A computer generated image of the houses at the New Pennysylvania site.

Penodwyd y penseiri Powell Dobson yn 2022 i ddylunio cynllun ar gyfer cartrefi cyngor ynni-effeithlon newydd ar safle hen dafarn y New Penn, y rhoddodd y Pwyllgor Cynllunio gymeradwyaeth ar ei gyfer yn ei gyfarfod ar 14 Mawrth 2024, er mwyn darparu ystod o gartrefi dwy ystafell wely i ddiwallu anghenion y gymuned leol.

Mae Lovell Partnerships bellach wedi cael eu penodi i gyflawni Partneriaeth Tai Caerdydd a’r Fro, sy’n cynnwys cynllun y New Penn fel rhan o’r rhaglen gyflawni. Bydd y safle yn cael ei baratoi o fis Medi 2025 er mwyn dechrau dymchwel yr adeiladau, ac yna bydd y gwaith adeiladu yn cychwyn.

Bydd y cynllun o ansawdd uchel a thrwy ddylunio da rydym yn gobeithio darparu:

  • Datblygiad deniadol a diogel ar gyfer byw a magu teulu wedi’i leoli mewn tirwedd werdd lle gall trigolion gerdded, beicio a chymryd trafnidiaeth gyhoeddus i gyrraedd siopau, ysgolion a pharciau lleol.
  • Cartrefi fforddiadwy newydd sy’n ynni-effeithlon, yn naturiol olau ac yn awyrog.
  • Cartrefi wedi’u dylunio o amgylch anghenion teuluoedd modern, gyda gerddi preifat a mannau awyr agored, mannau gwefru cerbydau trydan a storio beiciau.
  • Gwelliant i symudiad cerddwyr drwy’r safle sy’n cysylltu’n well â’i gymdogaeth, gan ganiatáu gwell mynediad i’r mannau gwyrdd, cyfleusterau lleol ac ystad Brynfedw gyfagos.

Bydd y datblygiad newydd yn darparu cartrefi teuluol fforddiadwy newydd wedi’u dylunio i fodloni safonau effeithlonrwydd ynni uchel y Cyngor.

Byddant ar gael i’w rhentu i bobl ar y rhestr aros Tai Cyngor a byddant yn cynnwys cartrefi 2 ystafell wely.

Bydd y cynllun yn cynnwys System Draenio Dinesig Cynaliadwy (SDDC) a all gynnwys gerddi glaw, plannu coed a seilwaith gwyrdd arall sy’n sicrhau bod dŵr glaw yn draenio’n naturiol i’r ddaear. Mae hyn yn helpu i fynd i’r afael ag effeithiau’r newid yn yr hinsawdd, yn darparu lleoedd gwyrddach a mwy deniadol i fyw ynddynt, ac yn cynyddu bioamrywiaeth leol.

Mae pedwar cam allweddol i’r prosiect (gweler isod), sydd bellach wedi’u cwblhau.

Cam 1 Gwaith arolygu a chasglu gwybodaeth (Cwblhawyd):

Roedd y cam hwn yn cynnwys cynnal yr holl waith arolygu angenrheidiol ar y safle, fel arolygon coed, ecoleg a chyflwr safle. Maent yn dweud popeth sydd angen i ni ei wybod am y safle i helpu i lunio dyluniad y datblygiad arfaethedig. Dechreuodd y rhain yn 2021 ac fe’u cwblhawyd yn 2022.

Cam 2 (Cwblhawyd):

Roedd y cam hwn yn cynnwys defnyddio’r gwaith arolygu i nodi’r cyfleoedd a’r cyfyngiadau ar y safle a chynnig rhai syniadau cychwynnol a dyluniadau cynnar ar gyfer y datblygiad arfaethedig. Cawsom adborth ar y syniadau hyn oddi wrth y gymuned ac amrywiaeth o arbenigwyr technegol er mwyn gallu datblygu’r opsiwn a ffefrir ar gyfer y dyluniad. Fe wnaethom gwblhau’r cam hwn yn 2022.

Cam 3 – Opsiwn a Ffefrir (Cwblhawyd):

Roedd y cam hwn yn cynnwys datblygu’r opsiwn a ffefrir yn fanylach, yn barod ar gyfer cais cynllunio. Bydd y cam hwn yn cynnwys Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio (YCY) gyda’r gymuned a rhanddeiliaid eraill.

Cam 4 – Cais Cynllunio (Wedi’i Gwblhau):

Cyflwynwyd cais cynllunio ar gyfer y datblygiad arfaethedig ar 23 Hydref 2023, er mwyn i’r gymuned a rhanddeiliaid eraill gael cyfle i wneud sylwadau pellach ar y cynigion, sydd nawr wedi’i gwblhau.

Rhoddodd y Pwyllgor Cynllunio gymeradwyaeth gynllunio ar gyfer y cynllun yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Mawrth 2024, yn amodol ar yr amodau fel y nodir ac sydd ar gael ar y ddolen isod.  I’w leoli, chwiliwch am y cod post CF23 9PW a dewis y ddolen we cynllunio datblygiad.

Er nad oes ymgynghoriad ffurfiol pellach ar gyfer y cynllun, bydd ymgysylltu â’r gymuned yn parhau wrth i’r cam adeiladu fynd rhagddo a bydd gwybodaeth am hyn yn cael ei diweddaru ar y dudalen we hon.

Ydy Penn Newydd yn dal i weithredu?

Rhoddodd y dafarn y gorau i fasnachu ar ryw adeg yn ystod 2020.

 

Pwy sy’n berchen ar y tir?

Cyngor Caerdydd ddaeth i feddiant y tir yn gynharach eleni 2022

 

Pryd bydd yr adeiladau’n cael eu dymchwel?

Rydym yn bwriadu dymchwel yr adeiladau gwag ym mis Hydref 2025 a byddwn yn dechrau paratoi’r safle ar gyfer hyn ym mis Medi. Mae llythyrau wedi cael eu dosbarthu i drigolion lleol i roi gwybod iddynt am y cynnydd hwn cyn cychwyn.

A allaf gael fy ystyried ar gyfer cartref?

I gael eich ystyried, ewch i Tai ar-lein

Cysylltwch â ni

Os oes gennych gwestiynu neu bryderon am y prosiect hwn, cysylltwch â ni.





    Lleoliad