Mae Ystâd Trem y Môr yn gymuned gref a bywiog yng nghanol Grangetown. Mae Cyngor Caerdydd yn cynnig ailddatblygu’r ystâd hon trwy ddymchwel yr eiddo presennol ac adeiladu cartrefi newydd ar gyfer trigolion presennol a rhai y dyfodol. Buom yn ymgynghori â’r trigolion sy’n byw ar yr ystâd ers nifer o flynyddoedd a bellach rydym am geisio barn y gymuned ehangach.

Ein gweledigaeth ar gyfer Trem y Môr yw darparu cartrefi fforddiadwy a chynaliadwy i’r trigolion presennol, cysylltiadau gwell i drafnidiaeth gyhoeddus ac i’r ardal ehangach a darparu mannau cyhoeddus i’r trigolion a’r gymuned ehangach eu mwynhau.

Mae’r cyngor wedi bod yn ymgynghori â thrigolion sy’n byw ar Ystâd Trem y Môr y mae’r cynigion yn effeithio arnynt ers 2017.

Mae bob amser wedi bod yn bwysig i ni, ar bob cam o’r prosiect hwn, fod gennym gefnogaeth y trigolion y bydd y cynllun hwn yn effeithio’n uniongyrchol arnynt cyn i ni symud ymlaen i’r cam nesaf o ddylunio. Dim ond ar ôl ennill lefel uchel o gefnogaeth gan breswylwyr ar gyfer y prif gynllun y gallem symud ymlaen i’r digwyddiad ymgynghori cyhoeddus ehangach a gynhaliwyd ym mis Hydref/Tachwedd 2020.

Derbyniwyd y cais cynllunio ar gyfer yr Uwchgynllun (trosolwg o’r datblygiad cyfan) a dyluniad manwl o Gam 1 ym mis Gorffennaf 2021 a rhoddwyd y caniatâd ym mis Rhagfyr 2021.

Ar hyn o bryd rydym yn mynd trwy broses gaffael i ddewis contractwr ar gyfer adeiladu Cam 1 a’r gwaith dylunio ac adeiladu ar gyfer camau yn y dyfodol. Rydym yn gobeithio y bydd contractwr wedi’i ddewis a’i benodi erbyn mis Tachwedd 2023.

Cysylltwch â ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon am y prosiect hwn, cysylltwch â ni.





    Lleoliad