
Penodwyd Powell Dobson Architects yn 2022 i ddylunio cynllun ar gyfer cartrefi cyngor ynni-effeithlon newydd ar hen safle Tafarn Wolf’s Castle, y mae Pwyllgor Cynllunio Cyngor Caerdydd wedi rhoi cymeradwyaeth ar ei gyfer yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Gorffennaf 2026, i ddarparu 24 o gartrefi; bloc o fflatiau gyda llawr gwaelod sy’n hygyrch i gadeiriau olwyn a chyfres o gartrefi rhwng dwy a phum ystafell wely i ddiwallu anghenion y gymuned leol.
Mae Lovell Partnerships bellach wedi’u penodi i gyflawni Partneriaeth Tai Caerdydd a’r Fro, sy’n cynnwys cynllun Wolf’s Castle yn rhan o’r rhaglen gyflawni. Bydd y safle yn cael ei baratoi o Hydref 2026 tuag at ddymchwel yr adeiladau er mwyn dechrau’r gwaith adeiladu. Bydd llythyr yn cael ei ddosbarthu i drigolion yn agosach at yr amser.
Bydd y datblygiad arfaethedig yn darparu amrywiaeth o gartrefi cyngor newydd ar gyfer cymuned gynhwysol sydd wedi’u lleoli mewn tirwedd werdd, lle gall trigolion gerdded, beicio a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i gyrraedd siopau, ysgolion a pharciau lleol.
Bydd y datblygiad newydd yn darparu cartrefi cyngor deniadol sy’n effeithlon o ran ynni ac sydd wedi’u cynllunio i wneud y gorau o bob gofod defnyddiadwy gan greu ystafelloedd golau, eang, wrth fodloni anghenion anodd bywyd teuluol.
Bydd cartrefi wedi’u cynllunio i fod yn hawdd byw ynddynt ac yn effeithlon i’w rhedeg, a bydd ganddynt y potensial i addasu i amgylchiadau newydd yn ymwneud ag anghenion teuluol modern, gyda gerddi preifat a mannau awyr agored, seilwaith gwefru cerbydau trydan a storio beiciau.
Ein nod yw llunio cynllun cyfoes ond lleol sy’n ymateb i siâp ac amlygrwydd y safle i greu diddordeb treflun, blaenau stryd cryf, gyda chartrefi wedi’u cyfeirio’n benodol er mwyn sicrhau’r golygfeydd a’r cysylltedd gorau posibl â’r dirwedd.
Bydd y datblygiad newydd yn talu gwrogaeth i’r gorffennol, tra’n adlewyrchu elfennau gorau Llanisien heddiw, gan greu datblygiad tai cynhwysol, modern a chynaliadwy.
Bydd y datblygiad yn darparu cartrefi fforddiadwy newydd a ddyluniwyd i fodloni safonau ynni-effeithlon uchel y Cyngor ar gael i bobl sydd ar restr aros Tai Cyngor eu rhentu.
Bydd y cynllun hefyd yn cynnwys Systemau Draenio Dinesig Cynaliadwy (SDCau) a all gynnwys gerddi glaw, plannu coed a seilwaith gwyrdd arall sy’n sicrhau bod dŵr glaw yn draenio’n naturiol i’r ddaear. Mae hyn yn helpu i fynd i’r afael ag effeithiau newid hinsawdd, yn darparu lleoedd gwyrddach a mwy deniadol i fyw ynddynt, ac yn cynyddu bioamrywiaeth leol.
Mae pedwar cam allweddol i’r prosiect (gweler isod), sydd bellach wedi’u cwblhau.
Cam 1 – Gwaith arolygu a chasglu gwybodaeth (wedi’i gwblhauol):
Mae’r cam hwn yn cynnwys cynnal yr holl waith arolygu angenrheidiol ar y safle, fel arolygon coed, ecoleg a chyflwr safle. Maent yn dweud popeth sydd angen i ni ei wybod am y safle i helpu i lunio dyluniad y datblygiad arfaethedig. Dechreuodd y rhain yn 2024 a byddant yn parhau tan ddechrau 2025.
Cam 2 – Cyfleoedd a chyfyngiadau (Wedi’i gwblhauol):
Mae hyn yn cynnwys defnyddio’r gwaith arolygu i nodi’r cyfleoedd a’r cyfyngiadau ar y safle a chynnig rhai syniadau cychwynnol a dyluniadau cynnar ar gyfer y datblygiad arfaethedig. Byddwn yn cael adborth ar y syniadau hyn gan y gymuned ac amrywiaeth o arbenigwyr technegol, er mwyn gallu datblygu’r opsiwn a ffefrir ar gyfer y dyluniad. Byddwn yn anelu at gwblhau’r cam hwn yn hanner cyntaf 2025.
Cam 3 – Opsiwn a ffefrir (Cam presennol):
Cwblhawyd Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio (YCY) gyda’r gymuned a rhanddeiliaid eraill ar 6 Chwefror 2026.
Cam 4 – Cais cynllunio:
Cyflwynwyd cais cynllunio ar gyfer y datblygiad arfaethedig ar 12 Mawrth 2026, ac yn dilyn ymgynghoriad pellach.
Rhoddodd y Pwyllgor Cynllunio gymeradwyaeth gynllunio ar gyfer y cynllun yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Gorffennaf 2026, yn amodol ar yr amodau fel y nodir ac sydd ar gael yn System Gynllunio Ar-lein Cyngor Caerdydd. I ddod o hyd i hynny, teipiwch y cyfeirnod cynllunio 26/00493/FUL.
Er nad oes ymgynghoriad ffurfiol pellach ar gyfer y cynllun, bydd ymgysylltu â’r gymuned yn parhau wrth i’r cam adeiladu fynd rhagddo a bydd gwybodaeth am hyn yn cael ei diweddaru ar y dudalen we hon.
Cysylltwch â ni
Os oes gennych gwestiynau neu bryderon am y prosiect hwn, cysylltwch â ni.