
- Mae Cartrefi Cyntaf Caerdydd yn gyfle i brynu cyfrannau ecwiti, a weinyddir gan Gyngor Caerdydd.
- Mae’r cynllun ar gael i brynwyr tro cyntaf sy’n byw neu’n gweithio yng Nghaerdydd ers y chwe mis diwethaf o leiaf, i weithwyr allweddol sy’n symud i Gaerdydd ar gyfer swydd ac i’r rheini sy’n symud i Gaerdydd am resymau proffesiynol neu bersonol. Mae ymgeiswyr sy’n gadael y Lluoedd Arfog yn gymwys ar gyfer y cynllun os oeddent yn byw yng Nghaerdydd am o leiaf 6 mis cyn ymuno â’r Lluoedd Arfog. Gellir ystyried prynwyr tro cyntaf yn eu rhinwedd eu hunain hefyd. Rhaid i ymgeiswyr fod yn ddinasyddion Prydeinig a meddu ar basbort Prydeinig cyfredol, neu fod â statws ‘Caniatâd Amhenodol i Aros’, ‘Caniatâd Amhenodol i Ddod i Mewn’, ‘Preswylydd Sefydlog’ (trwy’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE), ‘Dinasyddiaeth Ddeuol’ neu ‘Hawl Preswylio’.
- Nid yw ar gael, fodd bynnag, i’r rhai nad ydynt yn byw nac yn gweithio yng Nghaerdydd, sydd â buddiant ariannol mewn eiddo (h.y. mae eu henw ar y weithred neu’r morgais), sy’n elwa o unrhyw gynllun perchentyaeth arall, ac nad ydynt yn ddeiliaid pasbort Prydeinig neu nad oes ganddynt statws mewnfudo derbyniol arall fel y nodir uchod. Nid yw’r rhai sydd â fisa gwaith neu fyfyriwr ddilys neu unrhyw statws mewnfudo sydd â dyddiad dod i ben yn gymwys ar gyfer y cynllun. Cyfeiriwch at y rhestr lawn o feini prawf cymhwysedd yma (dolen i’r meini prawf cymhwysedd).
- Gellir amrywio meini prawf cymhwysedd y cynllun ar gyfer unrhyw gynllun peilot neu fenter sy’n targedu grŵp penodol o gleientiaid, er enghraifft, cynllun person hŷn.
- Mae’r cynllun yn darparu cartrefi fforddiadwy newydd o ansawdd uchel i’w prynu ar amrywiaeth o safleoedd datblygu ledled y ddinas. Mae rhai o’r eiddo hyn yn cael eu hadeiladu gan ddatblygwyr preifat y farchnad agored ac mae rhai yn rhan o raglenni tai newydd y Cyngor ei hun. Yn ogystal, mae eiddo ailwerthu ar gael pan fydd perchnogion presennol yn penderfynu symud ymlaen.
- Mae cynllun rhannu ecwiti Cartrefi Cyntaf Caerdydd ar gael i aelwydydd na allant fforddio prynu eiddo addas ar y farchnad agored, ond sy’n gallu codi’r cyfalaf i brynu eiddo am bris prynu gostyngol, sydd fel arfer 70% o werth marchnad yr eiddo hyn (gall y ganran fod yn is neu’n uwch ar gyfer rhai cartrefi). Ni ellir newid y pris prynu pan gaiff ei hysbysebu ac ni dderbynnir cynigion.
- Dim ond lleiniau penodol ar ddatblygiadau neu eiddo ailwerthu sydd wedi’u cynnwys yng Nghynllun Cartrefi Cyntaf Caerdydd sydd ar gael i’w prynu drwy’r cynllun. Mae’r holl eiddo yn cael eu hysbysebu drwy’r cynllun trwy hysbysebion ar-lein, cyfryngau cymdeithasol a negeseuon e-bost uniongyrchol at ymgeiswyr sydd wedi cofrestru ar restr aros y cynllun.
- Er mwyn cael eu hystyried ar gyfer eiddo a hysbysebir, rhaid i ymgeiswyr fod wedi cofrestru gyda’r cynllun cyn cyflwyno ffurflen gais wedi’i chwblhau’n llawn, ynghyd â thystiolaeth ategol, drwy e-bost at y cyfeiriad e-bost perthnasol ar yr hysbyseb a gyhoeddwyd YN UNIG (ni dderbynnir copïau caled). RHAID i ffurflenni gael eu llofnodi a’u sganio a bod ar ffurf PDF – ni all y Cyngor dderbyn fersiynau Microsoft Word na llofnodion electronig.
- Mae’n ofynnol i ymgeiswyr gyflwyno tystysgrif Morgais mewn Egwyddor ddilys gan fenthyciwr sydd ag enw da gyda’u cais, ynghyd â thystiolaeth o flaendal o 5% o leiaf o’r pris prynu gostyngol. Ni chaniateir pryniannau arian parod fel arfer ond gellir eu hystyried os oes amgylchiadau arbennig a byddant yn cael eu hasesu fesul achos ac yn amodol ar wiriadau ariannol ychwanegol.
- Rhaid i ymgeiswyr sicrhau bod pob ffynhonnell incwm, cyfalaf, cynilion a buddsoddiadau i’w defnyddio ar gyfer y pryniant yn cael eu datgelu ar y ffurflen gais a bod tystiolaeth berthnasol yn cael ei chyflwyno. Rhaid i’r holl gynilion, buddsoddiadau a chyfalaf gael eu cadw mewn cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu yn y DU cyn prynu’r eiddo a rhaid eu cadw yn enw’r ymgeisydd/ymgeiswyr.
