Rydym am wybod eich syniadau a’ch sylwadau ar y gatiau lôn gefn arfaethedig

Mae angen i ni gael tystiolaeth bod gât lôn gefn arfaethedig yn cael ei gefnogi gan breswylwyr, perchnogion a busnesau i’r cynnig gael ei ddatblygu ymhellach.

Mae hefyd yn bwysig ar y cam hwn ein bod ni’n deall sut y defnyddir y lôn i gael mynediad at yr eiddo cyfagos hyn fel y gallwn sicrhau bod y gatiau’n gallu bodloni gofynion cyfreithiol.

Pam gosod gatiau ar y lôn?

Mae gosod gatiau lonydd cefn yn golygu gosod gatiau y gellir eu cloi ag allwedd ar ddiwedd lonydd cefn, sy’n rhwystro mynediad i’r cyhoedd ehangach. Ystyrir gosod gatiau’n ddull effeithiol o atal neu leihau trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. Er bod lonydd cefn yn gallu bod yn llwybrau defnyddiol i eiddo, maen nhw hefyd yn addas i gyflawni byrgleriaeth, tipio anghyfreithlon a throseddau eraill ac yn rhoi llwybr i droseddwyr ddianc. Mae galw mawr am gynlluniau gatio yng Nghaerdydd ac mae cyllid yn brin. Fodd bynnag, ar sail y lefelau troseddu ac ymddygiad troseddol yn eich lôn rydym wedi penderfynu y dylai cynllun gatio gael ei ymchwilio iddo ymhellach.

Pam na fyddai’n bosibl gosod gatiau?

Bydd y penderfyniad i osod gât ar y lôn yn dibynnu ar sawl peth, gan gynnwys:

  • A oes digon o gymorth lleol
  • Natur a nifer y gwrthwynebiadau
  • Agweddau technegol (nid yw rhai lonydd yn addas i gael gatiau)
  • Cyfyngiadau cyfreithiol (er enghraifft gofynion mynediad lleol, statws priffyrdd a pherchenogaeth)
  • Cyfyngiadau ariannu

Yn ddelfrydol byddai’r Cyngor am osod gatiau ar ddeupen y lôn. Lle nad yw hyn yn bosibl, gellir ystyried gosod gatiau ar ran o’r lôn os byddai’r gatiau’n cael effaith sylweddol o hyd. Ystyrir bob achos yn ôl ei deilyngdod ei hun.

Pryd y bydd gatiau’n cael eu gosod?

Os bydd trigolion / perchnogion lleol o blaid y cynnig, byddwn yna’n dechrau proses i sicrhau gorchymyn cyfreithiol fel y gellir gosod gatiau. Mae’r broses hon yn caniatáu i’r cyhoedd ehangach roi sylwadau ar y cynnig a gall gymryd sawl mis i’w gwblhau. Dan y ddeddfwriaeth, mae’n rhaid i’r Cyngor wrando ar unrhyw wrthwynebiad cyn penderfynu a ddylai osod gatiau ai peidio

Beth am fynediad i’m heiddo?

Byddai perchnogion a thrigolion eiddo sy’n ffinio â’r lôn yn gallu cael mynediad i’r lon o hyd am fod allweddi’n gallu cael eu rhoi iddynt. Gellir cyflwyno gorchymyn cyfreithiol i rwystro mynediad i’r cyhoedd ar bob adeg, neu ar adegau penodol. Er enghraifft, efallai y bydd angen i fusnesau lleol gael mynediad i leoedd parcio i gwsmeriaid yn ystod oriau busnes. Byddai angen dod i gytundeb gyda’r busnes hwnnw i agor a chau’r gatiau ar yr adeg a nodir. Byddai’r lôn gefn yn dal i fod yn briffordd a fabwysiadwyd.  Mae hyn yn golygu y byddai’r Cyngor yn cadw ei gyfrifoldebau i gynnal y lôn a’r gatiau. Fodd bynnag, byddai disgwyl i’r perchnogion/trigolion lleol reoli’r ffordd y mae gatiau’n cael eu hagor a’u cau.

A fyddai’r gatiau’n cael eu gosod am byth?

Yn y rhan fwyaf o’r achosion, bydd y Cyngor yn anelu at gael y Gorchymyn am uchafswm o 3 blynedd. Fodd bynnag, gall y Cyngor geisio ymestyn y Gorchymyn am 3 blynedd arall bob tro y mae’n nesáu at y dyddiad dod i ben, os yw’n fodlon bod tebygolrwydd uchel y bydd troseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn dychwelyd os bydd y gatiau’n cael eu gwaredu. Mae’r Cyngor yn dibynnu ar drigolion lleol i sicrhau bod y gatiau wedi cau’n ddiogel. Mae angen i drigolion roi gwybod i’r Cyngor am unrhyw ddiffygion gyda’r gatiau. Mewn achosion eithriadol lle mae gatiau’n parhau i gael eu gadael ar agor, neu’n cael eu fandaleiddio’n gyson, gall y gatiau ddod yn aneffeithiol yn erbyn troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol neu fod yn afresymol gostus i’w cynnal. Yn y sefyllfaoedd hyn, gall y Cyngor benderfynu tynnu’r gatiau.

Dim ond preswylwyr neu berchnogion eiddo sy’n gysylltiedig â / gerllaw’r lôn yr effeithir arni a wahoddir i gymryd rhan ar y cam hwn.

Rhannwch eich barn os:

  • ydych wedi derbyn llythyr gennym yn ddiweddar am giât lôn gefn arfaethedig, neu
  • wedi dod yn ymwybodol o gynnig gatio i lôn sy’n ffinio ag eiddo rydych chi’n berchen arno neu’n ei feddiannu.

Cofiwch mai dim ond am hyn a hyn o amser y bydd pob arolwg adborth ar agor, fel y nodir yn ein llythyr atoch.

Gallwch roi adborth drwy ein ffurflen adborth, neu os byddai’n well gennych, gallwch cysylltu â ni.

Rhowch eich adborth

    Adran 1: Ynglŷn â'r Lôn



    Adran 2: Amdanoch chi






    Adran 3a: Eiddo sydd gyfagos â'r lôn

    Bydd yr adran hon yn ein helpu i iddeall sut y gallai gatio'r lôn effeithio ar eiddo sy'n ffinio â'r lôn.


    Os nad yw eich eiddo yn ffinio â'r lôn gadewch yn wag ac ewch i adran 4.







    Adran 3b: Os yw eich eiddo'n eiddo masnachol, llenwch isod




    Adran 4: Ynglŷ'n â'r cynllun arfaethedig