Mae’r prosiect wedi ei gwblhau.

Cathays Road End Improvement

Mae’r prosiect hwn, sydd wedi ei gwblhau erbyn hyn, wedi’i flaenoriaethu dan y Rhaglen Adfywio Cymdogaethau.   Cyflwynwyd y cynnig gan Gynghorwyr Ward Cathays i wneud gwelliannau i bennau caeedig heolydd penodol a allai yna helpu prosiectau amgylcheddol a arweinir gan y gymuned e.e. blychau blodau a phlanhigion i gynnig cynefin ar gyfer bywyd gwyllt – yn enwedig, pryfed sy’n peillio.  Bydd y buddion ychwanegol yn cynnwys gwella mynediad i gerddwyr a beicwyr a lleihau tipio anghyfreithlon a ffurfiau eraill ar ymddygiad cymdeithasol.

Cynhaliwyd y gwaith ffisegol ar gau pen y ffordd yn May Street, Minny Street a Flora Street yn ystod 2019. Roedd palmentydd newydd, llwybr hygyrch ar gyfer beiciau a phlannwyr pren yn ymddangos ym mhob un o’r tri lleoliad.  I ategu’r gwaith ffisegol, comisiynwyd artist i addurno cabinetau cyfathrebu Virgin Media a BT ar y stryd, ar y thema peillio pryfed. Crëwyd y dyluniadau gan blant mewn dwy ysgol gynradd leol – Gladstone a St. Monica’s.

Lleoliad