Mae’r prosiect wedi ei gwblhau.

Cowbridge road east crossing

Mae Cyngor Caerdydd wedi gwneud gwelliannau i amgylchedd stryd rhan o Heol Ddwyreiniol y Bont-faen.  Roedd y prosiect yn rhan o raglen Cynlluniau Adnewyddu Cymdogaethau’r Cyngor, a’r nod oedd gwella’r cyfleusterau cerdded gan gynnwys lledaenu’r droedffordd a gosod arwyneb newydd, gerddi glaw/planhigion a chelfi stryd.

Adeiladwyd gerddi glaw mewn lleoliadau allweddol drwy gydol y cynllun i gydymffurfio â deddfwriaeth ddraenio newydd, i wella’r draeniad yn yr ardal ac i ddarparu ateb mwy cynaliadwy.  Maent yn cynnwys llystyfiant isel i ddod â gwyrddni a bioamrywiaeth i’r ardal.

Roedd gwelliannau i’r cyffyrdd hefyd wedi’u hymgorffori, drwy osod troedffyrdd parhaus ar draws ffyrdd ymyl i greu amgylchedd mwy cyfeillgar i gerddwyr.  Wrth gynnal man croesi gwastad o balmant i balmant ar draws y gyffordd, mae’r cynllun newydd yn atgyfnerthu blaenoriaeth cerddwyr ac mae hefyd yn hyrwyddo lleihau cyflymder cerbydau wrth y gyffordd.  Mae’r ardal hefyd o fewn terfyn 20mya sydd newydd ei ddynodi.

Project information

Winning crossing artwork design

Croesfan Celf

Gweithiodd Cyngor Caerdydd mewn partneriaeth â Chanolfan Gelfyddydau’r Chapter i gomisiynu artist i ddarparu gwaith celf i’w baentio ar groesfan bresennol i gerddwyr ger y Co-op.   Cyflwynwyd dyluniadau amrywiol i’r trigolion lleol a ddewisodd y dyluniad buddugol gan Steffan Dafydd.

Statws Presennol

Cwblhawyd y cynllun ym mis Hydref 2021.

Lleoliad