Pris prynu

269,500 - £273,000: 70% Pris Prynu (100% Pris £385,000 - £390,000)

Math yr Eiddo

Tŷ   3 Ystafell Wely

Dyddiad olaf i wneud cais:

5pm, 14.05.26

Cwrt y Pererin, rhwng Radur a Sain Ffagan, yw datblygiad diweddaraf Redrow o fewn eu rhaglen Gardd-Ddinas Plasdŵr yng Ngogledd-orllewin Caerdydd. Mae’r datblygiad, ychydig oddi ar Heol Llantrisant, yn cynnig cartrefi marchnad agored 2, 3 a 4 ystafell wely a thai 2 a 3 ystafell wely i’w gwerthu trwy Cartrefi Cyntaf Caerdydd.

Gyda chysylltiadau trafnidiaeth ardderchog â Chanol y Ddinas a’r M4, mae’r eiddo yn agos at siopau lleol, trafnidiaeth gyhoeddus, gan gynnwys gorsaf drenau Danescourt, beicffyrdd, cyfleusterau chwaraeon, llawer o fannau agored, ac mae hefyd yn nalgylch nifer o ysgolion cynradd ac uwchradd gan gynnwys Ysgol Gynradd Pentre-baen, Ysgol Gymraeg Coed y Gof, Ysgol Uwchradd Radur, Ysgol Uwchradd Cantonian ac Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr.

Mae cartref tair ystafell wely Redrow yn dŷ tref tri llawr sy’n cynnig lolfa fawr yng nghefn yr eiddo, cegin / ystafell fwyta ar wahân ym mlaen yr eiddo a thŷ bach ar y llawr gwaelod, prif ystafell wely gydag ensuite ac ystafell wely arall o faint da ar y llawr cyntaf a thrydydd ystafell wely ddwbl fawr ar y llawr uchaf.

Mae’r eiddo’n ‘Eco Trydan’ ac yn cynnig nodweddion ynni-effeithlon newydd fel pympiau gwres ffynhonnell aer, system wresogi o dan y llawr ar hyd y llawr gwaelod, inswleiddio gwell a drysau a ffenestri effeithlon iawn.

Bydd uwchraddiadau dewisol ar gael, ond yn amodol ar y cam adeiladu.

Gwybodaeth am yr Eiddo

Dimensiynau Ystafell

Llawr Gwaelod

Lolfa – 4.663m x 2.715m

Cegin / ardal fwyta – 5.350m x 2.520m

Toiled – 1.913m x 0.914m

 

Llawr Cyntaf  

Ystafell Wely 1 – 3.365m x 3.302m (max)

Ystafell Wely 1 ensuite – 2.702m x 1.204m

Ystafell Wely 3 – 3.150m x 2.562m

Ystafell Ymolchi – 2.122m x 2.562m

 

Ail Lawr

Ystafell Wely 2 – 6.320m (max) x 4.663m (max)

 

Manyleb Eiddo  

Cegin

  • Unedau ac wynebau gwaith cegin wedi’u gosod
  • Wyneb gwaith gyda chefnfwrdd dur gwrthstaen y tu ôl i’r hob
  • Sinc powlen 1½ dur gwrthstaen wedi’i fewnosod and draeniwr gyda thap
  • Hob ceramig 600mm, cwfl simnai a ffwrn ddwbl
  • Pibellau a lle ar gyfer peiriant golchi os nad oes cyfleustodau (peiriant
  • golchi dillad heb ei ddarparu**)
  • Oergell-rewgell integredig

 

Prif Ystafell Ymolchi

  • Dodrefn hylendid gwyn
  • Tapiau crôm
  • Cawod thermostatig dros fath gyda sgrin bath
  • Pwynt eillio
  • Drych cefnfwrdd y tu ôl i’r basn
  • Teils cefnfwrdd i waliau o amgylch y gawod

 

En-Suite

  • Dodrefn hylendid gwyn
  • Tapiau crôm
  • Drych cefnfwrdd y tu ôl i’r basn
  • Teils uchder llawn i’r amgaead cawod yn unig
  • Pwynt eillio

 

Toiled

  • Dodrefn hylendid gwyn
  • Cefnfwrdd y tu ôl i’r basn
  • Tap crôm

 

Gwres Trydan

  • Pwmp Gwres Ffynhonnell Aer gyda silindr dŵr poeth – gweler y lluniadau gweithredol am fanylion
  • Gwres o dan y llawr – llawr gwaelod yn unig
  • Rheiddiadur gwyn rhag-orffenedig – i fyny’r grisiau yn unig

