Mae’r prosiect wedi ei gwblhau.


Cwblhawyd y maes chwarae yn Heol Trelái fel rhan o Raglen Cynllun Adnewyddu Cymdogaethau 2025/26 Cyngor Caerdydd. Cafodd y prosiect ei gyflwyno gan aelodau ward leol i wella cyfleoedd chwarae i blant a phobl ifanc yn yr ardal.
Trawsnewidiwyd y maes chwarae gydag offer chwarae ac arwynebau newydd, yn canolbwyntio ar thema gemau a phosau. Mae’r cyfleuster gwell yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd chwarae i blant bach, plant iau a phobl ifanc yn eu harddegau, gan gynnwys nodweddion chwarae hygyrch ac ardaloedd wedi’u cynllunio i annog chwarae naturiol a llawn dychymyg.
Ariannwyd y cynllun gan Gyngor Caerdydd, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, gan helpu i greu gofod chwarae modern, cynhwysol a diddorol i deuluoedd ac ymwelwyr lleol ei fwynhau.


Cysylltwch â ni
Os oes gennych gwestiynau neu bryderon am y prosiect hwn, cysylltwch â ni.


