- Dim ond pan fydd wedi’i gwblhau’n llawn, wedi’i lofnodi ac wedi’i gyflwyno gyda’r holl wybodaeth berthnasol y bydd y Cyngor yn derbyn cais. Rhaid cwblhau a llofnodi ffurflen gydsyniad trydydd parti hefyd – mae hyn er mwyn i’r Cyngor allu anfon gwybodaeth sy’n berthnasol i’ch pryniant at syrfewyr prisio, datblygwyr preifat a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig/Cymdeithasau Tai (lle y bo hynny’n berthnasol).
- Mae ceisiadau yn benodol i’r safle neu’r eiddo (os yw’n eiddo ailwerthu) a dim ond ar gyfer y safle datblygu neu’r eiddo ailwerthu a nodwyd y cânt eu hystyried. Er mwyn cael eu hystyried ar gyfer safleoedd datblygu neu eiddo ailwerthu eraill sy’n dod ar gael dan Gynllun Cartrefi Cyntaf Caerdydd yn y dyfodol, bydd angen i ymgeiswyr lenwi a chyflwyno ffurflen gais ar wahân.
- Gan fod nifer yr eiddo a hysbysebir drwy’r cynllun yn gyfyngedig, cynigir enwebiadau yn y drefn y derbynnir ceisiadau (ond dim ond ar ôl derbyn ffurflen gais wedi’i chwblhau’n llawn a’r HOLL dystiolaeth ofynnol).
- Gall ymgeiswyr fynegi eu bod yn ffafrio math o eiddo a/neu lain ar safleoedd datblygu newydd. Fodd bynnag, bydd maint yr eiddo a lefelau meddiannaeth yn cael eu hystyried wrth asesu ceisiadau a bydd aelwydydd teuluol yn cael eu blaenoriaethu ar gyfer eiddo 3 ystafell wely neu fwy yn ystod y 4 wythnos gyntaf o farchnata. Bydd unrhyw geisiadau a fyddai’n arwain at orlenwi yn cael eu gwrthod.
- Ar gyfer unrhyw eiddo sy’n cael eu hysbysebu lle mae Cymdeithas Dai yn dal y gyfran ecwiti, bydd gofyn i ymgeiswyr gyflwyno eu cais yn uniongyrchol atyn nhw. Bydd hyn yn cael ei nodi’n glir ar yr hysbysiad e-bost perthnasol a anfonir at y rhestr aros a bydd y Gymdeithas Dai yn rheoli’r broses ymgeisio a’r pryniant.
- Ar ôl ei gyflwyno, anfonir e-bost at ymgeiswyr yn cadarnhau bod eu cais wedi dod i law.
- Os nad yw cais yn gymwys neu os yw’n anghyflawn, cysylltir ag ymgeiswyr gyda rhestr o dystiolaeth/gwybodaeth sy’n ofynnol. Ni ellir prosesu’r cais nes bod yr holl dystiolaeth sydd heb ei chyflwyno wedi dod i law.
- SYLWER NID YW’R FFAITH BOD EICH CAIS WEDI DOD I LAW YN GOLYGU Y BYDD EICH CAIS YN LLWYDDIANNUS AC YN CAEL ENWEBIAD Â BLAENORIAETH.
- Pan fydd ymgeiswyr yn dewis penodi ymgynghorydd ariannol i’w cynorthwyo yn eu cais a/neu eu pryniant, bydd y Cyngor neu’r Gymdeithas Dai yn gofyn am unrhyw eglurhad sy’n ofynnol yn uniongyrchol gan yr ymgeisydd. Bydd yr ymgynghorydd ariannol yn cael ei ystyried yn drydydd parti.
- Bydd ceisiadau’n cael eu hasesu yn erbyn Polisi Enwebu Cartrefi Cyntaf Caerdydd (gweler y wefan i gael manylion). Ar gyfer cynllun peilot neu fenter sy’n targedu grŵp penodol o gleientiaid, gellir defnyddio Polisi Enwebu wedi’i addasu.
- Os bydd cais ar gyfer eiddo a adeiladwyd o’r newydd yn llwyddiannus, caiff manylion yr ymgeisydd, ynghyd â’i ffurflen Cydsyniad Trydydd Parti, eu hanfon at y datblygwr tai ac adran gyfreithiol y Cyngor, a fydd yn dechrau’r broses werthu. Yn achos eiddo ailwerthu, bydd manylion yr ymgeisydd yn cael eu hanfon at adran gyfreithiol y Cyngor. Ar gyfer enwebiadau Cymdeithas Dai, bydd manylion yr ymgeisydd yn cael eu hanfon ymlaen at gyfreithiwr penodedig y Gymdeithas Dai.
- Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw egluro, ac ystyried, yr holl gostau posib sy’n gysylltiedig â phrynu eiddo, er enghraifft, Treth Trafodiadau Tir (TTT), swm a chanran y blaendal, y Dreth Gyngor, costau cyfreithiol ac ati. Mae TTT yn daladwy ar werth marchnad llawn neu bris 100% yr eiddo. (Ar ben hynny, mae’r ymgeisydd yn atebol am gost lawn y TTT. Nid yw Cyngor Caerdydd na’r Gymdeithas Dai yn atebol i gyfrannu at TTT.)
