Datblygiad preswyl newydd cyffrous i bobl hŷn fyw’n annibynnol yn eu cartrefi, gyda mynediad i gyfleusterau cymunedol sy’n helpu i hyrwyddo rhyngweithio cymdeithasol.

Bydd y datblygiad yn cynnwys 41 o gartrefi un a dwy ystafell wely hygyrch, lle cymunedol i breswylwyr, ystafell feddygol a gerddi cymunedol wedi’u tirlunio.

Bydd yr ardal chwaraeon amlddefnydd (AChA) a chanolfan gymunedol fach yn cael eu hail-leoli o fewn y datblygiad.

Mae’r safle wedi’i leoli yng nghanol Treganna gydag amwynderau lleol ar garreg ei ddrws. Mae’r stryd fawr o fewn pellter cerdded ac mae bysus Caerdydd yn gwasanaethu’r safle’n dda.

  • Mae’r adeilad wedi’i gynllunio dros bum llawr ac mae’n darparu canolfan gymunedol newydd yn y cefn. Mae wedi’i gynllunio gyda dull adeiladwaith yn gyntaf i sicrhau bod ei berfformiad ynni yn rhagori ar Reoliadau Adeiladu presennol a bydd pob eiddo yn cael ei adeiladu i sgôr TPY A, a fydd yn helpu i leihau biliau ynni.
  • Bydd pob eiddo yn elwa o wres dan y llawr a fydd yn sicrhau defnydd effeithlon o ynni ac yn dileu’r angen am reiddiaduron, gan ryddhau lle ar y waliau. Bydd Pympiau Gwres o’r Ddaear yn darparu’r brif ffynhonnell ynni gan ddarparu ateb carbon isel a dileu’r angen am danwydd ffosil.
  • Bydd y datblygiad yn elwa o bwynt gwefru Cerbydau Trydan.
  • Bydd System Draenio Cynaliadwy yn cael ei chynllunio’n rhan o’r cynllun i leihau effaith bosibl y datblygiad ar ddraenio dŵr wyneb yn yr ardal.

Statws Presennol

Digwyddodd y trosglwyddiad ddechrau mis Ionawr 2026, gyda’r holl lety preswyl bellach wedi’u meddiannu.

Mae’r brif neuadd a’r ystafelloedd stiwdio ar gael i’w harchebu. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Ranu Begum, Swyddog Cynhwysiant Cymunedol. E-bost:  Ranu.begum1@caerdydd.gov.uk

Cysylltwch â ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon am y prosiect hwn, cysylltwch â ni





    Lleoliad