
Mae ardal Trelái a Chaerau wedi cael ei dewis ar gyfer Rhaglen Balchder Bro Llywodraeth y DU – menter 10 mlynedd sy’n buddsoddi’n uniongyrchol mewn cymdogaethau, gan roi’r pŵer i bobl leol lunio prosiectau, cryfhau eu cymunedau, a chreu lleoedd ffyniannus.
Mae ffurflenni Datganiadau o Ddiddordeb bellach wedi cau. Diolch i bawb sydd wedi mynegi diddordeb mewn ymuno â’r Bwrdd Cymdogaeth.
I gael rhagor o wybodaeth am Balchder Bro a rôl y Bwrdd Cymdogaeth, gweler Prosbectws y Rhaglen Balchder Bro
E-bostiwch balchderbro@caerdydd.gov.uk os oes gennych unrhyw gwestiynau yn ymwneud â’r cynllun
Y camau nesaf
Byddwn yn mynd ati i asesu pawb sydd wedi enwebu eu hunain er mwyn cadarnhau’r Bwrdd Cymdogaeth. Cadwch lygad ar y wefan hon i gael rhagor o ddiweddariadau.
Trosolwg o’r Rôl
Mae’r Rhaglen Balchder Bro yn Fenter gan y Llywodraeth sy’n darparu buddsoddiad hirdymor yn uniongyrchol i gymdogaethau, gan alluogi pobl leol a grwpiau cymunedol i lunio a chyflawni prosiectau sy’n adeiladu cymunedau cryfach, creu lleoedd ffyniannus, ac yn rhoi llais ystyrlon i drigolion ar ddyfodol eu hardal. Bydd y bwrdd yn goruchwylio cronfa fuddsoddi gwerth £20 miliwn a sicrhau bod penderfyniadau’n cael eu gyrru gan flaenoriaethau trigolion a chymunedol, dros y 10 mlynedd nesaf.
Bydd y Bwrdd Cymdogaeth dan arweiniad y Cadeirydd yn rhoi’r pŵer i bobl leol benderfynu sut mae cyllid yn cael ei wario, gan roi’r gymuned yn gyfrifol am ddyfodol eu cymdogaeth. Bydd y Bwrdd Cymdogaeth yn gweithio gyda’r gymuned ehangach i ddatblygu Cynllun Balchder Bro, gan nodi gweledigaeth ar gyfer eu hardal a’r prosiectau yr hoffent eu blaenoriaethu.
Bydd y Bwrdd yn dwyn ynghyd drigolion, busnesau lleol, yr AS, cynghorwyr
ward, ymgyrchwyr ar lawr gwlad, cynrychiolwyr gweithleoedd, arweinwyr ffydd a chymunedol a’r rheini sydd â chysylltiad dwfn â’u hardal. Bydd y Bwrdd yn cynnwys rhwng 15 ac 20 aelod, gyda sgôp ar gyfer is-grwpiau sy’n cwmpasu themâu allweddol a fydd yn adrodd i’r Bwrdd.
Er mwyn annog Byrddau amrywiol a chynhwysol, rydym am glywed gan y canlynol:
- Trigolion lleol
Trawstoriad eang o bobl sy’n byw yn yr ardal, sy’n adlewyrchu gwahanol gefndiroedd a phrofiadau byw - Pobl ifanc – Unigolion neu sefydliadau sy’n cynrychioli pobl ifanc, grwpiau ieuenctid, a
gwasanaethau ieuenctid - Sefydliadau cymunedol, gwirfoddol a llawr gwlad
Gan gynnwys elusennau, sefydliadau chwaraeon, grwpiau cymdogaeth a rhwydweithiau gwirfoddolwyr - Grwpiau ffydd a diwylliannol
Eglwysi lleol, mosgiau, temlau, sefydliadau eraill sy’n seiliedig ar ffydd a grwpiau treftadaeth. - Busnesau lleol
Busnesau bach a mentrau cymdeithasol - Gwasanaethau cyhoeddus a phartneriaid lleol
Gan gynnwys addysg, gwasanaethau iechyd, plismona/diogelwch cymunedol, a gwasanaethau lleol ehangach fel chwaraeon a lles.
