Bydd cynllun Byw’n Annibynnol Stryd Bute yn cynnig llety addas i bobl dros 55 oed yn ward Butetown yng Nghaerdydd.  Bydd y datblygiad newydd yn darparu cartref newydd i breswylwyr sy’n byw yn Nelson House yn dilyn penderfyniad y Cyngor i droi’r bloc fflatiau uchel yn llety i deuluoedd.

Mae’r safle dan sylw ar hen safle Brandon Tool Hire ar Stryd Bute ac o fewn pellter cerdded i Ganol y Ddinas a Chei’r Fôr-Forwyn, Bae Caerdydd.

Bydd y cynnig yn darparu llety byw’n annibynnol o ansawdd uchel a fydd yn helpu preswylwyr i gynnal eu hannibyniaeth yn hirach, yn rhoi’r hyblygrwydd i ddiwallu anghenion defnyddwyr mwy agored i niwed ac yn helpu i fynd i’r afael ag unigedd cymdeithasol.

Bydd y datblygiad yn darparu:

  • 45 o fflatiau hunangynhwysol un a dwy ystafell wely.
  • Cyfleusterau cymunedol ar y safle gan gynnwys man gwefru a storio sgwteri trydan, man storio beiciau, ystafelloedd gweithgareddau, lolfa i breswylwyr, ystafell feddygol, ystafelloedd i westeion, ystafell golchi dillad a gerddi cymunedol wedi’u tirlunio.
  • ‘Dim Nwy’ – byddwn yn defnyddio pympiau gwres o’r ddaear fel ffynhonnell ynni lân ac amgen i nwy ac yn gosod paneli PV i leihau’r galw am drydan. Bydd y datblygiad carbon isel yn lleihau’r effaith ar yr amgylchedd ac yn gostwng costau rhedeg i denantiaid.
  • Darperir cyfleuster cymunedol yn yr adeilad a gaiff ei osod i grŵp lleol i’w ddefnyddio fel ei gyfleuster ei hun.

Statws Presennol

Rydym wedi ymrwymo i gontract gyda Hale Construction ar gyfer cyflawni’r datblygiad a bydd y gwaith ar y safle yn cychwyn yr haf hwn, 18 mis yw’r cyfnod adeiladu a gobeithiwn y bydd yr eiddo yn barod i’w feddiannu ddechrau 2025.

Mae clwb gymnasteg merched leol o’r enw Fantastic Gymnastics wedi cael ei ddewis fel ein grŵp cymunedol i gymryd y cyfleuster cymunedol yn yr adeilad ar brydles ar ôl ei adeiladu

Cysylltwch â ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon am y prosiect hwn, cysylltwch â ni.





    Lleoliad