Map yn dangos y safle wedi'i amlinellu mewn coch.

Mae Cyngor Caerdydd yn ceisio ailddatblygu ardal fechan o dir tai yn Frank Road, Trelái a ddangosir yn y llun uchod. Mae’r safle yn rhan o Raglen Partneriaeth Cartrefi Caerdydd – ymrwymiad ar y cyd â Wates Residential Ltd i ddarparu cartrefi a chymunedau ledled y rhanbarth, gan helpu i fynd i’r afael â’r galw presennol am dai trwy ddarparu o leiaf 2,260 o gartrefi newydd dros y 10 mlynedd nesaf.

Manylion y Prosiect

Mae Cyngor Caerdydd yn gweithio mewn partneriaeth â Wates a Down to Earth, menter gymdeithasol sy’n cefnogi unigolion drwy brosiectau cymunedol ac adeiladu cynaliadwy ymarferol, i ddarparu pedwar cartref dwy ystafell wely ar y safle.

Mae Down to Earth wedi ymrwymo i gyflawni prosiectau adeiladu cynaliadwy sy’n creu hyfforddiant a chyfleoedd cyflogaeth ystyrlon. Bydd eu cyfranogiad nid yn unig yn helpu i ddarparu cartrefi newydd, ond hefyd yn cyfrannu at fanteision cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol ehangach i’r gymuned leol.

I ddysgu mwy am Down to Earth, ewch i’w gwefan.

Un o brif uchelgeisiau’r prosiect hwn yw cyd-fynd â’r Llyfr Patrwm Tai ar y Cyd, a lansiwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru. Mae’r fenter hon yn hyrwyddo’r gwaith o ddatblygu cartrefi sydd wedi’u cynllunio’n dda, sy’n gynaliadwy ac sy’n canolbwyntio ar y gymuned ledled Cymru.

Statws Presennol

Mae cais cynllunio wedi’i gyflwyno ar gyfer y datblygiad arfaethedig. Mae cyfle i aelodau o’r cyhoedd weld y cynigion a gwneud sylwadau arnynt hyd at 24 Gorffennaf 2026.

Yn ystod y cam hwn

Bydd yr Awdurdod Lleol yn hysbysu partïon perthnasol o’ch cais ac yn eu gwahodd i roi eu barn. Gall hyn gynnwys:

  • Gosod hysbysiadau safle
  • Hysbysebu yn y cyfryngau lleol
  • Ysgrifennu at gymdogion
  • Cysylltu â chyrff statudol fel Ymgymerwyr Carthffosiaeth

Cyfeirnod y cais cynllunio yw 26/01194/FUL a gellir dod o hyd i’r cais cynllunio yma.

Cysylltwch â ni

Os oes gennych gwestiynau neu bryderon am y prosiect hwn, cysylltwch â ni.





    Lleoliad