
Mae Cyngor Caerdydd yn datblygu cynlluniau cyffrous ar gyfer pont newydd i gerddwyr a beicwyr dros Afon Taf yng Nghaerdydd.
Ar ddiwedd 2022 cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus i arddangos ein cynlluniau newydd ar gyfer y bont newydd a chafodd y rhain groeso da gan y gymuned leol. Ers hynny, rydym wedi bod yn bwrw ymlaen â’n cynlluniau ac yn ystyried yr adborth a gafwyd.
Ar ddiwedd 2024, fe wnaethom hefyd gynnal ymgynghoriad cyn ymgeisio lle roedd modd i’r gymuned leol a’r gymuned ehangach roi eu barn cyn i’r dyluniadau gael eu cyflwyno i’r awdurdod cynllunio lleol.
Ar 4 Mehefin 2026 cymeradwywyd cynlluniau ym Mhwyllgor Cynllunio Cyngor Caerdydd. Nid yw strategaeth ariannu wedi’i chadarnhau eto ond bydd yn cael ei datblygu fel rhan o gam nesaf y cynllun
Y Camau Nesaf
- 2026 ymlaen – Strategaeth ariannu i’w datblygu







