Rydym yn creu Cynllun Creu Lleoedd ar gyfer ward Butetown ac rydyn ni eisiau clywed oddi wrthych.

Bydd y cynllun hwn yn cael ei ddatblygu gyda’r gymuned i helpu i nodi:

  • blaenoriaethau lleol
  • materion neu broblemau allweddol
  • cyfleoedd ar gyfer y dyfodol

Bydd y cynllun hwn yn canolbwyntio ar wella’r lleoedd lle mae pobl yn byw, yn gweithio ac yn treulio amser. Er mwyn gwneud hyn yn iawn, mae angen i ni ddeall eich profiad o fyw yn yr ardal.

Bydd holiadur ar-lein ar gael o Rhagfyr 2026.

Yr holiadur hwn yw cam cyntaf y broses. Mae’n gofyn am:

  • brofiadau bob dydd o ganolfannau lleol, strydoedd a mannau cyhoeddus
  • symud a theithio o amgylch yr ardal
  • mynediad i fannau gwyrdd a chwarae
  • bywyd cymunedol
  • cyfleoedd tymor hwy i’r gymdogaeth

Yn y misoedd nesaf, byddwn hefyd yn:

  • hyn cynnal sesiynau ymgysylltu wyneb yn wyneb;
  • yn siarad â grwpiau cymunedol a sefydliadau lleol;
  • ac yn dod i siarad â phobl mewn digwyddiadau cymunedol a chlybiau lleol.

Yn dilyn y cam hwn, byddwn yn dechrau datblygu amrywiaeth o opsiynau. Gallai’r rhain gynnwys:

  • newidiadau byrdymor
  • prosiectau tymor hwy sy’n cynnwys partneriaid gwahanol

Trwy gydol y broses, byddwn yn parhau i weithio gyda’r gymuned i lunio a mireinio’r opsiynau hyn. Bydd cyd-ddatblygu’r Cynllun Creu Lleoedd yn helpu i:

Bydd cyd-ddatblygu’r Cynllun Creu Lleoedd yn helpu i:

  • gydlynu newidiadau wedi’u cynllunio ar draws yr ardal
  • cefnogi mynediad at raglenni cyllido perthnasol yn y dyfodol

Cysylltwch â ni

Os oes gennych gwestiynau neu bryderon am y prosiect hwn, cysylltwch â ni.





    Lleoliad