • yn cynnal sesiynau ymgysylltu wyneb yn wyneb;
  • yn siarad â grwpiau cymunedol a sefydliadau lleol; ac
  • yn dod i siarad â phobl mewn digwyddiadau cymunedol a chlybiau lleol.

 

Yn dilyn y cam hwn, byddwn yn dechrau datblygu amrywiaeth o opsiynau. Gallai’r rhain gynnwys:

  • newidiadau byrdymor
  • prosiectau tymor hwy sy’n cynnwys partneriaid gwahanol

 

Trwy gydol y broses, byddwn yn parhau i weithio gyda’r gymuned i lunio a mireinio’r opsiynau hyn.

Bydd cyd-ddatblygu’r Cynllun Creu Lleoedd yn helpu i:

  • gydlynu newidiadau wedi’u cynllunio ar draws yr ardal
  • cefnogi mynediad at raglenni cyllido perthnasol yn y dyfodol

Dweud eich dweud

Bydd yr arolwg ar agor rhwng 10 Gorffennaf a 16 Awst 2026.

Nid oes angen i chi ateb yr holl gwestiynau, dim ond y rhai rydych chi’n teimlo sy’n berthnasol i chi.

Mae’r ffurflen ar gael yn Gymraeg, Saesneg, Pwyleg ac Arabeg. Os hoffech chi lenwi’r ffurflen hon mewn iaith wahanol, cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r ffurflen ‘cysylltu â ni’.

Gallwch ddod i siarad â ni am eich ardal chi yn:

  • Hyb STAR, y Sblot: 16 Gorffennaf, 3pm–6pm
  • Gwirfoddoli Cymunedol y Sblot, Hen STAR, Heol y Sblot: 28 Gorffennaf, 6pm–8pm
  • 28 Stryd Clifton: 5 Awst, 3pm–6pm
  • Mercy, Stryd Clifton: 5 Awst, 6pm–8pm yn Fforwm Preswylwyr a
    Chymunedau Busnes Adamsdown a’r Sblot

Cysylltwch â ni

Os oes gennych gwestiynau neu bryderon am y prosiect hwn, cysylltwch â ni.





    Lleoliad