Brown stone house partially built with black window frames

Mae’r prosiect tai 100% fforddiadwy wedi’i leoli ar gyffordd Trenchard Drive gyda Glyn Crisial yn ward Llanisien ac mae’n cael ei ddarparu trwy ein partner adeiladu J.G. Hale Construction Limited.

Mae ugain o gartrefi cyngor newydd yn cael eu darparu ar y safle, cymysgedd o 2, 3 a 4 ystafell wely, er mwyn gwneud y defnydd gorau o’r safle, mae ein dyluniadau o anheddau wedi cael eu hystyried yn ofalus o’r cychwyn cyntaf gyda gofal yn cael ei roi i gymeriad lleol yr ardal.

Mae ein holl anheddau fforddiadwy ar draws y cynllun wedi’u cynllunio i fodloni gofynion Safon Ddylunio Caerdydd, Cartrefi Gydol Oes a Gofynion Ansawdd Datblygu Llywodraeth Cymru.  Bydd y cynllun hefyd yn elwa ar gyflawni safon Aur Diogelu drwy Ddylunio.

Mae pob eiddo wedi cael ei ddylunio gyda dull ffabrig yn gyntaf i sicrhau bod ei berfformiad ynni yn rhagori ar y Rheoliadau Adeiladu presennol a bydd pob eiddo yn cyflawni TPY A.

Un o brif amcanion y Cyngor yw darparu cartrefi ynni-effeithlon fydd yn helpu i fynd i’r afael â thlodi tanwydd yn y ddinas. Dylai’r datblygiad newydd yng Nghanolfan Iorwerth Jones fod yn cydymffurfio â Safon Ddylunio’r Cyngor ar gyfer Rhaglen Prosiect Partneriaeth Tai Caerdydd.

  • Bydd yr holl wres a dŵr poeth yn y tai drwy Bwmp Gwres Ffynhonnell Aer (ASHP) fydd yn helpu i ostwng biliau tanwydd a lleihau allyriadau carbon.
  • Mae nodweddion y System Dylunio Cynaliadwy (SDCau) yn rhan annatod o’r cynllun i ddarparu defnydd effeithlon o dir.
  • Dylai’r datblygiad newydd adlewyrchu dull Ffabrig yn Gyntaf y Cyngor gan gyflawni cynnydd o 17% o leiaf ar y Rheoliadau Adeiladu.

Statws Presennol

Bydd y gwaith ar y briffordd yn dechrau yn syth, rydym nawr yn rhagweld cwblhau pob un o’r 20 eiddo ym mis Mai.

Cysylltu â ni

Os oes gennych gwestiynu am y prosiect hwn, cysylltwch â ni.





    Lleoliad