Pris prynu

203,000 - 70% o’r pris prynu (100% Pris - £290,000)

Math yr Eiddo

Tŷ   2 Ystafell Wely

Dyddiad olaf i wneud cais:

5pm, 04.01.2027

Wedi’i leoli yn hen ddatblygiad Parc Plymouth Redrow yn Radur, mae tŷ pâr dwy ystafell wely.

Gyda chysylltiadau trafnidiaeth ardderchog â Chanol y Ddinas a’r M4, mae’r eiddo yn agos at siopau lleol, trafnidiaeth gyhoeddus, caeau chwarae ac hefyd yn y dalgylch ar gyfer nifer o ysgolion cynradd ac uwchradd, gan gynnwys Ysgol Gynradd Radur, Ysgol Uwchradd Radur ac ysgolion cyfrwng Cymraeg gan gynnwys Ysgol Gymraeg Coed y Gof ac Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr.

Wedi’i adeiladu yn 2020, mae’r eiddo yn drwsiadus ac wedi’i addurno i safon ardderchog.  Mae ganddo wydr dwbl drwy’r tŷ, system gwres canolog nwy â boeler combi, digon o le storio gan gynnwys 2 gwpwrdd storio y gellir mynd atynt o’r cyntedd, cwpwrdd pwrpasol yn yr ystafell wely flaen, ynghyd â chwpwrdd crasu dillad a gofod atig, toiled llawr gwaelod, dwy ystafell wely o faint da, ystafell ymolchi deuluol, lle parcio wedi’i neilltuo o flaen yr eiddo a lolfa eang gyda drysau Ffrengig yn agor allan i ardd fawr deuluol o faint da sydd wedi’i thirlunio a’i chynnal a’i chadw’n dda gyda mynedfa o’r ochr.

Gwybodaeth am yr Eiddo

Cyntedd — Ardal fynediad gyda goleuadau synhwyro symud ar du allan y wal allanol.  Mynediad i ddau gwpwrdd storio a thoiled.  Lloriau finyl moethus effaith derw canol arddull saethben.

Tŷ Bach Llawr Gwaelod (1.66m x 1.19) — Tŷ bach oddi ar y cyntedd wedi’i addurno’n chwaethus â phaneli pren addurniadol (lliw ‘drop cloth’ paent Farrow & Ball) ar y waliau isaf a lloriau finyl moethus effaith derw canol arddull saethben.

Lolfa (4.48m x 4.14m) – Lolfa maint da yng nghefn yr eiddo gyda drysau llithro yn agor i ardd gaeedig gyda lloriau finyl moethus effaith derw canol arddull saethben. Crog-oleuadau o’r nenfwd gyda switsh pylu i aros.

Cegin (2.80m x 1.93m) – Cegin wedi’i ffitio’n llawn ym mlaen yr eiddo gyda chypyrddau gwyn sgleiniog modern a dolenni crôm, arwynebau gwaith a chefn llwyd golau effaith bren, teis metro lliw hufen, ffwrn integredig, hob a ffan echdynnu gyda phanel tasgu dur gwrthstaen yn ogystal â lle am nwyddau gwyn. Ffenestr allanol a lloriau finyl moethus effaith derw canol arddull saethben. Bleinds rholio tywyllu hufen a sbotoleuadau nenfwd i aros.

Prif Ystafell Wely (4.14m x 3.95m) — Ystafell wely ddwbl o faint da yng nghefn yr eiddo gyda charped lliw hufen a mynediad i gwpwrdd pwrpasol. Bleinds rholio tywyllu lliw hufen, cwpwrdd dillad 3 drws Ikea Pax gyda drysau arddull shaker gwyn Bergsbo a goleuadau mewnol, ynghyd â silffoedd ychwanegol i’r ochr chwith iddo, i gyd i aros.

Ystafell Wely 2 (4.14m x 2.53m) – Ystafell wely ddwbl gyda charped lliw hufen a mynediad i gwpwrdd storio mawr dros risiau gyda silffoedd. Bleinds rholer tywyllu lliw hufen a chwpwrdd dillad dwbl Pax Ikea gyda drysau drych Ahein i aros.

Ystafell Ymolchi (2.01m x 1.96m) – Ystafell ymolchi gwyn gyda chawod drydan uwchben, teils wal lliw niwtral mawr, sgrin gawod gwydr, golau nenfwd lled-gyfwyneb a lloriau finyl moethus effaith derw canol arddull saethben.