Bydd y swydd am gyfnod penodol cychwynnol o 2 flynedd gyda’r posibilrwydd o estyniad ar ôl y cyfnod cychwynnol hwnnw.
Beth rydym yn ei ddisgwyl gennych chi?
Rydym yn chwilio am bobl sydd wir yn poeni am yr ardal ac sydd am chwarae rhan weithredol wrth lunio ei dyfodol. Rydym am gael bwrdd sy’n adlewyrchu’r gymuned y mae’n ei gwasanaethu, gan ddod ag ystod o leisiau, profiadau a safbwyntiau ynghyd.
Rydym yn chwilio am bobl sy’n:
- Poeni am yr ardal a’i thrigolion
Mae gennych gysylltiad cryf â’r ardal ac yn deall beth sy’n bwysig yn lleol. - Yn gallu meddwl yn strategol
Rydych chi’n gallu edrych ymlaen, deall y darlun ehangach, a helpu i lunio cynlluniau a blaenoriaethau hirdymor ar gyfer Trelái a Chaerau. - Gweithio’n dda gydag eraill
Rydych chi’n gydweithredol, yn agored eich meddwl, ac yn gyfforddus yn gweithio mewn partneriaeth ar draws gwahanol sefydliadau a sectorau. - Deall cyfleoedd a heriau lleol
Ychwanegu at eich gwybodaeth a gwrando ar eraill i ddatblygu’r
ddealltwriaeth honno. - Gwerthfawrogi tegwch a chynhwysiant
Sicrhau bod gwelliannau o fudd i bob rhan o’r gymuned a bod gwahanol leisiau’n cael eu clywed. - Yn barod i gyfrannu’n weithredol
Rydych chi’n gyfforddus yn rhannu eich barn, yn dod â mewnwelediad cymunedol, ac yn cynnig her adeiladol i gefnogi penderfyniadau da. - Yn gallu rhoi’r amser sydd ei angen
Rydych chi’n gallu mynychu cyfarfodydd, parhau i ymgysylltu, a chyfrannu at waith y bwrdd.
Prif gyfrifoldebau:
Fel aelod o’r Bwrdd Cymdogaeth, byddwch yn gyfrifol am y canlynol:
- Gweithio gyda’r gymuned
Gwrando ar bobl leol, deall eu blaenoriaethau, a gwneud yn siŵr bod eu lleisiau yn cael eu hadlewyrchu mewn penderfyniadau. - Cyd-ddatblygu cynllun hirdymor ar gyfer yr ardal – Helpu i siapio gweledigaeth 10 mlynedd trwy’r Cynllun Balchder Bro, gan nodi’r hyn sydd ei angen ar yr ardal a sut y gall wella dros amser.
- Goruchwylio cyflawniad a chynnydd – Monitro sut mae prosiectau’n cael eu cyflawni, gwirio cynnydd, a gwneud yn siŵr bod ymrwymiadau’n cael eu bodloni.
- Dod â mewnwelediad ac arbenigedd lleol – Rhannu eich persbectif, eich profiad a’ch gwybodaeth i gefnogi
penderfyniadau gwybodus. - Gweithio mewn partneriaeth – Cydweithio â’r Cyngor, sefydliadau lleol, busnesau a phartneriaid eraill i wneud i
bethau ddigwydd. - Cefnogi llywodraethu a gwneud penderfyniadau cryf – Helpu i sicrhau bod penderfyniadau’n deg, yn dryloyw ac er budd y gymuned gyfan.
- Hyrwyddo’r ardal – Gweithredu fel llysgennad, hyrwyddo’r lle a chefnogi newid cadarnhaol trwy eich rhwydweithiau.


