Mae’r prosiect wedi ei gwblhau.

Llanederyn Hub outside

Agorodd Hyb Llanedern ar ffurf well ac estynedig ei ddrysau i’r cyhoedd yn The Powerhouse ym mis Medi 2017.

Trwy estyn canolfan gymunedol The Powerhouse a oedd eisoes yn cael ei ddefnyddio’n helaeth, mae’r project hwn wedi dod ag ystod ehangach o wasanaethau’n agosach i’r rhai yn Llanedern sydd eu hangen ac sy’n eu defnyddio.

Gwnaeth hefyd alluogi partneriaeth rhwng y Cyngor a Heddlu De Cymru trwy ymgorffori llety newydd yn Llanedern ar gyfer gorsaf heddlu.

Mae gan Hyb The Powerhouse, Llanedern ddigon i’w gynnig.  Mae staff wedi’u hyfforddi wrth law i’ch helpu i ddefnyddio amrywiaeth eang o wasanaethau a chyfleusterau gan gynnwys:

  • Gwasanaeth llyfrgell, gan gynnwys ardal dawel a lle ar gyfer digwyddiadau plant.
  • Gwasanaethau cyngor, tai a budd-daliadau
  • Mynediad i’r rhyngrwyd, cyfrifiaduron a chysylltiad Wi-Fi am ddim
  • Ffonau am ddim i gysylltu â’r Cyngor a gwasanaethau eraill
  • Cyrsiau hyfforddi a Chyngor i Mewn i Waith
  • Ystafell Hyfforddiant TGCh/ystafelloedd cyfweld preifat
  • Ystafelloedd ar gyfer cyfarfodydd a digwyddiadau cymunedol
  • Caffi cymunedol modern
  • Help a chyngor arbenigol gan sefydliadau partner
  • Neuaddau cymunedol
  • Gwasanaethau Lles Dydd Mawrth ar gyfer y sawl sydd dros 50 oed.
  • Gweithgareddau ieuenctid
  • Dosbarthiadau ffitrwydd

Gwybodaeth Gyswllt

Hyb The Powerhouse
Roundwood,
Llanedern,
Caerdydd
CF23 9PN

029 2233 0201

Ar gyfer oriau agor, neu i gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Cyngor Caerdydd neu dudalen Facebook Hyb The Powerhouse.

Lleoliad