Pris prynu

81,000 - 60% Pris prynu (100% Pris - £135,000)

Math yr Eiddo

Fflat   1 Ystafell Wely

Dyddiad olaf i wneud cais:

5pm, 06/01/27

Mae fflat un ystafell wely, ar yr ail lawr, ar werth mewn man cyfleus yn agos iawn at ardal boblogaidd Heol Tŷ Glas, Llanisien.

Yn agos at Archfarchnadoedd Morrisons, Lidl ac Aldi, ynghyd â chanolfan fanwerthu Heol Tŷ Glas, a chysylltiadau trafnidiaeth ardderchog i ganol y ddinas, yr M4 a thu hwnt, mae’r eiddo hefyd o fewn pellter cerdded agos i orsaf drenau Tŷ Glas (120 metr).

Mae’r fflat wedi’i addurno i safon dda ac mae ganddi ffenestri gwydr dwbl UPVC, system mynediad intercom diogel, system larwm tân integredig ar draws ardal y fflatiau a’r ardaloedd cymunedol. Lolfa eang gyda drysau patio yn agor allan ar falconi preifat, ystafell wely ddwbl, lle parcio penodol a gerddi cymunedol.  Goleuadau synhwyrydd symudiadau mewn ardaloedd cymunedol.

Gwybodaeth am yr Eiddo

Cyntedd – Cyntedd gyda charped niwtral, system intercom wedi ei osod ar y wal a bachau cotiau.

Lolfa (5.65m x 3.02m yn cynnwys y gegin) — Lolfa a chegin cynllun agored eang gyda drysau Ffrengig yn agor allan i falconi amgaeedig.  Carped glas yn y lolfa. Cabinet teledu, lamp, soffa gyda soced pŵer cadair sy’n mynd yn ôl a stôl droed (gyda lle storio) i aros.

Ardal y Gegin — Cynllun agored gyda chypyrddau cegin lliw ffawydd mewn arddull shaker, arwynebau du a chefnau i gyd-fynd, hob trydan integredig, ffwrn, a ffan echdynnu uwchben gydag ardaloedd tasgu, ac oergell-rhewgell integredig.  Ffenestr allanol â bleind a lloriau finyl niwtral mewn arddul mosaig.  Peiriant golchi/sychu i aros.

Prif Ystafell Wely (3.94m x 2.74m) – Ystafell wely ddwbl ysgafn ac eang gyda charped niwtral a mynediad i’r cwpwrdd awyru sy’n gartref i’r gwresogydd dŵr poeth ac yn cynnig digon o le storio gyda silffoedd.  Gwely dwbl, bwrdd wrth ochr y gwely a chwpwrdd dillad triphlyg gyda drych i aros.

Ystafell ymolchi (2.00m x 1.98m) – Ystafell ymolchi gwyn gyda bath, cawod prif gyflenwad uwchben a sgrin cawod gwydr, toiled integredig a basn golchi dwylo, teils wal niwtral mawr gyda trim mosaig, lloriau finyl lliw pren ffawydd ysgafn, rheilen cynhesu tywelion crôm ar y wal a ffan echdynnu. Drych uwchben y sinc i aros.

Balconi (2.97m x 1.29m) – Lloriau decin a golau allanol gyda switsh sy’n cael ei reoli o’r lolfa.  Bwrdd a chadeiriau a bocs storio i aros.

Parcio – Un lle parcio dynodedig â rhif mewn maes parcio preifat, a mannau i ymwelwyr yn yr ardal leol.

Treth Gyngor – Band C

Tâl Gwasanaeth – £1644 y flwyddyn (sy’n talu am gynnal a chadw ardaloedd cymunedol mewnol ac allanol)

Rhent Tir – £150 y flwyddyn (x2 rhandaliad o £75 yn daladwy ym mis Ionawr a Gorffennaf bob blwyddyn)

Deiliadaeth – Prydles (125 o flynyddoedd 2007)

Sgôr TPY — C (Dilys tan 22.10.36.  Adroddiad llawn ar gael ar-lein drwy www.gov.uk)

Ardaloedd cymunedol – Ardaloedd planhigion a lawnt cymunedol sy’n cael eu cynnal yn dda a mannau parcio dynodedig. Blwch post mewnol ar gyfer diogelwch ychwanegol (mynediad gydag allwedd).

Mae’r holl loriau, ffitiadau goleuadau nenfwd, bleindiau fel y gwelir, ynghyd â dodrefn a nwyddau gwyn a nodir yn yr hysbyseb yn y gegin i aros.

Manylion Prynu

Mae’r eiddo hwn yn cael ei werthu ar sail ECWITI A RENNIR.    Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn prynu cyfran ecwiti o 60% dan Gynllun Cartrefi Cyntaf Caerdydd a bydd yn berchennog cofrestredig 100% ar yr eiddo ar gwblhau’r gwerthiant.

Bydd Cyngor Caerdydd yn cadw 40% o ranberchenogaeth a fydd yn weddill ar yr eiddo.

Nid oes rhent / llog yn daladwy ar y 40%.

Pris

60% Pris prynu –  £81,000

100% Pris – £135,000

Gofyn am wylio

Mae’r gwylio’n digwydd 18/11/2026 (Rhwng 5pm – 7.30pm).

Pentland Close, Llanisien, Caerdydd, CF14 5BB





    Lleoliad

    Ewch i Cartrefi Cyntaf Caerdydd - Telerau ac Amodau.

    Ymwadiad

    Mae’r manylion hyn am y gwerthiant at ddibenion canllawiau cyffredinol yn unig. Nid ydynt yn ffurfio unrhyw ran o gynnig neu gontract. Nid ydym wedi cynnal arolwg strwythurol ar yr eiddo nac unrhyw wasanaethau. Nid yw unrhyw o’r gosodiadau penodol y sonnir amdanynt yn y manylion hyn wedi eu profi. Rhoddir yr holl luniau, mesurau, cynlluniau llawr a phellteroedd y cyfeirir atynt fel canllaw yn unig ac ni ddylid dibynnu arnynt wrth brynu carpedi a gosodiadau eraill. Rhoddir manylion prydles, taliadau gwasanaeth a rhent tir (lle bo’n berthnasol) yn unig a dylid eu cadarnhau gyda thrawsgludwr trwyddedig cyn cyfnewid contractau.