- Cyfrifoldeb yr ymgeiswyr hefyd yw cadarnhau gyda’u benthyciwr morgais faint o flaendal sydd ei angen fel rhan o’u pryniant (gall hyn fod yn fwy na gofyniad y cynllun o 5% o’r pris prynu gostyngol).
- Os oes unrhyw newidiadau mewn incwm a/neu os yw unrhyw fanylion eraill yn newid cyn cwblhau’r pryniant, rhaid i ymgeiswyr hysbysu Cyngor Caerdydd neu’r Gymdeithas Dai ar unwaith. Gall methu â datgelu unrhyw wybodaeth, sy’n dod yn hysbys i Gyngor Caerdydd neu’r Gymdeithas Dai yn ddiweddarach, arwain at ganslo’r cais.
- Bydd pob ymgeisydd llwyddiannus yn cael terfyn amser ar gyfer cwblhau ei bryniant gan y Cyngor a/neu’r datblygwr tai, neu’r Gymdeithas Dai, os yw’n berthnasol. Os nad yw wedi’i gwblhau erbyn y dyddiad penodol, gall Cyngor Caerdydd neu’r Gymdeithas Dai dynnu’r cynnig o enwebiad yn ôl, ac enwebu ymgeisydd arall.
- Ni all y Cyngor na’r Gymdeithas Dai berthnasol dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am golled ariannol neu anghyfleustra os bydd ymgeisydd yn methu â chwblhau gwerthiant am ba bynnag reswm. At hynny, ni all Cyngor Caerdydd na’r Gymdeithas Dai ragweld na bod yn gyfrifol am newidiadau i werth llawn eiddo sydd wedi’u cynnwys yn y cynllun.
- Mae angen i Gyngor Caerdydd neu’r Gymdeithas Dai berthnasol ddiogelu ei fuddiant canrannol yn y ‘balans cadw’ o werth yr eiddo drwy gyfrwng ail forgais (a elwir yn ail arwystl) (*mae hyn fel arfer yn 30% ond ar nifer fach o eiddo gall hyn fod yn wahanol). Mae hyn yn golygu bod cyfran ganrannol yr eiddo yn cael ei ‘arwystlo’ gan yr ymgeisydd i’r Cyngor neu’r Gymdeithas Dai berthnasol, felly mae’r ymgeisydd dan rwymedigaeth i dalu cyfran ganrannol y Cyngor neu’r Gymdeithas Dai o’r gwerth marchnad presennol wrth ailwerthu. Ni fydd y swm a godir ond yn daladwy yn yr achosion canlynol: a) dymuna’r ymgeisydd ailwerthu’r eiddo’n ddiweddarach, neu b) mae unrhyw un o delerau dogfen ail forgais y Cyngor yn cael eu torri, neu c) mae Cyngor Caerdydd yn cymeradwyo cais i brynu ei gyfran ganrannol o’r gwerth marchnad llawn (yn amodol ar y cyfnod cymhwyso o 3 blynedd – gweler pwynt 32 isod). Bydd hawliau morgais Cyngor Caerdydd neu’r Gymdeithas Dai berthnasol yn cael eu gohirio i forgais Banc/Cymdeithas Adeiladu’r ymgeisydd, ac felly ni fyddant yn effeithio ar y gallu i gael morgais.
- Ar ôl cwblhau’r gwerthiant, bydd perchnogion newydd yn berchen ar 100% o’r teitl cofrestredig ar gyfer yr eiddo, felly nid yw’r rhent na’r llog yn daladwy ar y gyfran ecwiti sy’n weddill.
- Un o ofynion y cynllun yw bod yn rhaid i berchnogion newydd ddefnyddio’r eiddo fel eu hunig gartref. Er eglurder, ni ellir rhentu’r eiddo.
- Bydd angen i unrhyw brynwr sy’n dymuno gwerthu ei eiddo ar unrhyw adeg ar ôl ei brynu’n wreiddiol gynnig ei eiddo i’w werthu drwy Gynllun Cartrefi Cyntaf Caerdydd fel AILWERTHIAD. Os na cheir prynwr addas yn ystod y broses ailwerthu, bydd y perchennog yn rhydd i werthu’r eiddo ar y farchnad agored.
- Cyn ailwerthu, bydd y Cyngor yn cael gwybod beth yw gwerth yr eiddo ar y farchnad agored gan ddefnyddio prisiwr penodedig sy’n gymwys gyda Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS). Bydd manylion cyswllt y perchennog yn ogystal â gwybodaeth sy’n ymwneud â’r eiddo yn cael eu hanfon at brisiwr, fel y gellir gwneud trefniadau priodol i gael mynediad i’r eiddo at ddibenion arolwg. Bydd perchnogion yn cael gwybod ar adeg yr ymholiad a oes ffi yn daladwy a’r trefniadau ar gyfer sut i’w thalu. Ar gyfer unrhyw eiddo lle mae Cymdeithas Dai yn berchen ar y gyfran ecwiti, bydd yn ofynnol i berchnogion gysylltu â’r Gymdeithas Dai yn uniongyrchol i ddechrau’r broses ailwerthu, gan gynnwys nodi’r gwerth ar y farchnad agored ac unrhyw ffioedd sy’n daladwy.
