
Mae Cyngor Caerdydd yn bwriadu gwella’r ardal gerddwyr ar Stryd Pentyrch y tu allan i Ysgol Gynradd Fairoak yn Cathays.
Mae hyn yn rhan o’r Cynllun Adnewyddu Cymdogaethau (CAC) sy’n cyflawni prosiectau gwella a awgrymir gan gynghorwyr lleol.
Bydd y gwelliannau’n cynnwys:
- Glanhau ac atgyweirio’r slabiau’r palmant presennol
- Palmant newydd wedi’i rwymo â resin
- Nifer o welyau plannu mawr
- Gemau stryd
- Seddi newydd
- Biniau newydd
- Gwaith celf newydd ar gabinetau cyfleustodau
- Gwaith celf newydd a ddyluniwyd ar y cyd ag Ysgol Gynradd Fairoak
Gwybodaeth Prosiect
Dweud eich dweud!
Llenwch y ffurflen sylwadau ar-lein neu e-bostiwch y tîm adfywio cyn 7 Rhagfyr 2026.
Byddwn yn prosesu’ch data personol yn unol â’n tasg gyhoeddus dan GPDR y DU ac yn unol â deddfwriaeth diogelu data gyfredol. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio a phrosesu’ch data personol, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd.
Cysylltwch â ni
Os oes gennych gwestiynau neu bryderon am y prosiect hwn, cysylltwch â ni.
Lleoliad
Postiwyd ar Tachwedd 23, 2026