Mae’r prosiect wedi ei gwblhau.


Mae’r Cynllun Adnewyddu Cymdogaethau yn fenter ledled y ddinas sy’n ceisio mynd i’r afael â blaenoriaethau adfywio lleol. Mae’r rhaglen yn darparu prosiectau adfywio a gyflwynwyd gan Aelodau Lleol. Mae prosiectau wedi’u cynllunio a’u datblygu mewn partneriaeth â thrigolion lleol, grwpiau cymunedol ac asiantaethau i fynd i’r afael ag angen neu broblem a nodwyd.
Yn dilyn syniadau a gyflwynwyd gan Aelodau Ward Lleol a sylwadau a dderbyniwyd yn ystod y broses ymgysylltu â’r cyhoedd yn 2024, mae Cyngor Caerdydd yn falch o gyhoeddi ein bod yn agor y parc sglefrio newydd ym Mharc Coed y Nant.
Agorwyd y parc sglefrio yn ffurfiol yn Haf 2025. Disgwylir i seddi a biniau newydd gael eu hychwanegu yng Ngwanwyn 2026.
Dywedwch wrthym beth yw eich barn chi!
Fel rhan o raglen Cynllun Adnewyddu Cymdogaethau Cyngor Caerdydd, cwblhawyd y parc sglefrio newydd ym Mharc Coed y Nant yn ddiweddar, a hoffem eich adborth.
Mae eich barn yn bwysig i ni a bydd yn helpu i lunio gwelliannau yn y dyfodol ac yn llywio datblygiad prosiectau tebyg ar draws yr ardal.
Llenwch y ffurflen erbyn 23 Mawrth 2026.
Cysylltwch â ni
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon am y prosiect hwn, cysylltwch â ni.


