Mae’r prosiect wedi ei gwblhau.

Golygfa o'r awyr o barc gydag ardal laswelltog fawr a choed gwasgaredig ar y chwith, a maes chwarae rhannol weladwy ar y dde. Mae'r maes chwarae yn cynnwys trac cylchol gyda marciau ffordd ac ardal chwarae ganolog gydag offer. Mae sawl person yn cerdded ac yn ymgynnull ar hyd y llwybrau ac yn agos at yr ardal chwarae. Mae coed trwchus yn ffurfio'r cefndir, gyda thref i'w gweld yn y pellter.
Funded by UK Government logo

Mae’r Cynllun Adnewyddu Cymdogaethau yn fenter ledled y ddinas sy’n ceisio mynd i’r afael â blaenoriaethau adfywio lleol. Mae’r rhaglen yn darparu prosiectau adfywio ar raddfa fach a gyflwynwyd gan Aelodau Lleol.  Mae prosiectau wedi’u cynllunio a’u datblygu mewn partneriaeth â thrigolion lleol, grwpiau cymunedol ac asiantaethau i fynd i’r afael ag angen neu broblem a nodwyd.

Yn dilyn syniadau a gyflwynwyd gan Aelodau’r Ward Lleol a’r sylwadau a dderbyniwyd mewn digwyddiad ymgysylltu a gynhaliwyd yn 2024, mae’r ardal chwarae newydd ym Mharc y Sblot, sydd â thema gemau a phosau, bellach yn cynnig cyfarpar i blant bach, plant a phobl ifanc yn ogystal ag offer chwarae hygyrch ac ardaloedd chwarae naturiol.

Cynhaliwyd digwyddiad agoriadol ar 18 Gorffennaf i agor yr ardal chwarae newydd yn swyddogol.

Cysylltwch â ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon am y prosiect hwn, cysylltwch â ni.





    Lleoliad