An artist impression of Highfields houses, with traditional exterior and stone walls.

Gan ddefnyddio safle tir llwyd cyfyngedig mewn lleoliad hynod gynaliadwy, rhoddodd Cyngor Caerdydd hen safle Canolfan Ddydd Highfields i raglen adeiladu tai’r cyngor i ddarparu tai fforddiadwy y mae mawr eu hangen mewn ward â galw mawr ond cyflenwad isel.

Highfields yw ein datblygiad Passivhaus blaenllaw sydd wedi’i ardystio ar gyfer ynni isel sy’n cael ei gyflawni drwy ein partneriaeth Cartrefi Caerdydd arobryn gyda Wates Residential.

Ac mae’n rhaglen sy’n dal i gyflawni! Oherwydd y dull partneru rydym wedi’i ddatblygu gyda Wates, roeddem yn gallu ymgymryd â phecyn galluogi o waith ymhell cyn cytuno ar y prif gontract. Mae hyn wedi gostwng risgiau’r prosiect yn sylweddol ac wedi lleihau’r rhaglen gyffredinol.

Bydd 42 o dai fforddiadwy yn cael eu trosglwyddo yn ystod hydref 2022 gan gynnwys 30 o fflatiau passivhaus wedi’u hardystio’n llawn, a adeiladwyd mewn dull traddodiadol dros dri llawr, a 12 o dai ffrâm bren ynni isel – Passivhaus Lite wedi’u hardystio. Mae pob eiddo wedi’i ardystio gan sefydliad Passivhaus.

Mae defnyddio dwy safon ardystiad Passivhaus yn ein galluogi i fonitro pob eiddo i asesu sut y maent yn perfformio ar ôl eu codi a chynhyrchu rhywfaint o ddata go iawn i gymharu perfformiad Passivhaus lite yn erbyn Passivhaus llawn. Mae’r cynllun wedi’i gynnwys mewn prosiect monitro adeiladau carbon isel ehangach gyda phrifysgol Met Caerdydd.

Golygai cyfyngiadau presennol y safle (ac roedd llawer!) bod rhaid i’r tîm dylunio weithio’n eithriadol o galed i sicrhau y gallai cynllun y safle gyflawni datblygiad sy’n cydymffurfio â Passivhaus. Er mwyn sicrhau bod y ‘bwlch perfformiad’ rhwng dylunio a darparu yn cael ei reoli’n gadarn, ymgymerodd tîm y safle â hyfforddiant Passivhaus ac maent wedi gweithredu mesurau rheoli ansawdd tynn iawn ar y safle. Mae’r rheoli ar y gwaith ar y safle wedi bod yn wirioneddol drawiadol.

Mae cyflawni cynllun ardystiedig Passivhaus yn un o amcanion allweddol rhaglen Cartrefi Caerdydd. Roeddem am roi prawf i’r math hwn o ddatblygiad a chael barn uniongyrchol gan denantiaid am eu profiad o fyw mewn cartref Passivhaus.

Dyfarnwyd grant rhaglen Tai Arloesol i’r cynllun gan Lywodraeth Cymru.

Mae’r cynllun yn darparu cartrefi fforddiadwy ynni isel, aer-dynn, wedi’u hinswleiddio’n drylwyr, gyda chostau rhedeg cylch bywyd isel sy’n helpu i leihau’r defnydd ynni gan breswylwyr a lleihau allyriadau carbon. Mae hyn hefyd yn helpu i fynd i’r afael â thlodi tanwydd ac mae’n rhan o’n strategaeth ehangach o ddarparu rhaglen adeiladu carbon isel.

Bydd y cynllun yn darparu cyfanswm o 42 o Gartrefi newydd gan gynnwys:

  • 5 o fflatiau 1 ystafell wely
  • 25 o fflatiau 2 ystafell wely
  • 12 o Dai Rhes 2 ystafell wely

Mae’r tai rhes wedi’u cynllunio i fod yn gartref cychwynnol delfrydol, yn enwedig gan y bydd y biliau gwresogi yn isel iawn.

Yn ogystal â’r cartrefi newydd, mae llawer iawn o seilwaith gwyrdd yn cael ei ddarparu er mwyn sicrhau ein bod yn creu lle deniadol i fyw ynddo a’n bod yn cael effaith gadarnhaol o fewn y gymuned leol.

Mae’r bloc fflatiau wedi’i gynllunio i sicrhau ardystiad Passivhaus llawn, gyda lefelau uchel o inswleiddio ac athreiddedd aer isel yn darparu cartrefi sy’n gofyn am lai o ynni i’w gwresogi a biliau ynni is i breswylwyr.

Cynlluniwyd y tai rhes i gyrraedd safon Passivhaus-lite llai heriol. Ond mae’r sylw i fanylion gan dîm y safle yn ystod y gwaith adeiladu hyd yma wedi arwain at ganlyniadau profion aer cyfnod cynnar sy’n well na’r gofynion ardystio Passivhaus llawn.

Er bod nwy’n dal i gael ei ddefnyddio fel prif ffynhonnell gwresogi a dŵr poeth, mae’r boeleri combi Viessmann Vitodens 200-W diweddaraf yn cael eu defnyddio; Caiff effeithlonrwydd ynni ei wella ymhellach drwy ddefnyddio adfer gwres MVHR a gwydr triphlyg.

Mae’r prosiect bellach wedi’i gwblhau, a throsglwyddwyd y cartrefi sy’n weddill yn ystod rhan olaf 2022 a dechrau 2023.

Cysylltwch â ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon am y prosiect hwn, cysylltwch â ni.





    Lleoliad