Funded by UK government bilingual logo
Mynedfa Gerddi Cymunedol Courtmead, gydag arwydd du ar ffens fetel wrth nodwedd gron balmantog, glaswellt, coed a meinciau. Mae rhesi o dai teras yn amgylchynu'r man gwyrdd cymunedol.

Mae’r Cynllun Adnewyddu Cymdogaethau yn fenter ledled y ddinas sy’n ceisio mynd i’r afael â blaenoriaethau adfywio lleol. Mae’r rhaglen yn cyflawni prosiectau adfywio ar raddfa fach, wedi eu cyflwyno gan Aelodau Lleol a’i nod yw gwella cymdogaethau a gwella ansawdd bywyd preswylwyr.  Maen nhw’n cael eu cynllunio a’u cyflwyno mewn partneriaeth â rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys busnesau lleol, preswylwyr a grwpiau cymunedol.

Mae prosiect wedi’i gyflwyno i wella Gerddi Courtmead.

Dweud eich dweud

Cyn paratoi unrhyw gynlluniau, hoffem glywed eich barn ar sut y gellid gwella’r ardal. Gallwch drafod eich barn â staff y Cyngor yn ein sesiynau galw heibio:

Cornwall Baptist Church – 31ain Awst – 15:00 – 18:00

Cornwall Baptist Church – 21ain Medi – 15:00 – 18:00

Gallwch e-bostio eich sylwadau i Adfywio@caerdydd.gov.uk.

Ewch i’r wefan i gael y wybodaeth ddiweddaraf wrth i’r prosiect fynd rhagddo.

Cysylltwch â ni

Os oes gennych gwestiynau neu bryderon am y prosiect hwn, cysylltwch â ni.





    Lleoliad