- Mae gan berchnogion hawl hefyd i ‘brynu allan’ y gyfran ecwiti a gedwir gan y Cyngor ar ôl cyfnod cymhwyso o 3 blynedd. Dim ond mewn un ‘cyfandaliad’ y gellir prynu hyn a bydd yn seiliedig ar werth yr eiddo ar y farchnad agored ar adeg y cais. Bydd yn ofynnol i berchnogion ddarparu gwerth arfaethedig yr eiddo ar y farchnad agored i’w ystyried gan y Cyngor cyn i unrhyw gais am brynu ecwiti gael ei gytuno, ac mae adroddiad prisio morgais, cynnig morgais sy’n nodi’r gwerth ar y farchnad agored neu adroddiad prisio gan Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) yn dderbyniol.
- Os na chaiff y pryniant ecwiti ei gwblhau o fewn 6 mis i ddyddiad y prisiad, mae’r Cyngor yn cadw’r hawl i adolygu’r prisiad.
- Gall y gallu i ‘brynu allan’ yr ecwiti a gedwir hefyd fod ar gael ar rai eiddo Cymdeithasau Tai lle maent yn cadw’r gyfran ecwiti (gweler pwyntiau 37 a 38 isod).
- Mae Cyngor Caerdydd yn cadw’r hawl i wneud diwygiadau i reolau a meini prawf Cynllun Cartrefi Cyntaf Caerdydd ar sail profiad. Bydd y penderfyniadau a wneir gan Gyngor Caerdydd drwy gydol y cais yn derfynol.
- Mae’r wybodaeth a roddir gennych wrth wneud cais yn gwbl gyfrinachol a bydd Cyngor Caerdydd dim ond yn ei defnyddio i asesu eich cymhwysedd ar gyfer Cynllun Cartrefi Cyntaf Caerdydd.
EIDDO CYMDEITHASAU TAI YN UNIG
37. Os yw ymgeiswyr yn gwneud cais am eiddo lle mae Cymdeithas Dai yn dal y gyfran ecwiti, byddant yn cael gwybod am hyn. Bydd y Gymdeithas Dai yn rheoli’r cais a’r pryniant (yn achos enwebiad llwyddiannus).
38. Mae rheolau ychydig yn wahanol ar gyfer eiddo lle mae Cymdeithas Dai yn dal y gyfran ecwiti – bydd rhai yn caniatáu i ymgeiswyr brynu’r gyfran ecwiti gan wneud taliadau fesul cam ac ni fydd eraill yn caniatáu prynu cyfran ecwiti.
39. Bydd ymgeiswyr yn cael gwybod am unrhyw wahaniaethau penodol yn y deunydd marchnata ar gyfer yr eiddo.
Er bod Cyngor Caerdydd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau tai i’w drigolion, yn gyffredinol, mae mwy o bobl yn chwilio am eiddo nag sydd ar gael a/neu sy’n addas ar gyfer eu hanghenion.
Gallai Cartrefi Cyntaf Caerdydd gynnig dewis tai arall i breswylwyr. Mae’r cynllun ar gael i brynwyr tro cyntaf sy’n byw a / neu’n gweithio yng Nghaerdydd ac mae’n rhoi cyfle i bobl gymryd y camau cyntaf ar yr ysgol eiddo. Nid yw wedi’i anelu at bobl sy’n gallu fforddio prynu eiddo addas ar y farchnad agored heb gymorth, neu’r rhai sydd wedi bod yn berchen ar gartref o’r blaen ond sy’n dymuno symud i ardal wahanol.
Pwy sy’n gymwys ar gyfer y cynllun?
Mae rhaid i’r rhai sy’n gymwys ar gyfer Cynllun Cartrefi Cyntaf Caerdydd Cyngor Caerdydd fod:
- Dros 18 oed;
- Ddeiliad pasbort Prydeinig neu fod ganddynt statws ‘Caniatâd Amhenodol i Aros’, ‘Caniatâd Amhenodol i Ddod i Mewn’, ‘Statws Preswylydd Sefydlog’ (drwy’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE), ‘Dinasyddiaeth Ddeuol’ neu ‘Hawl Preswylio’. Nid yw’r rheiny sydd â Fisa gwaith neu fyfyriwr dilys â dyddiad dod i ben yn gymwys am y cynllun.
- Yn brynwr tro cyntaf
- Yn brynwr tro cyntaf ‘ yn eich hawl eich hun’. (Byddai’r bobl sy’n perthyn i’r categori hwn yn ymgeiswyr sydd wedi bod yn berchen ar eiddo ar y cyd ac o ganlyniad i berthynas yn chwalu, nid ydynt yn berchen ar eiddo mwyach)
- Yn gallu bodloni ymrwymiad ariannol hirdymor perchentyaeth
Yn ogystal â’r uchod, i fod yn gwbl gymwys, rhaid i ymgeiswyr naill ai fod yn –
- Byw a / neu yn gweithio yng Nghaerdydd ers y 6 mis diwethaf
- Gweithiwr allweddol yn symud i Gaerdydd am swydd *
- Gadael y Lluoedd Arfog (*rhaid i ymgeiswyr fod wedi byw yng Nghaerdydd am o leiaf chwe mis yn syth cyn ymuno â’r Lluoedd Arfog)
- Symud i Gaerdydd am resymau personol neu broffesiynol ac â chysylltiad lleol sefydledig â Chaerdydd.
