
Mae Cyngor Caerdydd a Wates Residential yn parhau i wneud cynnydd ar ddarparu’r Pentref Lles newydd ar hen safle Coleg Llanfihangel, fel rhan o’r rhaglen ddatblygu Cartrefi Caerdydd.
Yn dilyn y digwyddiadau ymgynghori cynharach a gynhaliwyd ym mis Rhagfyr 2021, Gorffennaf 2022 a Chwefror 2023, hoffem ddiolch i bawb a wnaeth gymryd rhan a rhannu adborth. Ystyriwyd yr holl sylwadau yn ofalus ac fe wnaethant helpu i lunio’r cynigion terfynol.
Rydym yn falch o gadarnhau bod caniatâd cynllunio ar gyfer y datblygiad wedi’i roi ym mis Tachwedd 2025.
Ers hynny, rydym wedi bod yn gweithio ar y gweithgareddau allweddol canlynol:
- Cyflawni amodau cynllunio cyn cychwyn er mwyn gallu dechrau adeiladu.
- Cynnal arolygon safle, gan gynnwys ymchwiliadau ecoleg ac amgylcheddol.
- Gweithio’n agos gyda thimau Priffyrdd a Draenio Cyngor Caerdydd i baratoi a chyflwyno ceisiadau Corff Cymeradwyo Draenio Cynaliadwy (CCDC) a chytundebau adrannol cysylltiedig.
- Cyflwyno gweithdai datblygu dylunio yn canolbwyntio ar fireinio a symud ymlaen â’r gwaith dylunio manwl.
- Gweithio’n agos gyda’r Ganolfan Blant i fwrw ymlaen â’r gwaith dylunio ar gyfer y maes parcio newydd, yr estyniad a’r gwaith cyflunio mewnol.
- Cynnal ein hymrwymiad i gyfathrebu’n barhaus â chymdogion a’r gymuned leol drwy gydol y prosiect.
Cyn i unrhyw waith ddechrau ar y safle, byddwn yn cynnal digwyddiad ymgysylltu â’r cyhoedd i rannu diweddariadau ar y datblygiad a’r rhaglen ddylunio, ac i ateb unrhyw gwestiynau.
Edrychwn ymlaen at barhau i weithio gyda thrigolion lleol a rhanddeiliaid wrth i ni symud i gam nesaf y prosiect.
Ymgynghoriadau, diweddariadau a chylchlythyrau
Deunydd ymgynghori Chwefror 2023
Deunydd ymgynghori Gorffennaf 2022
Deunydd ymgynghori Rhagfyr 2021
Caiff y datblygiad newydd hwn ei gwblhau trwy ei bartneriaeth datblygu Cartrefi Caerdydd â Wates Residential. Mae’r cynigion yn cynnwys adeiladu tua 265 o gartrefi newydd o fewn amgylchedd sy’n hyrwyddo iechyd a lles.
Mae ffocws ar greu cartrefi newydd i bobl hŷn, wedi’u hadeiladu o fewn cymuned oedran cymysg, gyda chymysgedd o gartrefi ar werth a chartrefi i’w rhentu gan y Cyngor.
Y nod yw i’r Pentref Lles ddarparu ar gyfer cymysgedd o gyfleusterau cymunedol newydd. Mae’r cynnig yn cynnwys lle i ganolfan iechyd a lles sy’n cynnig caffi a gofod cymunedol hyblyg.
Bydd mannau awyr agored o ansawdd uchel. Gallai’r rhain gynnwys:
- Porth Plaza i’r datblygiad – Man cyhoeddus bywiog wrth wraidd y cynllun newydd hwn. Gall pobl eistedd, cwrdd â ffrindiau a mwynhau lluniaeth a chymdeithasu yn y caffi.
- Y Maes – Man gwyrdd yng nghanol y cynllun a fyddai’n diogelu’r coed aeddfed presennol, gan wella’r cynllun tirlunio allanol a hyrwyddo chwarae anffurfiol.
- Coed Gwyllt – Ardal goediog fawr a fydd yn hygyrch ac wedi’i ddylunio i’w hyrwyddo teithiau cerdded ym myd natur
- Gardd Gymunedol – Lle cymunedol i dyfu bwyd
- Llwybr y Bryn – Llwybr rhwng Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Sain Ffagan a’r sgwâr newydd, lle gall plant gerdded yn ddiogel i’r ysgol a chwarae ar ochr y bryn.
Bydd mynediad i gerbydau i’r tai a’r cyfleusterau cymunedol ar safle Coleg Llanfihangel o’r fynedfa bresennol oddi ar Heol Llanfihangel. Mae potensial i greu cysylltiadau cerdded/beicio newydd i helpu i wella mynediad o’r ardal gyfagos i’r cyfleusterau cymunedol ac rydym hefyd yn ystyried pa welliannau priffyrdd y gallwn eu gwneud i’r rhwydwaith priffyrdd presennol i helpu i liniaru problemau parcio a thraffig presennol ar hyd Heol y Ddorop, Patreane Way a Heol Llanfihangel.
Cysylltwch â ni
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon am y prosiect hwn, cysylltwch â ni.









