Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i wefan Datblygu a Adfywio.
Cynhelir y wefan hon gan Gyngor Caerdydd. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech allu:
- newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau gan ddefnyddio gosodiadau porwr neu ddyfais,
- chwyddo hyd at 400% heb i’r testun fynd oddi ar y sgrin
- llywio’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd neu feddalwedd adnabod lleferydd, a
- gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau mwyaf diweddar o JAWS, NVDA a VoiceOver)
Rydym hefyd wedi gwneud y testun ar y wefan mor syml â phosibl i’w ddeall.
Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws ei defnyddio os oes gennych anabledd.
Adborth a gwybodaeth gyswllt
Cysylltwch â ni os ydych:
- yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y dudalen hon,
- yn credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, neu
- os oes angen gwybodaeth arnoch am y wefan hon mewn fformat gwahanol
E-bost: devandregen@cardiff.gov.uk
Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi cyn gynted â phosibl.
Gweithdrefn orfodi
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych yn fodlon ar sut rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS).
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Mae Cyngor Caerdydd wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018.
Statws cydymffurfio
Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â Safon AA y Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.2, oherwydd y diffyg cydymffurfio a’r eithriadau a restrir isod.
Cynnwys nad yw’n hygyrc
Nid yw’r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol.
Methu â chydymffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd
Enw | Maen Prawf Llwyddiant | Cynnydd |
---|---|---|
Ychwanegwch allwedd ar gyfer pob set maes | WCAG 2.0 A 1.3.1 |
32.65% |
Sicrhewch fod labeli rheoli ffurflenni | WCAG 2.0 A 1.3.1 |
36.86% |
Sicrhewch fod labeli yn y rhan o’r ddogfen yn pwyntio at wybodaeth adnabod ddilys | WCAG 2.0 A 1.3.1 |
48.63% |
Sicrhewch fod labeli yn y rhan o’r ddogfen yn pwyntio at wybodaeth adnabod ddilys | WCAG 2.0 A 1.3.1 |
48.97% |
Tynnwch briodwedd cwmpas ddarfodedig ar gyfer cell tabl | WCAG 2.0 A 1.3.1 |
92.96% |
Osgowch ddefnyddio’r un testun dolen ar gyfer gwahanol gyrchfannau | WCAG 2.0 A 2.4.4 |
94.90% |
Sicrhewch fod penawdau’n cynnwys testun | WCAG 2.0 A 1.3.1 |
96.13% |
Nodwch bwrpas meysydd yn rhaglennol | WCAG 2.1 AA 1.3.5 |
98.46% |
Trwsiwch rifau adnabod dyblyg | WCAG 2.0 A 4.1.1 |
98.98% |
Ychwanegwch benawdau at dablau | WCAG 2.0 A 1.3.1 |
99.54% |
Ysgrifennwch restrau neu grwpiau o ddolenni yn semantig | WCAG 2.0 A 1.3.1 |
99.66% |
Dogfennau PDF ac eraill
Enw | Maen Prawf Llwyddiant | Cynnydd |
---|---|---|
Nodwch benawdau ar gyfer pob PDF | WCAG 2.0 A 1.3.1 |
24.49% |
Sicrhewch fod ffeiliau PDF yn nodi iaith ddiofyn | WCAG 2.0 A 3.1.1 |
35.71% |
Tagiwch yr holl PDFs | WCAG 2.0 A 1.3.1 |
39.80% |
Sicrhewch fod teitl ar ffeiliau PDF | WCAG 2.0 A 2.4.2 |
66.33% |
Sicrhewch fod dogfennau PDF hir yn defnyddio nodau tudalen i gynorthwyo llywio. | WCAG 2.0 AA 2.4.5 |
72.45% |
Sicrhewch fod penawdau ffeiliau PDF yn dilyn trefn resymegol | WCAG 2.0 A 1.3.1 |
88.78% |
Sicrhewch fod ffeiliau PDF yn ddarllenadwy gan beiriant | WCAG 2.0 A 1.1.1 |
97.96% |
Sicrhewch fod y pennawd cyntaf mewn PDF yn H1 | WCAG 2.0 A 1.3.1 |
98.98% |
Gwella teitlau PDF gwan | WCAG 2.0 A 2.4.2 |
98.98% |
Mae rhai cynlluniau, mapiau a dogfennau dylunio wedi’u cynhyrchu gan drydydd parti. Rydym yn gweithio gyda’r rhain i wella hygyrchedd y dogfennau hyn.
Nid yw’r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol i ni unioni dogfennau PDF nac eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydynt yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau.
Beth rydyn ni’n ei wneud i wella hygyrchedd
Ein nod yw gweithio trwy’r materion sy’n weddill a restrir uchod i gyflawni cydymffurfiaeth lawn lle bynnag sy’n bosibl. Rydym yn rhoi cymorth a hyfforddiant i’r rhai sy’n gweinyddu’r wefan, er mwyn sicrhau bod safonau’n cael eu cadw wrth ddiweddaru’r wefan. Byddwn yn adolygu’r wefan o bryd i’w gilydd.
Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn
Paratowyd y datganiad hwn ar 20 Ionawr 2022.
Fe’i hadolygwyd ddiwethaf ar 29 Awst 2025.
Profwyd y wefan hon ddiwethaf ar 26 Awst 2025 gan Silktide gyda gwiriadau llaw ychwanegol a gyflawnir gan ein tîm gwefan.
Diweddarwyd y datganiad hwn ddiwethaf ar 29 Awst 2025.