* ystyrir mai gweithwyr allweddol yw’r rhai sy’n gweithio ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Addysg a Gofal Plant, Diogelwch y Cyhoedd a Diogelwch Cenedlaethol a Bwyd a nwyddau hanfodol angenrheidiol eraill. Gall y gweithwyr allweddol a ystyrir newid yn unol â chanllawiau’r llywodraeth
Mae’r rhai nad ydynt yn gymwys ar gyfer y cynllun yn cynnwys:
- Pobl nad ydynt yn byw nac yn gweithio yng Nghaerdydd neu sydd â chysylltiad lleol sefydledig â Chaerdydd
- Pobl sydd â buddiant ariannol mewn eiddo ar hyn o bryd
- Pobl sydd wedi bod â buddiant ariannol mewn eiddo fel unig berchennog o’r blaen
- Pobl sydd wedi manteisio ar fenter perchentyaeth cost isel neu berchentyaeth â chymorth yn y gorffennol fel unig berchennog.
Os nad ydych yn bodloni’r meini prawf i fod yn gymwys ar gyfer y cynllun ond bod amgylchiadau eithriadol o ran eich sefyllfa o ran tai, cysylltwch â ni i drafod ymhellach.
Cydymgeiswyr
Rhaid i gydymgeiswyr ar y cynllun fod yn ddau oedolyn sy’n gymwys ar gyfer y cynllun yn dilyn y meini prawf a nodwyd.
Rydym yn ystyried cydymgeiswyr yn:
- Bobl dros 18 oed
- Rhaid i’r ddau ymgeisydd fod ar y cais;
- Rhaid i’r ddau ymgeisydd fod ar y morgais;
- Rhaid i’r ddau feddiannu’r eiddo a brynir drwy’r cynllun fel eu hunig gartref neu eu prif gartref;
Ni dderbynnir cais ar y cyd os bydd un o’r ymgeiswyr yn anghymwys ar gyfer y cynllun.
Y Broses Enwebu
Ar hyn o bryd mae mwy o bobl nag o eiddo ar gael i’w prynu drwy’r cynllun. Mae’r broses enwebu ganlynol ar gyfer DATBLYGIADAU NEWYDD ac EIDDO A AILWERTHIR yn galluogi’r Cyngor i enwebu ymgeiswyr mewn ffordd deg a thryloyw ac i baru eiddo a’r ymgeisydd/ymgeiswyr mwyaf addas.
Bydd pob eiddo’n cael ei hysbysebu am gyfnod penodol. I’w ystyried ar gyfer eiddo, rhaid i ymgeiswyr gyflwyno ffurflen gais wedi’i chwblhau’n llawn ac wedi’i llofnodi, ynghyd â’r holl dystiolaeth ofynnol, gan gynnwys tystysgrif morgais ddilys gan frocer morgais ag enw da, banc neu gymdeithas adeiladu a thystiolaeth o flaendal o 5% ar adeg y cais.
Bydd eiddo’n cael ei enwebu’n bennaf mewn trefn ymgeisio – gallai hyn fod cyn diwedd y cyfnod hysbysebu.
Fodd bynnag, ar gyfer tai teuluol (eiddo tair neu bedair ystafell wely), bydd ceisiadau a dderbynnir o fewn y 4 wythnos gyntaf y caiff yr eiddo ei hysbysebu yn cael eu blaenoriaethu ar gyfer teuluoedd o faint priodol i’r cartref. Fodd bynnag, rydym yn annog pob ymgeisydd i wneud cais mor gynnar â phosibl yn y broses.
Yn ogystal, gellir hysbysebu rhai datblygiadau ar gyfer grwpiau penodol fel gweithwyr allweddol. Bydd unrhyw ofynion penodol yn cael eu gwneud yn glir yn y manylion marchnata.
Tystiolaeth
Rhaid i ymgeiswyr ddarparu’r dystiolaeth ganlynol –
- Pasbort neu Drwydded Yrru a dogfen CiAA, os yw’n berthnasol
- Cyfeiriad Cyfredol – cytundeb tenantiaeth neu lythyr gan rieni/landlord (os nad mewn llety rhent preifat), ynghyd â bil cyfleustodau neu gyfriflen banc
- Cyfeiriadau Blaenorol (3 blynedd diwethaf) – fel y rhai a restrir uchod
- Y 3 slip cyflog diwethaf ar gyfer prif gyflogwr
- Geirda gan gyflogwr yn nodi cyflog blynyddol a dyddiadau cyflogaeth
- Tystysgrif Morgais mewn Egwyddor ddilys (a elwir hefyd yn Penderfyniad neu Gytundeb mewn Egwyddor). RHAID i’r swm a ddyfynnir ar y dystysgrif, ynghyd ag arbedion ar gyfer blaendal a ddangosir, dalu’r pris prynu
- Os ydych yn symud n i Gaerdydd am resymau personol neu broffesiynol, rhaid i ymgeiswyr ddarparu prawf o gysylltiad lleol, megis adroddiad ysgol, neu fil cyfleustodau ar gyfer aelod o’r teulu sy’n byw yn yr ardal leol
- Gweithwyr allweddol yn unig – prawf bod ymgeisydd yn symud yn i Gaerdydd ar gyfer swydd newydd, fel contract neu lythyr cyflogaeth gan gyflogwr newydd.
