Pris prynu

210,000 - 70% Pris Prynu (100% – £300,000)

Math yr Eiddo

Tŷ   2 Ystafell Wely

Dyddiad olaf i wneud cais:

5pm, 09/09/26

Mae Longwood Grange yn ddatblygiad hardd sydd wedi’i leoli’n ddelfrydol yn Llys-faen, gogledd Caerdydd. Bydd y datblygiad hwn yn apelio at nifer o ddarpar berchnogion tai, gan gynnwys teuluoedd a phrynwyr tro cyntaf oherwydd ei gysylltiadau trafnidiaeth rhagorol a’r llu o amwynderau sydd wedi’u lleoli gerllaw.

Wedi’i ddylunio mewn cymysgedd o arddulliau sy’n addas ar gyfer pob ffordd o fyw, mae pob cartref wedi’i adeiladu i safon Bellway a bydd yn cynnig lefel uchel o fanyleb a nodweddion, gan gynnwys ceginau llawn modern, gerddi blaen wedi’u tirlunio’n llawn a mannau parcio preifat.

Mae Longwood Grange wedi’i leoli’n ddelfrydol gyda chysylltiadau trafnidiaeth ardderchog â’r M4 a’r ardaloedd cyfagos, ac mae gorsaf drenau Llys-faen a Draenen Pen-y-graig gerllaw.

Mae nifer o ysgolion uchel eu bri yn yr ardaloedd o amgylch y datblygiad, gan gynnwys Ysgol Gynradd Llysfaen, Ysgol Gynradd Gatholig Crist y Brenin, Ysgol Gynradd Rhydypenau, ac Ysgol y Berllan Deg sydd i gyd o fewn radiws dwy filltir i Longwood Grange. I blant hŷn, mae Ysgol Uwchradd Gatholig Corpus Christi, Ysgol Gyfn Gymraeg Bro Edern, ac Ysgol Uwchradd Caerdydd ill dau dan 10 munud i ffwrdd.

The Cherry’ yw cartref dwy ystafell wely Bellway.  Mae’n ymfalchïo mewn gofod byw helaeth a thoiled ar y llawr gwaelod, dwy ystafell wely ddwbl go fawr, ystafell ymolchi i’r teulu a digon o le i storio, yn ogystal â lle parcio wedi’i ddyrannu.

Bydd uwchraddiadau dewisol ar gael, ond yn amodol ar y cam adeiladu.

Rhes o dai teras modern o frics coch gyda thoeau llwyd tywyll a gerddi blaen, wedi’u gweld o stryd sy’n llawn gwyrddni ar ddiwrnod heulog.

Gwybodaeth am yr Eiddo

Dimensiynau Ystafell

Llawr Gwaelod
Cegin 3.580m x 3.2m (max)
Lolfa 4.0m x 3.3m

Y Llawr Cyntaf 
Ystafell Wely 1 – 4.201m x 2.777m (max)
Ystafell Wely 2 – 4.471m x 3.238m (max)

 

Manyleb Eiddo

CEGIN
Popty, hob a chwfl mewn dur gwrthstaen
Dewis o unedau wal a llawr o ansawdd da
Dewis o ben gwaith wedi ei lamineiddio

YSTAFELL YMOLCHI
Teils wal cerameg i’r ystafell ymolchi a’r tŷ bach
Offer ystafell ymolchi Roca gwyn gyda chrôm
Ffitiadau Bristain

GORFFENIADAU ALLANOL
Golau allanol i’r blaen a’r cefn
Tyweirch / planhigion i’r ardd flaen
Tap tu allan
Drws ffrynt IG gyda system gloi amlbwynt, blwch llythyrau, twll gwylio, cadwyn drws a chloch drws a weithredir gan y prif gyflenwad trydan
Ffenestri UPVC o ansawdd uchel gyda cholfachau atgyrch ‘hawdd eu glanhau’ a nwyddau haearn gwyn
Ffens Byrddau Agos 1.8m i’r ardd gefn

GORFFENIADAU MEWNOL
Waliau a nenfydau wedi’u gorffen mewn gwyn
Gwres canolog nwy drwyddo draw gyda falfiau rheiddiadur thermostatig
Synhwyrydd mwg sy’n gysylltiedig â’r prif gyflenwad trydan gyda batri wrth gefn
Band eang ffibr cyflym iawn gan nifer o gyflenwyr

FFÔN AC AMLGYFRWNG
Pwyntiau teledu i’r lolfa ac ystafell wely 1
Pwynt BT i’r lolfa neu’r cyntedd

GWARANT AC ÔL-OFAL
Gwarant NHBC 10 mlynedd
Gwarant gofal cwsmeriaid 2 flynedd Bellway
Arddangosiad trylwyr o’ch cartref cyn i chi symud i mewn

PARCIO
Mannau parcio dynodedig

Mae’r Ffi Rheoli Ystadau Flynyddol hefyd yn berthnasol

 

Manylion Prynu

Cwblhau’r Gwaith Adeiladu – Hydref 2026

Dyddiad olaf 1 wneud cais  – 5pm, 09/09/26.

Tŷ pâr â 2 ystafell wely (Lleiniau 172, 173) – 70% Pris Prynu – £210,000 (100% – £300,000)

Cysylltwch â ni





    Cyfeiriad – Longwood Grange, Llys-faen, Caerdydd, CF14 0AN

    Bellway Homes
    Ffon – 029 2274 4779
    E-bost – LongwoodGrange@Bellway.co.uk

    Lleoliad

    Ewch i Cartrefi Cyntaf Caerdydd - Telerau ac Amodau.

    Ymwadiad

    Mae'r manylion gwerthu hyn at ddibenion arweiniad cyffredinol yn unig a gallai rhai eitemau ac ati newid. Nid ydynt yn rhan o gynnig na chytundeb. Mae'r holl ddelweddau, mesuriadau a chynlluniau llawr yn fras ac ni ddylid eu defnyddio ar gyfer prynu carpedi, offer, dodrefn a gosodiadau eraill. Gall y gorffeniadau allanol, y tirlunio a’r cyfluniad amrywio fesul plot. Gofynnwch i ymgynghorydd gwerthu am ragor o wybodaeth a manylion y plot a ddewiswyd gennych.