Pris prynu

217,000 - 70% o’r pris prynu (100% pris - £310,000)

Math yr Eiddo

Tŷ   2 Ystafell Wely

Dyddiad olaf i wneud cais:

5pm, 18.05.26

Wedi’i leoli yn Natblygiad Longwood Grange Bellway yng ngogledd Caerdydd, mae tŷ pen rhes dwy ystafell wely.

Gyda chysylltiadau trafnidiaeth ardderchog â Chanol y Ddinas a’r M4, mae’r eiddo yn agos at siopau lleol, trafnidiaeth gyhoeddus gan gynnwys gorsafoedd Thornhill a Llanisien, beicffyrdd, cyfleusterau chwaraeon rhagorol, llawer o fannau agored, ac mae hefyd yn nalgylch nifer o ysgolion cynradd gan gynnwys Ysgol Gynradd Llys-faen ac Ysgol y Berllan Deg ac ysgolion uwchradd gan gynnwys Ysgol Uwchradd Llanisien ac Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern.

Wedi’i adeiladu yn 2024, mae’r tŷ pen rhes 2 ystafell wely hynod ynni-effeithlon hwn wedi’i addurno i safon ardderchog ac mae ganddo wydr dwbl drwyddi draw, lloriau finyl, teils a charped o ansawdd da yn yr eiddo cyfan, boeler cyfunol gradd A, system gwres canolog nwy, synwyryddion mwg a charbon monocsid wedi’u cysylltu â’r prif gyflenwad, digon o le storio gan gynnwys nifer o gypyrddau storio ynghyd â mynediad i’r atig, toiled ar y llawr gwaelod, dwy ystafell wely ddwbl, ystafell ymolchi deuluol, parcio dynodedig, lolfa fawr a chegin/ardal fwyta gyda drysau sy’n agor allan ar ardd o faint da, wedi’i chadw’n dda gyda mynediad o’r ochr.

Gwybodaeth am yr Eiddo

Ardal Fynedfa — gyda lloriau finyl effaith derw â ffenestr allanol, wal nodwedd wedi’i phaentio, mynediad i gwpwrdd storio a thoiled.  Bleindiau i aros.  Goleuadau allanol wrth y drws ffrynt.

Toiled – wedi’i addurno’n chwaethus gyda wal teils metro llwyd, teils llawr llwyd, wal nodwedd wedi’i phaentio a ffenestr allanol.

Lolfa (4m x 3.3m) – lolfa glyd wedi’i haddurno’n chwaethus yn nhu blaen yr eiddo gyda lloriau finyl effaith derw a wal nodwedd wedi’i phaentio.  Braced wal teledu a’r bleindiau i aros.

Cegin ac ardal fwyta (3.58m x 3.2m) – Cegin ac ardal fwyta fodern wedi’i ffitio’n llawn yng nghefn yr eiddo gyda chypyrddau gwyn, arwynebau gwaith a phaneli effaith llechi du, wal nodwedd wedi’i phaentio, popty trydan integredig, hob trydan gyda chefn sblash dur gwrthstaen a ffan echdynnu uwchben.  Y nwyddau gwyn integredig eraill i aros yw’r rhewgell-rewgist, peiriant golchi llestri a pheiriant golchi dillad.  Teils llawr gwyn mawr, sbotoleuadau nenfwd, drws yn agor allan i’r ardd gefn gyda fflap cath a ffenestr allanol.   Bleindiau i aros.

Prif ystafell wely 1 (4.20m x 2.77m) – Prif ystafell wely ym mlaen yr eiddo, sy’n cael ei defnyddio fel ystafell astudio ar hyn o bryd.   Ystafell olau gyda 2 ffenestr, lloriau finyl effaith derw, silffoedd wedi’u gosod a mynediad i’r cwpwrdd storio.  Bleindiau i aros.

Ystafell wely 2 (4.47m x 3.24m) – Ystafell wely ddwbl o faint da yng nghefn yr eiddo gyda charpedi niwtral o ansawdd da a chypyrddau dillad effaith pren.  Bleindiau i aros.

Ystafell ymolchi – Ystafell ymolchi wen gyda chawod uwchben, wedi’i chysylltu â’r prif gyflenwad, panel cawod gwydr, teils wal effaith marmor llwydwyn, teils llawr patrymog du a gwyn a ffenestr allanol.   Drych mawr ar y wal i aros.

Atig – atig heb ei bordio sy’n cynnig lle storio ychwanegol.   Gorddrws y gellir mynd ato o landin y llawr cyntaf.

Gardd Gefn — Gardd gefn wedi’i chadw’n dda gyda phatio, lawnt, goleuadau a thap allanol, gyda mynedfa ochr.   Sied i aros.

Parcio – 1 lle dynodedig yn nhu blaen yr eiddo, gydag ail le mewn maes parcio cyfagos.  Mae mannau parcio oddi ar y ffordd hefyd ar gael yn yr ardal leol.

Treth Gyngor —  E

Deiliadaeth – RHYDD-DDALIAD

Tâl Gwasanaeth Rheoli Ystâd — £150 y flwyddyn – yn cwmpasu cynnal a chadw a draeniad ardaloedd cymunedol wedi eu tirlunio

Sgôr TPY — B (yn ddilys hyd at fis Tachwedd 2033. Adroddiad llawn ar gael ar-lein yn www.gov.uk)

Gwarant y Cyngor Cenedlaethol Adeiladu Tai – yn ddilys tan fis Ionawr 2034.

Mae’r holl loriau a bleindiau ffenestri fel y’u gwelir ar draws yr eiddo, ynghyd â’r holl nwyddau gwyn integredig i aros.

Manylion Prynu

Mae’r eiddo hwn yn cael ei werthu ar sail ECWITI A RENNIR.    Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn prynu cyfran ecwiti o 70% dan Gynllun Cartrefi Cyntaf Caerdydd a bydd yn berchennog cofrestredig 100% ar yr eiddo ar gwblhau’r gwerthiant.

Bydd Cyngor Caerdydd yn cadw’r gyfran ecwiti o 30% sy’n weddill ar yr eiddo.

Nid oes rhent na llog yn daladwy ar y 30%.

Pris

70% o’r Pris Prynu – £217,000

100% Pris – £310,000

Gofyn am wylio

Mae’r gwylio’n digwydd 30/03/26 (rhwng 5.00pm – 7.30pm)

Clos Cae Coch, Llys-faen, Caerdydd, CF14 0AS





    Lleoliad

    Ewch i Cartrefi Cyntaf Caerdydd - Telerau ac Amodau.

    Ymwadiad

    Mae’r manylion hyn am y gwerthiant at ddibenion canllawiau cyffredinol yn unig. Nid ydynt yn ffurfio unrhyw ran o gynnig neu gontract. Nid ydym wedi cynnal arolwg strwythurol ar yr eiddo nac unrhyw wasanaethau. Nid yw unrhyw o’r gosodiadau penodol y sonnir amdanynt yn y manylion hyn wedi eu profi. Rhoddir yr holl luniau, mesurau, cynlluniau llawr a phellteroedd y cyfeirir atynt fel canllaw yn unig ac ni ddylid dibynnu arnynt wrth brynu carpedi a gosodiadau eraill. Rhoddir manylion prydles, taliadau gwasanaeth a rhent tir (lle bo’n berthnasol) yn unig a dylid eu cadarnhau gyda thrawsgludwr trwyddedig cyn cyfnewid contractau.