- Tystiolaeth o flaendal o 5% o leiaf o’r pris prynu a hysbysebwyd (nid Gwerth y Farchnad)
Prif Ystyriaethau
Bydd y canlynol yn cael ei ystyried wrth asesu cais –
- Dylai fod gan bob oedolyn neu gwpl ei ystafell ei hun
- Yn ddelfrydol, mae pob plentyn (a ystyrir o dan 16 oed) fod ag ystafell wely ar wahân ond lle nad yw hyn yn bosibl, byddem ond yn disgwyl i blant o’r un rhyw rannu ystafell wely
- Ni ddylai plant o’r rhyw arall rannu ystafell lle mae un plentyn dros naw oed
- Os nad yw’n bosibl i blentyn gael ei ystafell wely ei hun yna ni ddylai mwy na dau blentyn rannu ystafell wely
- Gellir cynnal asesiad ariannol i sicrhau fforddiadwyedd os bydd Ystyrir bod fforddiadwyedd yn ddim mwy na 40% o’r incwm misol i’w wario ar daliad morgais misol
- Gellir gofyn am dystiolaeth bellach a gellir cynnal gwiriadau gan gynnwys y gofrestrfa tir ar gyfer perchentyaeth flaenorol /gyfredol yn ôl yr angen
- Bydd ymgeiswyr yn cael blaenoriaeth lle mae dewis tai yn bodloni maint aelwydydd/cyfansoddiad teuluol
- Yn y rhan fwyaf o achosion, dim ond i eiddo lle mae uchafswm o un ystafell wely ‘sbâr’ ychwanegol o’i gymharu â maint aelwydydd y caiff aelwydydd eu henwebu
- Pobl y byddai eu tystysgrif forgais ar y cyd â’r blaendal/cynilion sydd ar gael yn eu galluogi i brynu’r eiddo neu un tebyg am werth llawn y farchnad.
Y Weithdrefn Apelio
Os yw ymgeisydd yn anhapus gyda phenderfyniad y Cyngor, mae ganddo’r hawl i apelio. Rhaid i apeliadau fod yn ysgrifenedig drwy lythyr neu e-bost at y Tîm Datblygu Tai yn y cyfeiriad canlynol o fewn 14 diwrnod i’r llythyr penderfyniad:
Datblygu Adfywoi
Neuadd y Sir,
Glanfa’r Iwerydd
Caerdydd
CF10 4UW
cartreficyntafcaerdydd@caerdydd.gov.uk
Mae gan Reolwr priodol 15 diwrnod gwaith ar ôl derbyn y cais i adolygu’r penderfyniad gwreiddiol ac ymateb. Yn ystod y cyfnod hwn, gall y Rheolwr ofyn am wybodaeth ychwanegol gan yr ymgeisydd a’r Swyddog Perchentyaeth. Cyfarwyddwr Corfforaethol Pobl a Chymunedau fydd yn gyfrifol am y penderfyniad terfynol a chaiff ymgeiswyr eu hysbysu’n ysgrifenedig.
Os oeddech wedi prynu eich eiddo drwy Cartrefi Cyntaf Caerdydd a nawr eisiau naill ai werthu neu brynu’r gyfran ecwiti sy’n weddill, bydd angen i chi gysylltu â ni yn gyntaf fel y gallwn roi gwybod i chi beth sydd angen i chi ei wneud.
Os ydych am werthu eich eiddo, byddwn yn ei farchnata drwy ein cynllun ac os na allwn ddod o hyd i brynwr ar gyfer eich eiddo oddi ar ein rhestr aros o fewn cyfnod penodol, yna cewch werthu’ch eiddo ar y farchnad agored ac ad-dalu cyfran y cyngor neu’r gymdeithas dai o’r pris prynu. Am ragor o wybodaeth am hyn, gallwch gyfeirio at Reolau a Meini Prawf ein Cynllun.
Ar ôl 3 blynedd o berchnogaeth, mae gan berchnogion ddewis i brynu cyfran ecwiti’r cyngor neu’r gymdeithas dai yn unol â gwerth y farchnad bresennol. Am ragor o wybodaeth am hyn, gallwch hefyd gyfeirio at Reolau a Meini Prawf ein Cynllun.
Cysylltwch â ni os hoffech chi ddechrau’r broses Ailwerthu neu Bryniant Ecwiti.
Ein Manylion Cyswllt
Enw: Cynllun Cartrefi Cyntaf Caerdydd
Cyfeiriad: Ystafell 348, Neuadd y Sir, Glanfa’r Iwerydd, Caerdydd, CF10 4UW.
Rhif Ffôn: 07866 370 394
E-bost: cartreficyntafcaerdydd@caerdydd.gov.uk
Gwefan: https://www.devandregencardiff.co.uk/cy/tai/cartrefi-cyntaf-caerdydd/
Mae eich preifatrwydd yn bwysig i ni. Mae’r hysbysiad gwybodaeth hwn yn esbonio pa ddata personol a gasglwn gennych chi a sut rydym yn ei ddefnyddio. Darllenwch y wybodaeth isod ac, os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â ni.
Pam ydyn ni’n prosesu eich gwybodaeth bersonol?
Rydym yn prosesu eich gwybodaeth bersonol, gan gynnwys unrhyw gategorïau arbennig o wybodaeth bersonol, mewn cysylltiad â hyrwyddo datblygiadau newydd yn ôl cais chi, prynu eich cartref neu dâl cyfreithiol.
