A new build housing estate and the surrounding area. Each house has solar panels and a brick exterior.

Mae Cyngor Caerdydd yn cyflwyno cynigion ar gyfer datblygiad tai arbed ynni arloesol yn Llanedern, ar dir rhwng canolfan gymdogaeth Maelfa ac Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Teilo Sant.

Rydym wedi dechrau’r cam Ymgynghori Cymunedol Cyn Ymgeisio ar gyfer y datblygiad arfaethedig ac mae gan y gymuned a rhanddeiliaid eraill gyfle i roi sylwadau ar y cynigion. Mae set lawn o gynlluniau ac adroddiadau am y datblygiad arfaethedig ar gael yn: www.lrmplanning.com/public-consultation

Y weledigaeth

Bydd hwn yn ddatblygiad cynaliadwy iawn, yn manteisio ar dechnoleg ynni arloesol i leihau ei effaith ar y blaned

Bydd cartrefi yn fforddiadwy, eang ac ymarferol ar gyfer bywyd teuluol modern ac wedi’u lleoli o fewn tirwedd werdd gan greu cymdogaeth iach, ddeniadol a diogel.

Bydd y gymdogaeth carbon isel newydd yn cefnogi ffyrdd mwy cynaliadwy a chydlynol o fyw, trwy fannau cymunedol deniadol, yn cynnig cyfleoedd ar gyfer cerdded a beicio ac yn amddiffyn ac integreiddio bywyd gwyllt mewn tirwedd werdd wedi’i hysbrydoli gan ‘Maelfa’.

Gwybodaeth Prosiect

Mae’r datblygiad arfaethedig yn rhan o adfywiad ehangach Maelfa sydd, dros y degawd diwethaf, wedi gweld buddsoddiad ar raddfa fawr mewn cyfleusterau manwerthu a hamdden newydd yn ogystal â chartrefi newydd.

Bydd y cynllun yn uchelgeisiol ac o ansawdd uchel.  Drwy ddylunio da byddwn yn cynnig:

  • Cymdogaeth werdd a diogel ar gyfer byw a magu teulu.
  • Tai fforddiadwy newydd sy’n ddeniadol, yn hynod effeithlon o ran ynni ac wedi’u dylunio ar gyfer teuluoedd modern, gyda gerddi preifat a digon o lefydd storio.
  • ‘Cymdogaeth ar gyfer natur’ sy’n deillio o sicrhau bod hyd at 40% o’r safle yn parhau i fod yn fan gwyrdd agored ac yn cynnwys nodweddion tirwedd sy’n dda i fywyd gwyllt.
  • Llwybrau cerdded a beicio newydd sy’n cysylltu’r safle â’r gymuned ehangach.
  • Mewn partneriaeth ag Ysgol Teilo Sant, bydd y cynigion hefyd yn cynnwys disodli’r cae chwaraeon uchaf gyda chae pob tywydd newydd ar gaeau chwarae’r ysgol.

Bydd y datblygiad newydd yn cynnig tua 53 o gartrefi ynni-effeithlon, fydd â 2, 3 neu 5 ystafell wely yn bennaf a byddant ar gael i’w rhentu i bobl ar restr aros tai’r Cyngor.

Bydd y cynllun hefyd yn cynnwys datblygiad bach i oedolion sydd ag anawsterau dysgu.  Bydd hwn yn cael ei staffio 24 awr y dydd er mwyn helpu preswylwyr i fyw’n annibynnol.

Bydd y cynllun yn ymgorffori technoleg draenio arloesol gan ddefnyddio System Draenio Dinesig Cynaliadwy (SDDC), i sicrhau bod dŵr glaw yn draenio’n naturiol i’r ddaear, gan helpu i frwydro yn erbyn effeithiau newid yn yr hinsawdd a chreu lle mwy deniadol a gwyrdd i fyw ynddo.

Lleoliad tirwedd ddeniadol newydd sy’n sicrhau bod bywyd gwyllt yn yr ardal yn cael ei warchod a’i integreiddio drwy:

Strydoedd gwyrdd – plannu llwyni a dylunio SDDCau o fewn lleiniau ymyl llydan.  Bydd y coed a fydd yn cael eu plannu yn cynnwys rhywogaethau blodeuol brodorol i greu ardal gyhoeddus ddeniadol a chynyddu bioamrywiaeth.

Cadw ymyl werdd naturiol rhwng Coedwig y Capel a’r tai newydd – parchu ymyl y coetir a dylunio i wella bioamrywiaeth.

Mannau gwyrdd – Creu mannau gwyrdd newydd ar y safle gan gynnig tirwedd gysylltiedig ar gyfer natur yn ogystal ag ardaloedd ar gyfer chwarae anffurfiol, draenio cynaliadwy a mannau tyfu.  Bydd ardaloedd planhigion a blodau gwyllt yn cynnig diddordeb gweledol a chynefin ar gyfer amrywiaeth eang o fywyd gwyllt.

Bocsys adar ac ystlumod integredig wedi’u hadeiladu i mewn i gartrefi newydd – yn cynnig cyfleoedd i fywyd gwyllt ffynnu ochr yn ochr â phreswylwyr.

Nod y prosiect yw bod yn esiampl o ddatblygiad cynaliadwy sy’n cyflawni cartrefi carbon isel, ynni-effeithlon trwy leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr mor agos â phosibl at sero yn unol â’r canllawiau arfer gorau.

