Mae’r prosiect wedi ei gwblhau.

Street scene at Tudor Street showing a number of new storefronts

Sicrhawyd cyllid gan Lywodraeth Cymru, ar y cyd â Chyngor Caerdydd i gyflawni gwelliannau allanol i eiddo masnachol ar Stryd Tudor yng Nglan-yr-afon. Mae’r project hwn yn rhan o gynllun gweithredu ehangach ar gyfer adfywio ardaloedd busnes de Glan-yr-afon.

Amcan cyffredinol y cynllun gwella masnachol oedd gwella’r eiddo masnachol er mwyn galluogi Canolfan Leol Stryd Tudor i ddatblygu fel cyrchfan siopa i drigolion lleol yn ogystal â’r gymuned ehangach.

Cafodd y gwelliannau canlynol eu cynnwys yn y cynllun:

  • Blaenau siopau
  • Llenni cloi
  • Arwyddion a goleuo
  • Nwyddau dŵr glaw
  • Newid ffenestri preswyl
  • Atgyweiriadau i waith rendro/brics allanol, glanhau cerrig, ac addurno (os yw wedi’i rendro)
Welsh Government Part Funded logo

Statws Presennol

Mae’r gwaith gosod blaenau siopau a’r gwaith gwella adeiladau nawr wedi’u cwblhau.

Mae’r gwaith i wella’r briffordd bron â gorffen a’r gobaith yw y bydd y stryd yn ailagor yn llawn cyn bo hir.

Cysylltwch â ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon am y prosiect hwn, cysylltwch â ni.





    Lleoliad