Byddai hyn yn cynnwys delio ag unrhyw gyfreithwyr, cynghorwyr ariannol, cyflogwyr, syrfewyr prisio a chontractwyr, ar faterion fel prynu cartref, ail-forgeisio ceisiadau, a phrynu ecwiti. Rydym yn prosesu’r wybodaeth hon naill ai oherwydd ei bod yn angenrheidiol i ni wneud hynny er mwyn rheoli eich gwerthiant neu’ch pryniant, neu oherwydd bod cyfreithiau sy’n caniatáu i ni, neu sy’n ei gwneud yn ofynnol i ni, ei phrosesu. Os na wnaethoch roi’r wybodaeth hon i ni, ni fyddem yn gallu gweinyddu eich gwerthiant na darparu’r gwasanaethau o dan eich tâl cyfreithiol.
Y math o wybodaeth bersonol a gasglwn
Ar hyn o bryd rydym yn casglu ac yn prosesu’r wybodaeth bersonol ganlynol, ond nid yw’n gyfyngedig i:
- Dynodwyr personol:
- Teitl, enw cyntaf a chyfenw
- Manylion cyswllt gan gynnwys cyfeiriad post, cyfeiriad e-bost a rhifau ffôn
- Rhif yswiriant gwladol
- Dyddiad geni
- Categori Arbennig:
- Rhywedd
- Cyfeiriadedd Rhywiol
- Crefydd/cred
- Ethnigrwydd
- Statws priodasol
- Ieithoedd sy’n cael eu siarad
- Anabledd
- Gwybodaeth arall:
- Dibynyddion
- Teitl y gwaith
- Incwm blynyddol
- Arbedion
- Dinasyddiaeth
- Data sy’n benodol i’r cynllun:
- Amgylchiadau tai presennol
- Gwybodaeth morgais
- Statws ariannol a manylion cyfrif banc
Sut rydym yn cael y wybodaeth bersonol, pam mae gennym, a sut rydym yn ei ddefnyddio
Mae’r rhan fwyaf o’r wybodaeth bersonol a gaiff ei phrosesu gennym yn cael ei rhoi’n uniongyrchol gennych chi am un o’r rhesymau canlynol:
- Sicrhau eich bod yn bodloni meini prawf y cynllun
- Fel y gallwn roi gwybod i chi ar ein rhestr aros pan fydd eiddo ar gael i’w werthu drwy’r cynllun.
- Os cewch eich enwebu’n llwyddiannus i brynu eiddo, efallai y bydd angen rhoi eich manylion i ddatblygwr neu gymdeithas dai a/neu Dîm Cyfreithiol y cyngor, fel y gallant ddechrau’r achos gwerthu.
- Ac os byddwch yn prynu drwy’r cynllun ac yn penderfynu gwerthu’ch eiddo ymlaen yn ddiweddarach, bydd angen eich manylion cyswllt arnom fel y gellir eu trosglwyddo i’n syrfëwr penodedig fel y gallant gynnal arolwg ar eich cartref.
Rydym hefyd yn derbyn gwybodaeth bersonol yn anuniongyrchol, o’r ffynonellau canlynol yn yr amgylchiadau canlynol:
- Efallai ein bod wedi derbyn atgyfeiriad o ffurflen ar-lein drwy wefan y cyngor
- Efallai ein bod wedi derbyn atgyfeiriad gan adran arall yn dilyn ymholiad gennych
- Efallai ein bod wedi derbyn atgyfeiriad awtomataidd o wefannau ‘chwaer’
- Efallai bod eich manylion wedi’u trosglwyddo i ni gan ddatblygwr
Sefydliadau y gallwn rannu eich data personol â nhw
Efallai y byddwn yn rhannu’r wybodaeth hon gydag adrannau eraill o fewn Cyngor Caerdydd, megis:
- Tîm Cyfreithiol Cyngor Caerdydd
- Tîm Cyllid Cyngor Caerdydd
Efallai y byddwn hefyd yn rhannu eich gwybodaeth bersonol gydag asiantaethau allanol perthnasol, megis:
- Ein partneriaid Cymdeithasau Tai (*ar hyn o bryd Cymdeithas Tai Cymunedol Caerdydd, United Welsh a Chymdeithas Tai Wales and West)
- Contractwyr, datblygwyr preifat ac adeiladwyr.
- Syrfewyr a Phriswyr – os ydych yn prynu eiddo drwy’r cynllun ac yn penderfynu gwerthu ymlaen yn ddiweddarach, byddwn yn trosglwyddo eich enw, cyfeiriad, rhif ffôn a chyfeiriad e-bost i’n syrfëwr penodedig fel y gallant gynnal arolwg eiddo er mwyn sefydlu gwerth y farchnad.
- Eich cyfreithiwr
- Eich cyflogwr
- Eich cynghorydd ariannol
- Eich benthyciwr/darparwr morgais
Y sail gyfreithlon rydym yn dibynnu arni i brosesu eich gwybodaeth bersonol
Yn gyffredinol, bydd y sail gyfreithlon y byddwn yn dibynnu arni ar gyfer prosesu eich gwybodaeth bersonol yn un o’r canlynol:
- GDPR y DU Erthygl 6 (1) (a) Rydych wedi rhoi caniatâd i ni brosesu eich cais.
- GDPR y DU Erthygl 6 (1) (b) Rydych wedi ymrwymo i gontract gyda ni.