Llofft – Llofft gyda llawr rhannol a goleuadau oddi ar y prif gyflenwad trydan sy’n cynnig lle storio ychwanegol.  Mynediad i’r agoriad o landin y llawr cyntaf.

Gardd Gefn — Gardd gefn wedi’i thirlunio sy’n wynebu’r de-orllewin gyda mynediad ochr a golygfeydd o gaeau cyfagos.  Ardal batio gyda goleuni trydan o synhwyro symudiad o’r prif gyflenwad trydan, gwelyau blodau uchel allan o drawstiau wedi’u paentio, gyda 3 gris i lawr i ardal laswelltog ar wahân yng nghefn yr ardd sydd â gwelyau blodau uchel ychwanegol. Sied ardd gyda silffoedd i aros.

Parcio – 1 lle wedi’i neilltuo o flaen yr eiddo gydag arwyddion pwrpasol a man parcio i ymwelwyr gerllaw iddo, ynghyd â mannau ychwanegol i ymwelwyr a pharcio oddi ar y ffordd yn y cyffiniau lleol.

Treth Gyngor – D (£2,056.25 y flwyddyn 26/27)

Deiliadaeth – RHYDD-DDALIAD

Ffi Rheoli Ystadau Blynyddol  — £37 am 26/27 (yn cynnwys cynnal a chadw ardaloedd cymunedol wedi’u tirlunio a’r draeniau. Cwmni – Maesllech Neighbourhood)

Sgôr TPY — B (Dilys tan fis Gorffennaf 2030. Adroddiad llawn ar gael ar-lein drwy www.gov.uk)

Gwarant NHBC – dilys tan fis Awst 2030

Blaendal – o leiaf 5% o werth 100% yr eiddo (sylwch efallai y bydd angen blaendal mwy ar rai benthycwyr).

Treth Trafodiadau Tir (TTT) – yn daladwy ar 100% o werth yr eiddo (defnyddiwch y ddolen ganlynol i wirio faint y byddwch chi’n ei dalu – https://www.llyw.cymru/cyfrifiannell-treth-trafodiadau-tir) (Nid yw’r cyngor yn ariannu’r dreth hon yn rhannol).

Bydd yr holl loriau, goleuadau nenfwd a bleindiau ffenestri fel y gwelir drwy’r eiddo, yn ogystal â’r cypyrddau ffitiedig yn y ddwy ystafell wely a’r sied yn yr ardd yn aros.

Manylion Prynu

Gwerthir yr eiddo hwn fel ECWITI A RENNIR.   Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn prynu cyfran ecwiti o 70% dan Gynllun Cartrefi Cyntaf Caerdydd a bydd yn berchennog cofrestredig 100% ar yr eiddo ar gwblhau’r gwerthiant.

Bydd Cyngor Caerdydd yn cadw’r gyfran ecwiti o 30% sy’n weddill ar yr eiddo.

Nid oes rhent na llog yn daladwy ar y 30%.

Pris

70% o’r pris prynu –  £203,000 (100% Pris – £290,000)

Gofyn am wylio

Mae’r gwylio’n digwydd 16/11/26 (Rhwng 5pm – 7pm).

Burges Close, Radur, Caerdydd, CF15 8GP





    Lleoliad

    Ewch i Cartrefi Cyntaf Caerdydd - Telerau ac Amodau.

    Ymwadiad

    Mae’r manylion hyn am y gwerthiant at ddibenion canllawiau cyffredinol yn unig. Nid ydynt yn ffurfio unrhyw ran o gynnig neu gontract. Nid ydym wedi cynnal arolwg strwythurol ar yr eiddo nac unrhyw wasanaethau. Nid yw unrhyw o’r gosodiadau penodol y sonnir amdanynt yn y manylion hyn wedi eu profi. Rhoddir yr holl luniau, mesurau, cynlluniau llawr a phellteroedd y cyfeirir atynt fel canllaw yn unig ac ni ddylid dibynnu arnynt wrth brynu carpedi a gosodiadau eraill. Rhoddir manylion prydles, taliadau gwasanaeth a rhent tir (lle bo’n berthnasol) yn unig a dylid eu cadarnhau gyda thrawsgludwr trwyddedig cyn cyfnewid contractau.