
Datblygiad preswyl newydd cyffrous i bobl hŷn fyw’n annibynnol yn eu cartrefi, gyda mynediad i gyfleusterau cymunedol sy’n helpu i hyrwyddo rhyngweithio cymdeithasol.
Bydd y datblygiad yn cynnwys 41 o gartrefi un a dwy ystafell wely hygyrch, lle cymunedol i breswylwyr, ystafell feddygol a gerddi cymunedol wedi’u tirlunio.
Bydd yr ardal chwaraeon amlddefnydd (AChA) a chanolfan gymunedol fach yn cael eu hail-leoli o fewn y datblygiad.
Mae’r safle wedi’i leoli yng nghanol Treganna gydag amwynderau lleol ar garreg ei ddrws. Mae’r stryd fawr o fewn pellter cerdded ac mae bysus Caerdydd yn gwasanaethu’r safle’n dda.
- Mae’r adeilad wedi’i gynllunio dros bum llawr ac mae’n darparu canolfan gymunedol newydd yn y cefn. Mae wedi’i gynllunio gyda dull adeiladwaith yn gyntaf i sicrhau bod ei berfformiad ynni yn rhagori ar Reoliadau Adeiladu presennol a bydd pob eiddo yn cael ei adeiladu i sgôr TPY A, a fydd yn helpu i leihau biliau ynni.
- Bydd pob eiddo yn elwa o wres dan y llawr a fydd yn sicrhau defnydd effeithlon o ynni ac yn dileu’r angen am reiddiaduron, gan ryddhau lle ar y waliau. Bydd Pympiau Gwres o’r Ddaear yn darparu’r brif ffynhonnell ynni gan ddarparu ateb carbon isel a dileu’r angen am danwydd ffosil.
- Bydd y datblygiad yn elwa o bwynt gwefru Cerbydau Trydan.
- Bydd System Draenio Cynaliadwy yn cael ei chynllunio’n rhan o’r cynllun i leihau effaith bosibl y datblygiad ar ddraenio dŵr wyneb yn yr ardal.
Statws Presennol
Nid ydym wedi penodi contractwr eto ac rydym wrthi’n cwblhau ymarfer tendro i sicrhau’r gwerth gorau ar gyfer y datblygiad hwn.
Rydym yn rhagweld y bydd y gwaith yn dechrau yn Hydref ’22, gyda’r gwaith wedi’i gwblhau yn nhrydydd chwarter 2024.
Cysylltwch â ni
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon am y prosiect hwn, cysylltwch â ni