
Mae Adran Datblygu Tai Cyngor Caerdydd yn gofyn am eich barn ar y datblygiad tai arfaethedig ar safle hen dafarn y Wolf’s Castle, a fyddai’n darparu ar gyfer 24 o gartrefi newydd y Cyngor. Mae’r ymgynghoriad hwn yn rhoi cyfle i chi rannu eich barn ar y cynnig cyn i gais cynllunio gael ei gyflwyno i’r Awdurdod Cynllunio Lleol.
Bydd set lawn o gynlluniau ac adroddiadau ategol ar gael o ddechrau’r ymgynghoriad yn https://amityplanning.co.uk/former-wolfs-castle-inn o ddydd Gwener 9 Ionawr 2026.
Rydym yn croesawu eich adborth, sy’n gallu cael ei roi yn y ffordd ganlynol.
E-bost: mike@amityplanning.co.uk
Post: Amity Planning, Ystafell 212, Creative Quarter, Caerdydd CF10 1AF
Ffôn: 0774033 8282
Fel rhan o’r broses ymgysylltu, byddwn yn cynnal digwyddiad galw heibio cyhoeddus ddydd Mercher 28 Ionawr, 2 – 7pm yn Hyb Llanisien (Ystafell Gymunedol), 11 Heol yr Orsaf, Llanisien CF14 5LS ger safle’r datblygiad.
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno sylwadau yw dydd Gwener 6 Chwefror 2026.
Bydd y datblygiad arfaethedig yn darparu amrywiaeth o gartrefi cyngor newydd ar gyfer cymuned gynhwysol sydd wedi’u lleoli mewn tirwedd werdd, lle gall trigolion gerdded, beicio a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i gyrraedd siopau, ysgolion a pharciau lleol.
Bydd y datblygiad newydd yn darparu cartrefi cyngor deniadol sy’n effeithlon o ran ynni ac sydd wedi’u cynllunio i wneud y gorau o bob gofod defnyddiadwy gan greu ystafelloedd golau, eang, wrth fodloni anghenion anodd bywyd teuluol.
Bydd cartrefi wedi’u cynllunio i fod yn hawdd byw ynddynt ac yn effeithlon i’w rhedeg, a bydd ganddynt y potensial i addasu i amgylchiadau newydd yn ymwneud ag anghenion teuluol modern, gyda gerddi preifat a mannau awyr agored, seilwaith gwefru cerbydau trydan a storio beiciau.
Ein nod yw llunio cynllun cyfoes ond lleol sy’n ymateb i siâp ac amlygrwydd y safle i greu diddordeb treflun, blaenau stryd cryf, gyda chartrefi wedi’u cyfeirio’n benodol er mwyn sicrhau’r golygfeydd a’r cysylltedd gorau posibl â’r dirwedd.
Bydd y datblygiad newydd yn talu gwrogaeth i’r gorffennol, tra’n adlewyrchu elfennau gorau Llanisien heddiw, gan greu datblygiad tai cynhwysol, modern a chynaliadwy.
Bydd y datblygiad yn darparu cartrefi fforddiadwy newydd a ddyluniwyd i fodloni safonau ynni-effeithlon uchel y Cyngor ar gael i bobl sydd ar restr aros Tai Cyngor eu rhentu.
Bydd y cynllun hefyd yn cynnwys Systemau Draenio Dinesig Cynaliadwy (SDCau) a all gynnwys gerddi glaw, plannu coed a seilwaith gwyrdd arall sy’n sicrhau bod dŵr glaw yn draenio’n naturiol i’r ddaear. Mae hyn yn helpu i fynd i’r afael ag effeithiau newid hinsawdd, yn darparu lleoedd gwyrddach a mwy deniadol i fyw ynddynt, ac yn cynyddu bioamrywiaeth leol.
Mae gan y prosiect bedwar cam allweddol (gweler isod). Rydym yn gweithio ar gam 3 ar hyn o bryd:
Cam 1 – Gwaith arolygu a chasglu gwybodaeth (wedi’i gwblhauol):
Mae’r cam hwn yn cynnwys cynnal yr holl waith arolygu angenrheidiol ar y safle, fel arolygon coed, ecoleg a chyflwr safle. Maent yn dweud popeth sydd angen i ni ei wybod am y safle i helpu i lunio dyluniad y datblygiad arfaethedig. Dechreuodd y rhain yn 2024 a byddant yn parhau tan ddechrau 2025.
Cam 2 – Cyfleoedd a chyfyngiadau (Wedi’i gwblhauol):
Mae hyn yn cynnwys defnyddio’r gwaith arolygu i nodi’r cyfleoedd a’r cyfyngiadau ar y safle a chynnig rhai syniadau cychwynnol a dyluniadau cynnar ar gyfer y datblygiad arfaethedig. Byddwn yn cael adborth ar y syniadau hyn gan y gymuned ac amrywiaeth o arbenigwyr technegol, er mwyn gallu datblygu’r opsiwn a ffefrir ar gyfer y dyluniad. Byddwn yn anelu at gwblhau’r cam hwn yn hanner cyntaf 2025.
Cam 3 – Opsiwn a ffefrir (Cam presennol):
Mae’r cam hwn yn cynnwys datblygu’r opsiwn a ffefrir yn fanylach, yn barod ar gyfer cais cynllunio. Bydd y cam hwn yn cynnwys Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio (YCY) gyda’r gymuned a rhanddeiliaid eraill.
Bydd set lawn o gynlluniau ac adroddiadau ategol ar gael o ddechrau’r ymgynghoriad yn https://amityplanning.co.uk/former-wolfs-castle-inn o ddydd Gwener 9 Ionawr 2026.
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno sylwadau yw dydd Gwener 6 Chwefror 2026.
Yn dilyn yr ymgynghoriad hwn, byddwn yn ystyried yr holl sylwadau sy’n dod i law cyn cwblhau’r cynigion a’u cyflwyno i’r Awdurdod Cynllunio Lleol fel cais cynllunio. Bydd cyfle arall i wneud sylwadau ar y cynnig yn uniongyrchol i’r Awdurdod Cynllunio Lleol fel rhan o’r broses cais cynllunio ffurfiol.
Cam 4 – Cais cynllunio:
Cyflwynir cais cynllunio ar gyfer y datblygiad arfaethedig yn y Gwanwyn 2026, er mwyn i’r gymuned a rhanddeiliaid eraill gael cyfle i wneud sylwadau pellach ar y cynigion.
Rydym bellach yn datblygu’r opsiwn a ffefrir yn fanylach, yn barod ar gyfer cais cynllunio. Mae’r cam hwn yn cynnwys Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio (YCY) gyda’r gymuned a rhanddeiliaid eraill. Byddwn yn rhoi gwybod i drigolion am y gweithgaredd hwn drwy lythyr at eich drws, i’r rhai sy’n byw gerllaw, ac yn diweddaru’r wefan a’r cyfryngau cymdeithasol.
Yn dilyn hynny, cyflwynir cais cynllunio ar gyfer y datblygiad arfaethedig, er mwyn i’r gymuned a rhanddeiliaid eraill gael cyfle i wneud sylwadau pellach ar y cynigion.
Cysylltwch â ni
Os oes gennych gwestiynau neu bryderon am y prosiect hwn, cysylltwch â ni.