Pris prynu
Pris Prynu 70% - £133,000 | Pris 100% - £190,000
Math yr Eiddo
Fflat 2 Ystafell Wely
Dyddiad olaf i wneud cais:
5pm, 09/07/26Wedi’i lleoli yn hen ddatblygiad ‘Bluebell Meadows’ Persimmon ym Mhentref Llaneirwg, mae fflat llawr cyntaf helaeth ar gael.
Roedd y datblygiad hwn yn rhan o bentref pwrpasol Sant Edern yng ngogledd-ddwyrain Caerdydd ac mae ganddo gysylltiadau trafnidiaeth gwych â’r M4 a chanol y ddinas. Mae’r eiddo yn agos at siopau lleol gan gynnwys Parc Manwerthu Porth Caerdydd, trafnidiaeth gyhoeddus, beicffyrdd, cyfleusterau chwaraeon a llawer o fannau agored cyhoeddus.
Mae dewis da o ysgolion lleol gan gynnwys Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Llaneirwg, Ysgolion Cynradd Pen y Bryn, Oakfield a Willowbrook, ynghyd ag Ysgol Gynradd newydd Pontprennau, sy’n darparu ar gyfer oedrannau meithrin a derbyn. Ysgol Gymraeg Pen y Groes ar Heol Glan y Môr yng Nghaerdydd yw’r ysgol Gymraeg yn y dalgylch.
Ynglŷn â’r eiddo hwn
Wedi’i hadeiladu yn 2023, mae’r fflat llawr cyntaf 2 ystafell wely hynod ynni-effeithlon wedi’i addurno i safon dda ac mae’n elwa o wydr dwbl drwyddi draw, dau gwpwrdd storio adeiledig, system gwres canolog nwy boeler combi gradd A gyda falfiau rheoli thermostatig i bob ystafell wely, ardal fyw/cegin fawr gyda drysau Ffrengig yn agor allan i falconi Juliet, dwy ystafell wely ddwbl o faint da y mae un ohonynt yn cynnwys en suite, prif ystafell ymolchi, system mynediad drws ddiogel, band eang FibreNest cyflym iawn, synwyryddion mwg wedi’u cysylltu â’r prif gyflenwad, goleuadau allanol ym mhob ardal gymunedol yn y bloc o fflatiau ac un lle parcio wedi’i ddyrannu yn y maes parcio preifat y tu ôl i’r bloc o fflatiau.
Gwybodaeth am yr Eiddo
Neuadd fynedfa – Ardal fynedfa gyda mynediad i gwpwrdd storio adeiledig, system mynediad drws ddiogel wedi’i gosod ar y wal a charpedi llwyd tywyll.
Lolfa (3.25m x 3.03m) – Ardal fyw cynllun agored gyda ffenestr fawr sy’n agor allan i falconi Juliet a mynediad i ail gwpwrdd storio adeiledig. Carpedi llwyd.
Cegin (3.25m x 3.03m) – Cegin wedi’i ffitio’n llawn ym mlaen yr eiddo gyda chypyrddau llwyd tywyll sgleiniog modern, dolenni copr, arwynebau gwaith effaith marmor a chefn sy’n cydweddu, bar brecwast, ffwrn integredig, hob a ffan echdynnu gyda phanel tasgu dur gwrthstaen a lle ar gyfer nwyddau gwyn.
Prif ystafell wely (2.67m x 3.23m) – Ystafell wely ddwbl o faint da gyda charped llwyd a ffenestr fawr sy’n agor allan i falconi Juliet. Carpedi llwyd.
En suite y brif ystafell wely (1.6m x 1.63m) – Ystafell ymolchi en suite trwy’r brif ystafell wely gyda chawod gaeedig wedi’i theilsio’n llawn, teils llwydfelyn hanner uchder a waliau wedi’u peintio’n wyn yng ngweddill yr en suite, llawr finyl arddull mosaig llwydfelyn a ffan echdynnu integredig.
Ystafell wely 2 (2.54m x 2.66m) – Ystafell wely ddwbl o faint da gyda ffenestr fawr, waliau gwyn a charped llwyd.
Prif ystafell ymolchi (2.54m x 1.57m) – Ystafell ymolchi wen gyda chawod uwchben wedi’i phweru gan y prif gyflenwad a bath gyda pholyn llen cawod du, teils wal effaith cerrig a llawr finyl arddull mosaig llwydfelyn a ffan echdynnu integredig.
Parcio – 1 lle wedi’i neilltuo yn y maes parcio preifat y tu ôl i’r bloc o fflatiau, gyda mannau ychwanegol i ymwelwyr gerllaw.
Treth Gyngor – C (£1805.21 ar gyfer 26/27)
Deiliadaeth – LESDDALIAD (999 mlynedd o 2023)
Pris y Gwasanaeth – £1675.76 y flwyddyn, sy’n cynnwys rhent tir, yswiriant adeilad, a chynnal a chadw’r adeilad ac ardaloedd cymunedol wedi’u tirlunio.
Sgôr TPY – B (Dilys tan 01.11.33. Adroddiad llawn ar gael ar-lein drwy www.gov.uk)
Gwarant NHBC – yn ddilys tan fis Tachwedd 2033
Yr holl loriau fel y’u gwelir yn yr eiddo i aros.
Mae’r perchennog hefyd yn fodlon gadael y celfi canlynol yn yr eiddo am gost ychwanegol y cytunir arni –
- Fframiau gwely dwbl otoman lledr ffug x 2
- Cwpwrdd dwbl â drych
- Cist ddroriau
- Bwrdd ochr
- Gwely soffa gornel
- Oergell/rhewgell
- Peiriant golchi dillad
- Microdon
Manylion y pryniant
Mae’r eiddo hwn yn cael ei werthu ar sail ECWITI A RENNIR. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn prynu cyfran ecwiti o 70% dan Gynllun Cartrefi Cyntaf Caerdydd a bydd yn berchennog cofrestredig 100% ar yr eiddo ar gwblhau’r gwerthiant.
Bydd Cyngor Caerdydd yn cadw’r gyfran ecwiti o 30% sy’n weddill ar yr eiddo.
Nid oes rhent/llog yn daladwy ar y 30%.
Ymwadiad
Dim ond canllaw cyffredinol yw’r manylion gwerthu hyn. Nid ydynt yn rhan o gynnig na chytundeb. Nid ydym wedi cynnal arolwg strwythurol o’r eiddo ac nid yw unrhyw wasanaethau, offer gosodiadau penodol yn y manylion hyn wedi’u profi. Rhoddir yr holl ffotograffau, mesuriadau, cynlluniau llawr a phellteroedd y cyfeirir atynt fel canllaw yn unig ac ni ddylid dibynnu arnynt wrth brynu carpedi a gosodiadau eraill. Rhoddir manylion prydles, costau gwasanaeth a rhent tir (lle bo’n berthnasol) fel canllaw yn unig a dylent gael eu gwirio a’u cadarnhau gan drawsgludwr trwyddedig cyn cyfnewid contractau.
Gofyn am wylio
Mae’r gwylio’n digwydd 18/06/26 (rhwng 5.00pm – 7.30pm)
Church Road,Pentref Llaneirwg, Caerdydd, CF3 6YT