 

Trydanol

  • Socedi trydan gwyn
  • Allfa soced teledu a phwynt rhwydwaith yn y lolfa
  • Soced teledu – safonol yn Ystafell Wely 1
  • Cyflenwad Pwynt Gwefru Cerbydau Trydan yn unig (Gellir prynu pwynt gwefru fel uwchraddiad)

 

Drysau A Ffenestri Mewnol Ac Allanol

  • Drws blaen arddull GRP (plastig atgyfnerthu gwydr) fel y nodir ar y lluniadau gweithredol
  • Drws ochr/ cefn arddull GRP (plastig atgyfnerthu gwydr) fel y nodir ar y lluniadau gweithredol
  • Dodrefn drysau mewnol crôm caboledig
  • Plac Rhif

 

Diogelwch

  • Clo di-allwedd i’r drws blaen
  • Ffenestri wedi’u gosod â chloeon ffenestri gydag allweddi ac eithrio dihangfa dân
  • Synwyryddion mwg

 

Tirlunio Caled A Meddal

  • Lawnt/ tirlunio gardd flaen (gweler y lluniad tirlunio am fanylion)
  • Gerddi cefn wedi’i phalu â pheiriant a’i phriddo
  • (Cynigir lawnt fel Uwchraddio Cwsmeriaid **)
  • Llwybrau – slabiau palmant fel y nodir ar luniadau gweithredol
  • Paneli ffens preifatrwydd a manylion ffensys (gweler y lluniadau gweithredol am fanylion)

 

Nodweddion Allanol Eraill

  • Estyll tywydd a soffitiau gwyn PVC-u
  • Golau allanol i’r fynedfa flaen
  • Man parcio dynodedig (i’w gadarnhau wrth gadw’r plot)

 

** Heb ei gynnwys yn safonol

 

Gwybodaeth Arall

  • Rhydd-ddaliad.
  • Tâl gwasanaeth misol yn cynnwys cynnal a chadw’r ardal tirwedd cymunedol a systemau draenio (swm i’w gadarnhau)
  • Sgôr TPY a ragwelir – B
  • Cyfradd y Dreth Gyngor (i’w chadarnhau ar adeg cadw llain)
  • Gwarant 10 mlynedd y NHBC / Gwarant 2 flynedd Redrow
  • Ffi cadw llain – £500.00 (wedi’i thynnu o’r pris terfynol a delir wrth gwblhau’r gwerthiant)
  • Ymgeiswyr llwyddiannus i’w cymeradwyo ymlaen llaw gan Ymgynghorwyr Ariannol a ffefrir gan Redrow fel rhan o’r broses o gadw llain
  • Cyfnod Cyfnewid – 6 wythnos o gadw llain

 

Manylion Prynu

3 Bed Mid Link House (Plots 195, 196) – 70% Pris Prynu – £269,500 (100% Pris – £385,000)

3 Bed End Link House (Plot 197) – 70% Pris Prynu – £273,000 (100% Price – £390,000)

Cwblhau’r Gwaith Adeiladu – Haf 2026

Bydd ceisiadau gan aelwydydd teulu cymwys yn cael eu blaenoriaethu ar gyfer asesiad hyd at 14.05.26.  Bydd ceisiadau a dderbynnir gan bob aelwyd gymwys arall yn cael eu hasesu ar ôl 14.05.26. 

Dyddiad Olaf I Wneud Cais – 5pm, 11.06.26 

Cysylltwch â ni





    Redrow Homes –

    Ffôn – 029 2168 5322

    E-bost – cwrtypererin@redrow.co.uk  

    Gwefan – https://www.redrow.co.uk/new-homes/devr152844-cwrt-y-pererin-at-plasdwr/

    Rhodfa Plasdŵr, Sain Ffagan, Caerdydd, CF5 2FG

    Lleoliad

    Ewch i Cartrefi Cyntaf Caerdydd - Telerau ac Amodau.

    Ymwadiad

    Mae'r manylion gwerthu hyn at ddibenion arweiniad cyffredinol yn unig a gallai rhai eitemau ac ati newid. Nid ydynt yn rhan o gynnig na chytundeb. Mae'r holl ddelweddau, mesuriadau a chynlluniau llawr yn fras ac ni ddylid eu defnyddio ar gyfer prynu carpedi, offer, dodrefn a gosodiadau eraill. Gall y gorffeniadau allanol, y tirlunio a’r cyfluniad amrywio fesul plot. Gofynnwch i ymgynghorydd gwerthu am ragor o wybodaeth a manylion y plot a ddewiswyd gennych.