Mae Strategaeth Adfywio Caerdydd yn ceisio darparu fframwaith i helpu i gyfeirio buddsoddiad mewn cymunedau sydd ei angen fwyaf, gan gefnogi’r stryd fawr a chanolfannau lleol, a chreu cymdogaethau lle gall pobl fanteisio ar gyfleoedd, teimlo’n ddiogel a byw’n dda. Am y tro cyntaf, mae’r strategaeth hon yn dwyn ynghyd ein polisïau, ein rhaglenni a’n huchelgeisiau mewn un fframwaith cydlynol i lywio adfywio a chreu lleoedd ar draws y ddinas gyfan.

Mae’n cefnogi twf cymunedau cynaliadwy a chynhwysol, yn unol â’r nodau creu lleoedd a nodir yn y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl).

Mae’r strategaeth yn cymryd ymagwedd bendant at adfywio. Mae’n edrych ar ganolfannau unigol, cymdogaethau a’r rhwydwaith ehangach ledled y ddinas. Mae penderfyniadau yn seiliedig ar anghenion lleol, cyfleoedd lleol a sut maent yn cyd-fynd â blaenoriaethau’r Cyngor. Trwy ddod ag adnoddau ac ymdrechion ynghyd, nod y Cyngor yw cael yr effaith fwyaf posibl a chefnogi cymunedau a busnesau yn well wrth i’w hanghenion newid.

Consultation event for Cowbridge Road East. Staff member speaking to member of public.

Beth yw’r Strategaeth Adfywio?

Mae’r strategaeth yn nodi cynllun clir ar gyfer buddsoddi a gwella yn y dyfodol ar draws canolfannau a chymdogaethau Caerdydd.

Nid yw’n uwchgynllun manwl. Yn hytrach, mae’n fframwaith sydd:

  • Yn darparu data a mewnwelediad i helpu i ddeall cymdogaethau
  • Nodi pa ganolfannau y dylid eu blaenoriaethu
  • Yn llywio penderfyniadau creu lleoedd a buddsoddi yn y dyfodol

Mae’r strategaeth yn seiliedig ar dystiolaeth gref, gan gynnwys dadansoddiad ar draws saith thema allweddol:

  • Teg a Chynhwysol
  • Dinas Werdd
  • Cymdogaethau Ffyniannus
  • Canolfannau Cryf a Ffyniannus
  • Gwydnwch Hinsawdd
  • Dinas Gysylltiedig
  • Dinas Chwaraeon, Treftadaeth a Diwylliant

Beth yw’r Fframwaith Creu Lleoedd?

Mae creu lleoedd wrth wraidd Strategaeth Adfywio Caerdydd. Mae’r fframwaith hwn yn cyflwyno wyth elfen allweddol yr ‘olwyn creu lleoedd’, gyda phob un yn cynrychioli elfen hanfodol o leoedd llwyddiannus.  Mae’n amlinellu eu buddion ac yn cyflwyno ymyriadau ymarferol i lywio’r gwaith o ddatblygu cynlluniau creu lleoedd ledled y ddinas.

Mae’r fframwaith hefyd yn diffinio cyfres o Ddeilliannau Creu Lleoedd. Gellir cymhwyso’r deilliannau hyn ar draws ystod eang o ymyriadau yn yr amgylchedd trefol, gan helpu i lywio’r gwaith o ddylunio a chyflawni datblygiadau newydd, gwelliannau i’r ardal gyhoeddus a phrosiectau parciau.

Cysylltwch â ni

Os oes gennych gwestiynau neu bryderon am y prosiect hwn, cysylltwch â ni.