Mae’r prosiect wedi ei gwblhau.


Roedd y prosiect hwn, sydd bellach wedi’i gwblhau, yn rhan o raglen Cynllun Adnewyddu Cymdogaethau y Cyngor, sy’n bwrw ymlaen â chynlluniau gwella a awgrymir gan gynghorwyr lleol.
Roedd y gwelliannau’n cynnwys:
- Rhoi wyneb newydd ar y ffordd
- Cynllun parcio newydd
- Glanhau ac atgyweirio’r palmant slabiau presennol
- Gwella croesfannau i gerddwyr
- Rhoi wyneb newydd ar y palmant
- Gwelliannau i’r briffordd o amgylch yr ardal golchi ceir
- Standiau beic ychwanegol, biniau a bolardiau newydd
- Plannu coed
- Camera teledu cylch cyfyng newydd
- Ychwanegu rhwystrau igam-ogamu ar ddau ben y lôn rhwng Rhodfa Countisbury a Crediton Road.
Dweud eich dweud
Mae eich barn yn bwysig i ni a bydd yn helpu i lunio gwelliannau yn y dyfodol ac yn llywio datblygiad prosiectau tebyg ar draws yr ardal.
Os hoffech gael help i lenwi’r ffurflen ar-lein, ewch i Hyb Llanrhymni.
Llenwch y ffurflen erbyn 12 Tachwedd 2026
Byddwn yn prosesu’ch data personol yn unol â’n tasg gyhoeddus dan GPDR y DU ac yn unol â deddfwriaeth diogelu data gyfredol. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio a phrosesu’ch data personol, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd.
Cysylltwch â ni
Os oes gennych gwestiynau neu bryderon am y prosiect hwn, cysylltwch â ni.