 

I geisio lleihau faint o CO2 sy’n cael ei ryddhau i’r atmosffer rydym yn mabwysiadu dull carbon oes gyfan sy’n ystyried:

 

  1. Carbon ymgorfforedig sy’n ymwneud â faint o allyriadau carbon sy’n cael eu rhyddhau yn ystod cylch bywyd adeilad o’r dechrau i’r diwedd, gan gynnwys deunyddiau, adeiladu a dymchwel.
  2. Carbon Gweithredol sy’n cyfeirio at yr allyriadau carbon sy’n cael eu rhyddhau yn ystod gweithrediad adeilad pan fo’n cael ei ddefnyddio.

 

Er mwyn datblygu cartrefi carbon isel, ein nod yw:

  • lleihau’r defnydd o ynni gyda manylebau ffabrig perfformiad uchel, tyndra aer ac ynni
  • manteisio i’r eithaf ar y potensial i ddefnyddio ynni carbon isel cynaliadwy (fel paneli solar) i bweru a chynhesu’r cartrefi hyn.

 

Bydd y cartrefi newydd hyn yn wyrdd, yn fforddiadwy ac yn hawdd eu rhedeg.

Er mwyn helpu i gyrraedd targedau gweithredol ac ymgorfforol uchelgeisiol nod y cartrefi newydd fydd meddu ar:

Ddull Ffabrig yn Gyntaf, sy’n golygu adeilad aerglos sydd wedi’i inswleiddio’n dda lle bydd ond angen ychydig iawn o wres.

Gwydr Triphlyg, sy’n golygu ffenestri sy’n perfformio’n dda o ran ynni.

Paneli solar wedi’u cysylltu â batris, a fydd yn cynhyrchu ac yn storio ynni i bweru’r cartrefi newydd.

Pympiau gwres ffynhonnell aer, sy’n dechnoleg wresogi carbon isel sy’n echdynnu’r cynhesrwydd o’r aer y tu allan – hyd yn oed yn ystod y gaeaf – ac yna’n ei ddefnyddio i gadw mannau y tu mewn i’r cartref yn gynnes.

MVHR, sy’n golygu adfer gwres trwy awyru mecanyddol, er mwyn cynnig mannau cyfforddus i fyw ynddynt gydag ansawdd aer da sy’n arbed ynni.

Cyfleoedd ar gyfer pwyntiau gwefru cerbydau trydan, sy’n golygu y bydd pob cartref wedi’i ddylunio i fod yn barod ar gyfer cerbydau trydan, fel bod preswylwyr yn cael cyfleusterau gwefru ar gais i wefru eu cerbyd trydan yn gyfleus gartref.

Bydd Deunyddiau, Asesu a dewis deunyddiau sydd ag ôl troed carbon isel yn helpu i leihau ôl troed carbon cyffredinol y cynllun

Bydd y prosiect yn symud ymlaen mewn pedwar cam allweddol (gweler isod).  Rydym ar ddechrau Cam 3:

Cam 1: Gwaith arolygu a chasglu gwybodaeth:  Mae’r cam hwn yn cynnwys cynnal yr holl waith arolygu angenrheidiol ar y safle, fel coed, ecoleg ac arolygon cyflwr safle.  Maent yn dweud popeth y mae angen i ni ei wybod am y safle i helpu i lunio dyluniad y datblygiad arfaethedig.  Cynhaliwyd y rhain yn hydref 2021 ac maent bellach wedi’u cwblhau.

Cam 2: Mae hyn yn cynnwys defnyddio’r gwaith arolygu i nodi’r cyfleoedd a’r cyfyngiadau ar y safle a chynnig rhai syniadau cychwynnol a dyluniadau cynnar ar gyfer y datblygiad arfaethedig.  Byddwn yn cael adborth ar y syniadau hyn oddi wrth amrywiaeth o arbenigwyr technegol a’r gymuned er mwyn gallu datblygu’r opsiwn a ffefrir ar gyfer y dyluniad.

Rydym wedi cwblhau’r cam hwn ac yn paratoi ar gyfer gweithgarwch cam 3.

Cam 3 Opsiwn a Ffefrir (Mehefin 2023 – Yn gynnar yn 2024):

Rydym wedi dechrau’r cam Ymgynghori Cymunedol Cyn Ymgeisio ar gyfer y datblygiad arfaethedig ac mae gan y gymuned a rhanddeiliaid eraill gyfle i roi sylwadau ar y cynigion. Mae set lawn o gynlluniau ac adroddiadau am y datblygiad arfaethedig ar gael yn: www.lrmplanning.com/public-consultation

Cam 4 Cais Cynllunio (Dechrau 2024): Gobeithiwn allu cyflwyno cais cynllunio ar ddechrau 2024.  Bydd y gymuned a rhanddeiliaid eraill yn cael cyfle i roi sylwadau pellach ar y cynigion bryd hynny.

Rydym wedi dechrau’r cam Ymgynghori Cymunedol Cyn Ymgeisio ar gyfer y datblygiad arfaethedig ac mae gan y gymuned a rhanddeiliaid eraill gyfle i roi sylwadau ar y cynigion. Mae set lawn o gynlluniau ac adroddiadau am y datblygiad arfaethedig ar gael yn: www.lrmplanning.com/public-consultation

Mae hwn yn gam ymgynghori statudol ffurfiol cyn y gellir cyflwyno cais cynllunio i’r Awdurdod Lleol ac mae’n gyfle arall i breswylwyr lleol.

Cysylltu â ni

Os oes gennych gwestiynu am y prosiect hwn, cysylltwch â ni.





    Lleoliad