Mae Grantiau Eiddo Gwag ar gael drwy gynllun Grant Cartrefi Gwag Cenedlaethol a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Os ydych chi’n ystyried dod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd er mwyn byw ynddo, gallech fod yn gymwys i gael cymorth.

Meini Prawf / Amodau Grant Allweddol

  • Rhaid i’r cartref gwag fod yn ardal Caerdydd.
  • Ar hyn o bryd rhaid i’r cartref gwag fod wedi’i gofrestru gydag Adran y Dreth Gyngor fel gwag (heb ei feddiannu a heb ei ddodrefnu) ac wedi bod felly am o leiaf 12 mis ar ddyddiad y cais.
  • Rhaid i ymgeiswyr fod yn berchnogion neu’n ddarpar berchnogion, sy’n bwriadu meddiannu’r cartref gwag fel eu prif a’u hunig breswylfa, am o leiaf 5 mlynedd ar ôl cwblhau’r gwaith a ariennir gan grant.
  • Mae’r terfyn grant wedi’i osod ar £25,000 o gost gwaith (ffioedd ategol wedi’u hychwanegu ar ben hynny).
  • Dim ond ar gyfer gwaith cymwys a nodwyd gan syrfëwr yr Awdurdod Lleol y dyfernir cymorth grant. Dim ond gwaith atgyweirio hanfodol sydd ei angen i wneud y cartref yn ddiogel ac yn rhydd o unrhyw beryglon categori 1 fydd yn cael ei ystyried.
  • Bydd gwelliannau effeithlonrwydd ynni yn ofyniad fel rhan o’r gwaith a wneir ar yr eiddo.
  • Mae’n ofynnol i ymgeiswyr sy’n berchen ar yr eiddo wneud cyfraniad gorfodol o 15% o gyfanswm cost gwaith cymwys hyd at £25,000 (wedi’i gapio ar £3,750).
  • Ni fydd pob ymgeisydd yn derbyn y dyfarniad grant uchaf. Ni ddyfernir unrhyw gymorth grant pan fo cyfanswm y gwaith a aseswyd yn llai na £1,000.
  • Mae cwblhau’r holl waith cymwys yn ofyniad i ryddhau taliad grant. Os yw cost gwaith cymwys yn fwy na’r uchafswm grant o £25,000, byddai ymgeiswyr yn gyfrifol am y gost dros ben.
  • Mae angen ad-dalu’r cymorth grant a ddyfarnwyd os yw’r cartref yn cael ei werthu neu heb ei feddiannu fel y bwriadwyd yn ystod y cyfnod amod grant o 5 mlynedd.
  • Mae’n ofyniad bod Pridiant Cyfreithiol llawn yn cael ei gofrestru yn erbyn teitl yr eiddo ar y Gofrestrfa Tir o blaid yr Awdurdod Lleol.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn cyflwyno’r cynllun Grant Cartrefi Gwag Cenedlaethol ar ran Cyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru.

I gael rhagor o wybodaeth neu i wneud cais am grant, cysylltwch â Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf:

Rhif Ffôn: 01443 494712

E-bost: GrantiauCartrefiGwag@rctcbc.gov.uk

Gwefan:Grantiau Cartrefi Gwag Cenedlaethol | Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Mae ceisiadau’n cau ar 30 Medi 2026, a rhaid i BOB gwaith grant sydd wedi’i gymeradwyo gael ei gwblhau erbyn 30 Medi 2027.