Yn ddiweddar, rydym wedi penodi tîm dylunio dan arweiniad penseiri Powell Dobson i ddechrau cynllunio cynllun ar gyfer cartrefi cyngor newydd sy’n defnyddio ynni’n effeithlon ar hen Glwb Cymdeithasol ac Athletau’r Tyllgoed.
Mae’r safle’n cael ei ystyried i ddarparu amrywiaeth o dai i ddiwallu anghenion y gymuned leol, sy’n cynnwys cymysgedd o dai teuluol lled-wahanedig a thai teras. Gallai’r cynigion hefyd gynnwys byngalo wedi’i ddylunio i fod yn llety â chymorth i bobl ag anabledd dysgu.
Bydd y mast telathrebu presennol sydd ar do’r Clwb Cymdeithasol ar hyn o bryd yn aros ar y safle ar ôl i’r adeilad gael ei ddymchwel a bydd yn cael ei adleoli’n ofalus i adlewyrchu cymeriad yr ardal a datblygiad newydd.
Bydd y cynllun yn uchelgeisiol ac o ansawdd uchel. Drwy ddylunio da rydym yn gobeithio darparu:
- Cymdogaeth ddeniadol a diogel ar gyfer byw a magu teulu.
- Cartrefi fforddiadwy newydd sy’n defnyddio ynni’n effeithlon, yn naturiol olauac yn awyrog.
- Cartrefi wedi’u cynllunio o amgylch teuluoedd modern, gyda gerddi preifat, mannau gwefru cerbydau trydan a storio beiciau.
- Plannu coed newydd a chysylltiadau gwyrdd sy’n parchu cymeriad Parc y Tyllgoed.
- Llwybr gwell i gerddwyr drwy’r safle sy’n cysylltu Ferrier Road â Plasmawr Road.
Bydd y datblygiad newydd yn darparu cartrefi teuluol fforddiadwy newydd wedi’u dylunio i fodloni safonau effeithlonrwydd ynni uchel y Cyngor.
Byddant ar gael i’w rhentu i bobl ar y rhestr aros Tai Cyngor a byddant yn cynnwys 2,3 a 4 ystafell wely.
Bydd y cynllun hefyd yn cynnwys byngalo i oedolion sydd ag anawsterau dysgu. Bydd hyn yn cael ei staffio 24 awr y dydd er mwyn helpu preswylwyr i fyw’n annibynnol.
Bydd y cynllun yn cynnwys System Draenio Dinesig Cynaliadwy (SDDC) sy’n cynnwys gerddi glaw, plannu coed a seilwaith gwyrdd arall sy’n sicrhau bod dŵr glaw yn draenio’n naturiol i’r ddaear. Mae hyn yn helpu i fynd i’r afael ag effeithiau newid yn yr hinsawdd, yn darparu lleoedd gwyrddach a mwy deniadol i fyw ynddynt, ac yn cynyddu bioamrywiaeth leol.
Bydd y mast telathrebu presennol hefyd yn cael ei ailddatblygu ar y safle a’i gynllunio i barchu ei leoliad.
Bydd y prosiect yn symud ymlaen mewn pedwar cyfnod allweddol (gweler isod). Ar hyn o bryd rydym yng ngham 2:
Cam 1 Gwaith arolygu a chasglu gwybodaeth:
Mae’r cam hwn yn cynnwys cynnal yr holl waith arolygu angenrheidiol ar y safle, megis coed, ecoleg ac arolygon cyflwr safleoedd. Maent yn dweud popeth y mae angen i ni ei wybod am y safle i helpu i lunio dyluniad y datblygiad arfaethedig. Dechreuodd y rhain yn 2020 a byddant yn parhau tan ddiwedd haf 2022.
Cam 2 (Ar Waith – Cwblhau 2023):
Mae Cam 2 yn cynnwys defnyddio’r gwaith arolygu i nodi’r cyfleoedd a’r cyfyngiadau ar y safle a chynnig rhai syniadau cychwynnol a dyluniadau cynnar ar gyfer y datblygiad arfaethedig. Byddwn yn cael adborth gan y gymuned ac amrywiaeth o arbenigwyr technegol ar y syniadau hyn er mwyn gallu datblygu opsiwn a ffefrir ar gyfer y dyluniad. Byddwn yn anelu at gwblhau’r cam hwn yn 2023.
Opsiwn a Ffefrir Cam 3 (2023):
Mae’r cam hwn yn cynnwys datblygu’r opsiwn a ffefrir yn fanylach, yn barod ar gyfer cais cynllunio. Bydd y cam hwn yn cynnwys Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio gyda’r gymuned a rhanddeiliaid eraill.
Cais Cynllunio Cam 4 (2023):
Gobeithiwn allu cyflwyno cais cynllunio ar gyfer y datblygiad arfaethedig yn gynnar yn 2023. Bydd y gymuned a rhanddeiliaid eraill yn cael cyfle i roi sylwadau pellach ar y cynigion ar hyn o bryd.
Rydym am ddeall eich barn am ble rydych yn byw, beth sy’n bwysig i chi fel preswylwyr a gwahodd eich barn ar ein syniadau ar gyfer y datblygiad. Rydym yn trefnu digwyddiad cymunedol i rannu ein syniadau cynnar gyda chi am y cynllun. I ddweud eich barn wrthym, gallwch weld a chwblhau’r holiadur.
Gobeithiwn gynnal y digwyddiad yn hydref 2022, fel bod y gymuned yn cael cyfle i ddylanwadu ar y cynlluniau cyn penderfynu ar yr opsiwn a ffefrir. Byddwn yn hysbysebu’r dyddiadau allweddol ar ôl iddynt gael eu cytuno.
Gallwch gysylltu â ni am y datblygiad ar unrhyw adeg drwy’r blwch post datblygu tai DatblyguTai@caerdydd.gov.uk.
A yw Clwb Cymdeithasol ac Athletau’r Tyllgoed yn dal i weithredu?
Rhoddodd y Clwb y gorau i fasnachu yn 2018
Pwy sy’n berchen ar y tir?
Cyngor Caerdydd sy’n berchen ar y tir.
Beth fydd yn digwydd i’r mast telathrebu sydd wedi’i leoli ar adeiladau’r Clwb ar hyn o bryd?
O dan delerau’r brydles, bydd y mast telathrebu yn cael ei ail-ddarparu o fewn y safle
Pryd fydd yr adeiladau’n cael eu dymchwel?
Pan ddatblygir y dyluniad a bod lleoliad newydd yn cael ei gytuno ar gyfer y mast telathrebu, yna gellir dymchwel yr adeiladau
A allaf gael fy ystyried ar gyfer cartref?
I’w ystyried, ewch i Tai ar-lein
Cysylltu â ni
Os oes gennych gwestiynu neu bryderon am y prosiect hwn, cysylltwch â ni.