- GDPR y DU Erthygl 6 (1) (f) Mae gennym ddiddordeb dilys i brosesu eich data.
Sut rydym yn storio eich gwybodaeth bersonol
Caiff eich gwybodaeth ei storio’n ddiogel ar gronfeydd data a ddiogelir gan gyfrinair ar rwydwaith diogel gyda mynediad yn cael ei ganiatáu i staff sy’n gweithredu Cynllun Cartrefi Cyntaf Caerdydd yn unig.
Byddwn yn cadw eich data personol am gyfnodau gwahanol o amser yn dibynnu ar yr hyn rydym yn ei ddefnyddio ar gyfer y canlynol –
Cronfa Ddata Rhestrau Aros – byddwch yn aros ar ein cronfa ddata oni bai eich bod yn dweud wrthym eich bod am gael eich symud neu eich bod yn prynu eiddo drwy’r cynllun
Ceisiadau Llwyddiannus – os byddwch yn cyflwyno cais am eiddo a’ch bod yn llwyddiannus, yna bydd y ffurflen a’r dystiolaeth a gyflwynwyd gennych yn cael eu cadw ar ein rhwydweithiau diogel am gyfnod o 7 mlynedd o ddyddiad cwblhau’r gwerthiant.
Ceisiadau aflwyddiannus – os byddwch yn cyflwyno cais am eiddo a’ch bod yn aflwyddiannus, yna bydd y ffurflen a’r dystiolaeth a gyflwynwyd gennych yn cael eu cadw ar ein rhwydweithiau diogel am gyfnod o 6 mis.
Atgyfeirio Enwebiad – os cewch eich enwebu ar gyfer eiddo a’ch bod yn llwyddiannus, yna bydd y ffurflen a’r dystiolaeth a gyflwynwyd gennych yn cael eu cadw ar ein rhwydweithiau diogel am gyfnod o 7 mlynedd o ddyddiad cwblhau’r gwerthiant; os cewch eich enwebu ar gyfer eiddo a’ch bod yn aflwyddiannus, yna bydd y ffurflen a’r dystiolaeth a gyflwynwyd gennych yn cael eu cadw ar ein rhwydweithiau diogel am gyfnod o 6 mis o’r dyddiad cyflwyno.
Cronfa Ddata’r Perchennog – os ydych yn prynu eiddo drwy’r cynllun, yna bydd eich enw, aelwyd deuluol, oedran, rhyw, manylion morgais a galwedigaeth yn cael eu hychwanegu at gronfa ddata ein perchennog, ynghyd â manylion yr eiddo. Byddwch yn aros ar y gronfa ddata hon hyd nes y bydd yr eiddo’n cael ei werthu. Unwaith y bydd eich eiddo wedi’i werthu, dim ond manylion yr eiddo fydd yn aros ar y gronfa ddata, gan gynnwys cyfeiriad yr eiddo, y pris a dalwyd, rhaniad ecwiti a’r dyddiadau y prynwyd a gwerthwyd yr eiddo. Bydd yr holl fanylion personol yn cael eu dileu.
Atgyfeiriad Prisio – Bydd unrhyw negeseuon e-bost neu ddogfennau sy’n cael eu storio’n electronig sy’n ymwneud â hyn yn cael eu dileu o’n systemau diogel ar ôl cyfnod o flwyddyn.
Eich hawliau diogelu data
Dan gyfraith diogelu data, mae gennych hawliau sy’n cynnwys:
Eich hawl mynediad – Mae gennych hawl i ofyn i ni am gopïau o’ch gwybodaeth bersonol.
Eich hawl i gywiro – Mae gennych hawl i ofyn i ni gywiro gwybodaeth bersonol sy’n anghywir yn eich barn chi. Mae gennych hefyd hawl i ofyn i ni gwblhau gwybodaeth sy’n anghyflawn yn eich barn chi.
Eich hawl i ddileu – Mae gennych hawl i ofyn i ni ddileu eich gwybodaeth bersonol dan rai amgylchiadau.
Eich hawl i gyfyngu ar brosesu – Dan rai amgylchiadau mae gennych hawl i ofyn i ni gyfyngu ar brosesu eich gwybodaeth bersonol.
Eich hawl i wrthwynebu prosesu – Mae gennych hawl i wrthwynebu prosesu eich data personol dan rai amgylchiadau.
Eich hawl i gludadwyedd data – Mae gennych hawl i ofyn i ni drosglwyddo’r wybodaeth bersonol a roesoch i ni i sefydliad arall, neu i chi, dan rai amgylchiadau.
Nid oes angen i chi dalu unrhyw dâl am arfer eich hawliau. Os gwnewch gais, bydd gennym un mis i ymateb i chi.
Cysylltwch â ni yn cartreficyntafcaerdydd@caerdydd.gov.uk os ydych yn dymuno gwneud cais.
Sut i gwyno
Gallwch gwyno i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth os ydych yn anhapus â’r ffordd rydym wedi defnyddio eich data.
Cyfeiriad Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth:
Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Swydd Gaer
SK9 5AF
Rhif llinell gymorth: 0303 123 1113
Gwefan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth: https://www.ico.org.uk
Cysylltu â Diogelu Data
Cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data i gael mwy o wybodaeth.
Swyddog Diogelu Data
Tîm Llywodraethu Gwybodaeth
Neuadd y Sir
Glanfa’r Iwerydd
Caerdydd
CF10 4UW