Mae’r prosiect wedi ei gwblhau.

Trosolwg o’r prosiect
Mae Galston Street, Garesfield Street ac Anderson Place yn ystadau tai yn ward Adamsdown. Adeiladwyd nhw yn yr 1970au ac maent yn cynnwys cymysgedd o dai teras a blociau o fflatiau tri llawr.
Gweithiodd y Tîm Adfywio Cymdogaethau gyda phreswylwyr lleol, cynghorwyr a rhanddeiliaid eraill i gyflawni cynllun adfywio amgylcheddol a fyddai’n moderneiddio’r ardal. Cwblhawyd y gwaith yn hydref 2019.
Gwaith a gwblhawyd
Roedd y gwelliannau’n cynnwys:
- Gosod gatiau ar rai gylïau er mwyn gwella diogelwch.
- Gwella iardiau
- Storfeydd biniau newydd yn yr iardiau
- Biniau sbwriel ychwanegol
- Rhoi wyneb newydd ar y llwybrau cerdded, y ffyrdd a’r ardaloedd parcio.
Lleoliad
Postiwyd ar Rhagfyr 21, 2021


